Neidio i'r prif gynnwy

Mae cytundeb newydd rhwng y GIG a’r cyhoedd yn rhan ganolog o gynllun i barhau i leihau’r amseroedd aros hiraf eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles yn cyhoeddi strategaeth uchelgeisiol i leihau’r rhestr aros o 200,000, dileu amseroedd aros 2 flynedd o hyd ar gyfer triniaethau a gynlluniwyd ac ailgyflwyno uchafswm o 8 wythnos o aros am brofion erbyn mis Mawrth 2026.

Bydd hefyd yn amlinellu’r “cytundeb â chleifion”, sef cytundeb newydd a fydd yn helpu pobl i wirio eu safle ar y rhestr aros yn ogystal â mynd i’r afael â’r 700,000 o apwyntiadau cleifion allanol sy’n cael eu colli neu eu canslo bob blwyddyn.

Y gobaith yw y bydd defnydd mwy effeithlon o adnoddau gofal iechyd yn cael effaith sylweddol ar nifer y bobl sy’n cael triniaeth yng Nghymru.

Bydd y “cytundeb â chleifion” newydd yn cael ei ymgorffori yn y canllawiau rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi’u hadnewyddu, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn. Mae’r cytundeb yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd y GIG yn darparu mynediad cyflymach at ofal a gynlluniwyd a bydd hefyd yn rhoi gwybod i bobl am ba mor hir y gallant ddisgwyl aros pan fyddant yn cael eu hychwanegu at y rhestr.
  • Drwy ddiweddariadau i ap GIG Cymru, a fydd ar gael o fis Mehefin ymlaen, bydd pobl yn gallu gwirio am ba mor hir y bydd rhaid iddynt aros.
  • Dim ond pobl sy’n ffit ac yn ddigon iach i elwa ar lawdriniaeth fydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr aros am driniaethau llawfeddygol - y rheswm am hyn yw bod tystiolaeth yn dangos eu bod yn fwy tebygol o wella’n gyflym.
  • Bydd y GIG yn helpu pobl i fod mor iach a heini â phosibl cyn eu triniaethau.
  • Bydd pobl yn cael cynnig dau ddyddiad ar gyfer apwyntiadau - os na allant fynd iddynt neu os nad ydynt yn mynd iddynt heb reswm da, byddant yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros. Bydd hefyd yn ofynnol i fyrddau iechyd leihau nifer yr apwyntiadau a llawdriniaethau sy'n cael eu canslo.

Bydd pobl hefyd yn cael gwybodaeth am ddewisiadau amgen i driniaethau llawfeddygol a chymhlethdodau posibl, gan helpu i leihau nifer y bobl sy’n difaru cael llawdriniaethau.

Wrth drafod y cynllun a’r cytundeb, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles:

Bydd y Gwasanaeth Iechyd yn gwneud popeth o fewn ei allu i flaenoriaethu mynediad cyflymach at driniaethau. Yn gyfnewid am hynny, rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd wneud popeth o fewn eu gallu i flaenoriaethu eu hapwyntiadau a mynd iddyn nhw, fel y gallwn ni, gyda’n gilydd, wneud y defnydd gorau posib o adnoddau prin y Gwasanaeth Iechyd.

Allwn ni ddim parhau i golli cymaint ag 1 o bob 7 apwyntiad oherwydd nad yw pobl yn mynd i’w hapwyntiadau, neu ddim yn gallu gwneud hynny, a 10% pellach sy’n cael eu canslo gan y Gwasanaeth Iechyd. Mae’r apwyntiadau hyn sy’n cael eu colli yn oedi gofal i bawb ac yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr a allai fod yn helpu pobl eraill.

Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl sydd ag iechyd gwell yn gwella o lawdriniaethau yn gyflymach, yn wynebu llai o gymhlethdodau ac yn treulio llai o amser yn yr ysbyty. Drwy sicrhau bod pobl wedi'u paratoi'n dda ac yn cael yr holl wybodaeth am eu dewisiadau o ran triniaethau, gallwn ni gyflawni canlyniadau gwell wrth wneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod uchelgeisiol o ailosod a lleihau maint cyffredinol y rhestr aros o 200,000 erbyn diwedd mis Mawrth 2026, gan ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd i ailgyflwyno'r targed 8 wythnos ar gyfer profion diagnostig a sicrhau nad oes neb yn aros mwy na 2 flynedd am driniaeth a gynlluniwyd.

Bydd yn ofynnol i fyrddau iechyd barhau i drawsnewid y ffordd y maent yn darparu gofal a gynlluniwyd dros y 12 mis nesaf, gan gynnwys rhoi mwy o weithio rhanbarthol ar waith a hynny er mwyn gwneud gwasanaethau yn fwy effeithiol ac effeithlon. Bydd hefyd yn ofynnol iddynt weithredu argymhellion Grŵp Cynghori’r Gweinidogion ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG, y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi ddiwedd mis Ebrill.