Neidio i'r prif gynnwy

Mae ACC yn Adran o Lywodraeth Cymru. Mae’n anweinidogol. Mae hyn yn golygu, er ei fod yn rhan lawn o Lywodraeth Cymru, fod gwahaniad rhwng Gweinidogion Cymru ac ACC o ran y data sydd gan ACC a'r penderfyniadau gweithredol y mae ACC yn eu gwneud. Ei swyddogaeth a'i gyfrifoldeb cyffredinol yw casglu a rheoli Trethi datganoledig Trafodiadau Tir a Gwaredu Tirlenwi.

O fewn y cyd-destun hwn, diben cyffredinol ACC yw:

  • dylunio a darparu gwasanaethau cyllid cenedlaethol i Gymru
  • arwain y gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru

Mae'r ddogfen hon yn disodli fersiynau blaenorol o'r ddogfen fframwaith.

Rhan 1: Llywodraethu a rheoli

Er mwyn gweithredu trethi datganoledig Cymru, rhoddodd Deddf Cymru 2014 y cymhwysedd deddfwriaethol i'r Senedd benodi gweision sifil i gorff y goron gyda swyddogaethau rheoli a chasglu trethi datganoledig a materion cyllid llywodraeth leol. Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn sefydlu ACC i gasglu a rheoli trethi datganoledig.

Cynllunio corfforaethol

Bydd ACC yn paratoi Cynllun Corfforaethol i'w gyflwyno i'w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru erbyn 31 Mawrth fan bellaf bob tair blynedd. Mae cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y cytunir arnynt rhwng Gweinidogion ac ACC. Wedi iddo gael ei gymeradwo, caiff y cynllun ei osod gerbron y Senedd gan ACC a'i gyhoeddi.

Bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn nodi mewn llythyr cylch gwaith cyfnodol y meysydd ffocws yn unol â'r Cynllun Corfforaethol tair blynedd. Bydd y llythyr yn nodi'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer y cyfnod cynllunio.

Gall ACC adolygu a chyflwyno cynllun diwygiedig ar unrhyw adeg i'w gymeradwyo. Gall Gweinidogion Cymru gyflwyno llythyr cylch gwaith diwygiedig ar unrhyw adeg.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae 3 pharti’n hanfodol ar gyfer rheoli ACC yn effeithiol. Y rhain yw:

Mae gan bob un o'r rhain rolau penodol, ond sy’n ategu’i gilydd o ran rheoli ac arwain ACC.

Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am system dreth Cymru a'i darpariaeth gan ACC. Mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb penodol (y Gweinidog) yn anfon y llythyr cylch gwaith at Brif Weithredwr ACC sy'n cadarnhau'r cyllid sydd ar gael dros y cyfnod ac yn tynnu sylw at y blaenoriaethau y dylai ACC ganolbwyntio arnynt dros yr un cyfnod. Bydd y Gweinidog yn cyfarfod â Phrif Weithredwr ACC o leiaf bob chwarter i drafod perfformiad ACC. Bydd y Gweinidog yn cyfarfod â Chadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru ddwywaith y flwyddyn. Bydd un o'r cyfarfodydd chwe-misol hyn gyda'r bwrdd cyfan.

Gall y Gweinidog roi cyfarwyddiadau o natur gyffredinol i ACC [troednodiadau 2]. Rhaid i ACC gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau hyn. Ni all y cyfarwyddiadau ymwneud â'r cyfrifon na'r datganiad treth.

Gall y Gweinidog gyfarwyddo Prif Weithredwr ACC fel y byddai’n ei wneud fel arfer gyda Gwas Sifil. Ond ni chaiff cyfarwyddiadau o'r fath gynnwys cyfarwyddiadau penodol yn ymwneud â threthdalwyr unigol ac ni ddylai cyfarwyddiadau o'r fath gael eu hysbysu drwy fynediad at gofnodion sy’n adnabod unigolion.

Mae Bwrdd ACC yn atebol am gyflawniad priodol y swyddogaethau treth a ddirprwyir i ACC. Mae'r Bwrdd yn rhoi sicrwydd bod gan ACC drefniadau llywodraethu priodol ar waith a'i fod yn cael ei reoli a bod ganddo’r adnoddau priodol ar gyfer arfer y dyletswyddau sy'n deillio o'r swyddogaethau treth. Maent yn atebol i'r Senedd a Gweinidogion Cymru.

Mae'r Bwrdd yn dirprwyo swyddogaethau i staff ACC fel y’u nodir yn yr atodlen dirprwyaethau mewnol. Y Bwrdd, fodd bynnag, sy’n parhau i fod yn atebol am arfer y swyddogaethau hynny.

Mae'r Bwrdd yn cefnogi'r sefydliad i gyflawni ei amcanion. Mae eu cyfrifoldebau llawn i'w gweld yn eu cylch gorchwyl.

Mae Prif Weithredwr ACC yn uwch was sifil ac yn aelod o'r Bwrdd. Y Prif Weithredwr yw'r Swyddog Cyfrifyddu (gweler yr adran isod ar atebolrwydd ariannol). Ef/hi sydd â chyfrifoldeb rheoli llinell dros holl staff ACC yn y pen draw ac mae'n atebol am gyflawni amcanion cytunedig ACC fel y’u nodir yn y Cynllun Corfforaethol neu'r llythyr cylch gwaith. Cytunir ar amcanion personol y Prif Weithredwr gyda'r Ysgrifennydd Parhaol.

Penodir y Prif Weithredwr o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi 2016 (DCRhT) ac Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yw ei reolwr llinell.

Staff ACC

Mae cyflogeion ACC yn weision sifil. Maent wedi'u rhwymo gan God y Gwasanaeth Sifil ac fe'u penodir yn unol â Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010. Mae eu telerau a'u hamodau’n cyd-fynd â thelerau gweision sifil Llywodraeth Cymru.

Rhan 2: Rheolaeth ariannol, atebolrwydd ac adnoddau

Swyddog Cyfrifyddu

Y Prif Weithredwr yw Swyddog Cyfrifyddu ACC. Mae'r Swyddog Cyfrifyddu’n gyfrifol am sicrhau bod ACC yn gweithredu yn unol â rheoli arian cyhoeddus Cymru. Mae’n llofnodi'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn ogystal â'r Datganiad Treth. Mae’n atebol yn bersonol am y defnydd o adnoddau ACC yn unol â'r gofynion a bennir gan Weinidogion Cymru. Gellir galw'r Prif Weithredwr i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yw'r Prif Swyddog Cyfrifyddu. Mae Cytundeb Swyddog Cyfrifyddu wedi'i sefydlu rhwng y Prif Swyddog Cyfrifyddu a'r Swyddog Cyfrifyddu.

Cyllid

Fel rhan o broses ddrafft y Gyllideb (gan gynnwys Cyllidebau atodol, fel y bo'n briodol), gwahoddir ACC i nodi ei anghenion o ran adnoddau. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried anghenion adnoddau ACC ochr yn ochr â rhai adrannau eraill Llywodraeth Cymru ac yn ystyried sut i ddyrannu adnoddau er mwyn sicrhau bod gan ACC gyllid digonol ar gyfer cyflawni ei rwymedigaethau statudol a chyflawni ei ymrwymiadau yn y cynllun corfforaethol a'r llythyr cylch gwaith Gweinidogol.

Lle na ellir dod i gytundeb ar gyfer y gyllideb ar gyfer ACC, bydd hawl i gynrychiolaeth. Yn y lle cyntaf, bydd hyn rhwng y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru a'r Ysgrifennydd Parhaol. Os na ellir dod i gytundeb ar lefel swyddogol, bydd hawl i gynrychiolaeth rhwng Prif Weithredwr ACC a Gweinidogion Cymru.

Bydd y Gweinidog yn anfon llythyr cylch gwaith at y Prif Swyddog Gweithredol i gadarnhau cyllideb ACC ar ddechrau pob blwyddyn ariannol ac yn dilyn unrhyw newidiadau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud taliadau ariannu misol i ACC yn unol â phroffil gwariant y cytunwyd arno.

Taliadau i Gronfa Gyfunol Cymru

Rhaid i ACC dalu symiau a gesglir wrth iddo arfer ei swyddogaethau (treth, cosbau a llog) i Gronfa Gyfunol Cymru, ond gall ACC wneud hynny ar ôl didynnu alldaliadau ar ffurf ad-daliadau trethi datganoledig (gan gynnwys llog ar ad-daliadau o'r fath) a chredydau mewn perthynas â threthi datganoledig.

Telir arian wedi'i glirio o fewn y cyfrif treth i'r Gronfa fel y'i pennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Adroddiad blynyddol a chyfrifon

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol bydd ACC yn llunio adroddiad blynyddol, cyfrifon ei wariant wrth gyflawni ei swyddogaethau statudol, yn ogystal â datganiadau treth sy'n rhoi manylion refeniw a gasglwyd ar gyfer pob un o'r trethi datganoledig a thalu’r refeniw hwnnw i Gronfa Gyfunol Cymru. Bydd y cyfrifon blynyddol a'r datganiadau treth yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu gan archwilwyr a benodir ganddo.

Bydd yr adroddiad blynyddol, y cyfrifon archwiliedig a'r datganiadau treth yn cael eu gosod gerbron Senedd Cymru ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan ACC, yn ogystal â gwefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Llyfrgell Brydeinig. Bydd copi’n cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru cyn ei gyhoeddi.

Ariannu costau eithriadol ymgyfreitha

Mae cytundeb ar wahân ar waith rhwng Gweinidogion Cymru ac ACC sy'n manylu ar drefniadau i ACC gael mynediad at gyllid ychwanegol er mwyn mynd i'r afael â chostau eithriadol i ymgyfreitha anghydfodau treth lle bo angen.

Troednodiadau

[1] As constituted by s2 TCMA 2016 and comprised of a Non-Executive Chair, Non-Executive Members, Executive Members and Staff Elected Member.

[2] s15 TCMA 2016