Cytundebau dwyochrog trawsbynciol sydd wedi’u llofnodi gan Lywodraeth Cymru a gwledydd a rhanbarthau ar draws y byd.
Mae cytundeb dwyochrog trawsbynciol yn cofnodi dealltwriaeth rhwng dau barti na fwriedir iddo rwymo mewn cyfraith. Gallant fod ar ffurf un ddogfen a gallant fod ag enwau amrywiol.
Ers datganoli, mae Gweinidogion Cymru wedi llofnodi nifer o gytundebau dwyochrog trawsbynciol gyda gwledydd a rhanbarthau eraill er mwyn meithrin perthynas sy'n fuddiol i bawb a sbarduno cydweithredu pellach ar draws nifer o feysydd polisi.
O ystyried eu natur ddi-rwymiad, nid yw rhai cytundebau yn cael eu hadnewyddu tra bo eraill yn darfod ac yn cael eu defnyddio’n llai a llai dros amser. Gall hyn fod o ganlyniad i newid mewn ffocws polisi, diffyg ewyllys gwleidyddol, neu yn syml mae'r cydweithio y cytunwyd arno wedi'i gyflawni neu wedi dod i ben yn naturiol. Mae'r tabl canlynol yn rhestru ein cytundebau dwyochrog trawsbynciol gweithredol ar lefel gwlad neu ranbarthol.
Québec: Datganiad o Fwriad
Llofnodwyd 2020
Meysydd cydweithio:
- Yr Economi
- Arloesi
- Diwylliant
- Polisi iaith
- Addysg
Gwlad y Basg: Memorandwm Dealltwriaeth
Ail-lofnodwyd yn 2021
Meysydd cydweithio:
- Symudedd a Thrafnidiaeth
- Yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd
- Technoleg, Arloesi a Chystadleugarwch
- Ynni’r Môr
- Bwyd-Amaeth
- Addysg a Hyfforddiant
- Strategaeth a Pholisi Cyllidol
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Busnes
Iwerddon: Datganiad ar y Cyd
Llofnodwyd 2021
Meysydd cydweithio:
- Ymgysylltu Gwleidyddol a Swyddogol
- Yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd
- Masnach a Thwristiaeth
- Addysg ac Ymchwil
- Diwylliant, Iaith a Threftadaeth
- Cymunedau, Diaspora a Chwaraeon
Rhaglawiaeth Oita: Memorandwm Dealltwriaeth
Llofnodwyd 2022
Meysydd cydweithio:
- Y Celfyddydau a Diwylliant
- Chwaraeon
- Y Byd Academaidd
- Twristiaeth
- Bwyd a Diod
Fflandrys: Memorandwm Dealltwriaeth
Llofnodwyd 2023
Meysydd cydweithio:
- Digido
- Addysg
- Ymchwil
- Dyfodol Cynaliadwy
- Polisi iaith
- Gofal Cymdeithasol
- Diwylliant
Llydaw: Memorandwm Dealltwriaeth
Ail-lofnodwyd yn 2023
Meysydd cydweithio:
- Diwylliant
- Polisi Iaith
- Twristiaeth
- Treftadaeth Naturiol a Diwylliannol
- Datblygu Cynaliadwy
- Addysgu ac Ymchwil
- Ieuenctid, Chwaraeon a Dinasyddiaeth Ewropeaidd
- Amaethyddiaeth, Bwyd-Amaeth a Datblygu Gwledig
- Yr Economi ac Arloesi
- Seiberddiogelwch
- Iechyd, Polisi Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Birmingham, Alabama: Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol
Llofnodwyd 2023
Meysydd cydweithio:
- Y Celfyddydau a Diwylliant
- Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd
- Addysg
Baden-Württemberg: Cyd-ddatganiad Cydweithredu
Llofnodwyd 2023
Meysydd cydweithio:
- Masnach ac Entrepreneuriaeth
- Gwyddoniaeth ac Ymchwil
- Addysg ac Ieuenctid
- Diwylliant a Chymunedau
- Yr Amgylchedd a Diogelu’r Hinsawdd
Silesia: Memorandwm Dealltwriaeth
Llofnodwyd 2024
Meysydd cydweithio:
- Gwyddorau Bywyd
- Seiberddiogelwch
- Trawsnewidiad gwyrdd tirweddau ôl-ddiwydiannol
- Gwyddoniaeth ac arloesedd
- Addysg
- Twristiaeth