Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Rhagfyr 2024.

Cyfnod ymgynghori:
30 Hydref 2024 i 11 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio eich barn ar baramedrau ymarfer ar gyfer rôl y cydymaith nyrsio cofrestredig. Y bwriad yw ei wahaniaethu oddi wrth rôl y nyrs gofrestredig.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Nod yr ymgynghoriad hwn yw:

  • pennu'r elfennau o rôl y nyrs gofrestredig na ellir eu dirprwyo i'r cydymaith nyrsio cofrestredig
  • pennu'r gwahaniaethau rhwng rolau'r nyrsys cofrestredig a'r cydymaith nyrsio cofrestredig
  • pennu paramedrau ymarfer ar gyfer rôl y cydymaith nyrsio cofrestredig yng Nghymru

Gwybodaeth ychwanegol

Ar 12 Tachwedd 2024 fe wnaethom ychwanegu 3 chwestiwn at yr ymgynghoriad ar ei effaith ar y Gymraeg. Os ydych eisoes wedi cyflwyno eich ymateb ac yr hoffech ateb y cwestiynau hyn, e-bostiwch ansaddanyrsio@llyw.cymru.

Help a chymorth

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.