Mae Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi cytuno ar fframwaith cyllidol newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Mae’r fframwaith cyllidol yn datgan sut caiff Llywodraeth Cymru ei chyllido yn dilyn datganoli treth dir y dreth stamp, y dreth dirlenwi a chyfraddau treth incwm Cymru.
O dan y trefniadau newydd mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno y bydd Cymru’n cael lefel deg o gyllid ar gyfer y tymor hir.
Cyflawnir hyn drwy wneud y canlynol:
- Creu ffactor newydd yn seiliedig ar anghenion fel rhan o fformiwla Barnett i benderfynu ar y newidiadau yn y grant bloc mewn perthynas â gwariant datganoledig – mae hyn yn adeiladu ar y llawr cyllido a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU yn Adolygiad Gwariant 2015. Bydd y ffactor newydd, seiliedig ar anghenion, yn cael ei bennu yn 115% fel yr argymhellir gan Gomisiwn Holtham. Er bod cyllid cymharol yng Nghymru’n parhau’n uwch na’r lefel anghenion a gafodd ei datgan gan Holtham, bydd newidiadau mewn cyllid drwy fformiwla Barnett yn cael eu lluosogi gan ffactor drawsnewidiol o 105%.
- Defnyddio’r model cymharol i benderfynu ar newidiadau yn y grant bloc mewn perthynas â datganoli treth - mae hyn yn ystyried capasiti treth cymharol Cymru ac, ochr yn ochr â fformiwla Barnett, mae’n sicrhau bod newid poblogaeth yn cael ei drin yn gyson yng nghyllid grant bloc Llywodraeth Cymru. Gweithredir hyn ar gyfer treth dir y dreth stamp, y dreth dirlenwi a phob band o dreth incwm.
Hefyd, mae’r fframwaith cyllidol yn datgan y canlynol:
- Pwerau benthyca cyfalaf cynyddol – bydd uchafswm benthyca cyfalaf cyffredinol Llywodraeth Cymru yn cynyddu i £1bn a’r uchafswm blynyddol i £150m.
- Cronfa newydd i Gymru – bydd cronfa unigol i Gymru’n cael ei chreu i alluogi Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb yn well, gan gynnwys y refeniw treth newydd.
- Goruchwyliaeth annibynnol – bydd rôl i gyrff annibynnol ble mae angen, i gyfrannu at faterion perthnasol i weithredu’r fframwaith cyllidol.
Hefyd mae’r fframwaith yn braenaru'r tir ar gyfer cyflwyno cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru ym mis Ebrill 2019. Mae hyn yn dibynnu ar ddileu gofyniad y refferendwm drwy gyfrwng Bil Cymru, sydd ger bron y Senedd ar hyn o bryd, a Llywodraeth Cymru’n datgan ei bwriad i gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford:
“Rydw i’n falch ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb am fframwaith cyllidol newydd sy’n rhoi sylfaen tymor hir a sefydlog i’n cyllid ni. Dyma gytundeb sy’n deg i Gymru ac i weddill y DU.
“Mae’n sicrhau cyllid teg i Gymru ar gyfer y tymor hir, rhywbeth yr ydyn ni wedi gofyn amdano’n gyson, ac mae’n adeiladu ar waith Comisiwn Holtham a’r comisiwn trawsbleidiol, Comisiwn Silk.
“Mae’r pecyn yma o fesurau’n braenaru’r tir ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol yng Nghymru. Ond, yn allweddol, mae’n gwarchod ein cyllideb rhag yr ystod o risgiau diangen a allai godi yn dilyn datganoli pwerau trethu o 2018 ymlaen ac mae’n darparu hyblygrwydd ychwanegol i reoli ein hadnoddau.”
Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrh. David Gauke:
“Ar ôl trafodaethau adeiladol, rydyn ni wedi cytuno ar setliad cyllidol teg a thymor hir gyda Llywodraeth Cymru. Mae’r llwybr yn glir yn awr i Gynulliad Cymru ganiatáu gweithredu Bil Cymru. Rydyn ni’n cyflawni ar ein hymrwymiadau a gall Llywodraeth Cymru benderfynu yn awr sut i ddefnyddio ei phwerau a’i chyfrifoldebau ychwanegol i ddatblygu a chefnogi economi Cymru.”