Neidio i'r prif gynnwy

Cytundeb i gynyddu cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru a Gogledd Lloegr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn fras mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn amlinellu'r berthynas weithio rhwng y ddau sefydliad, â'r nod o sicrhau bod gwaith y naill a'r llall yn cefnogi ac yn ategu symudiadau trafnidiaeth rhwng Gogledd Lloegr a Gogledd Cymru.

Fel rhan o'r cytundeb, bydd "Fforwm Trafnidiaeth Gorllewin Lloegr a Chymru” yn cael ei sefydlu i ddod â rhanddeiliaid trafnidiaeth allweddol at ei gilydd ar ddwy ochr y ffin, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Thrafnidiaeth ar gyfer  Gogledd Lloegr i ategu dull cydgysylltiedig ar gyfer trefnu buddsoddiadau strategol mewn trafnidiaeth sy'n cael effaith ar y ddau ranbarth.

Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig yn cryfhau ymhellach y trefniadau cyfredol ar gyfer gweithio ar y cyd a hyrwyddo cydweledigaeth gyffredin ar gyfer economi sy'n fywiog, yn gynaliadwy ac yn tyfu.

Mae hefyd yn amlinellu ymroddiad y ddau barti i ymgysylltu a chydweithio i sicrhau bod safbwyntiau ac amcanion yn cael eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru a Chynllun Trafnidiaeth Strategol a Rhaglen Fuddsoddi Trafnidiaeth ar gyfer Gogledd Lloegr – bydd y rhain yn cael eu hystyried yr wythnos hon.

Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn hanfodol wrth helpu i gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer teithwyr, cludo nwyddau a'r holl ddefnyddwyr trafnidiaeth rhwng Gogledd Cymru a Gogledd Lloegr, yn ogystal â datblygu gwelliannau trafnidiaeth a fydd yn hybu twf economaidd yn y ddau ranbarth.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog ar gyfer Gogledd Cymru, Ken Skates:  

"Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth glir ar gyfer creu rhwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy ac effeithlon lle mae ansawdd uchel yn rhan integredig, a fydd yn cysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau.

"Bob dydd mae miloedd o bobl yn croesi'r ffin o bob ochr at ddibenion gwaith a hamdden, sy'n golygu y gall buddsoddi mewn un rhanbarth gael effaith ar ganlyniadau economaidd y llall. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gryfhau ein perthynas weithio agos â Thrafnidiaeth ar gyfer Gogledd Lloegr i ddysgu sut gall cysylltiadau trawsffiniol cryf sicrhau bod pobl yng Nghymru a Gogledd Lloegr yn elwa ar fanteision cysylltiadau gwell.

"Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig yn ein helpu i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i roi hwb i'r economi a galluogi'r ddau barti i barhau i ddefnyddio dull cydweithiol ar gyfer mentrau trafnidiaeth sy'n fuddiol i bob parti er lles y cyhoedd sy'n teithio.

"Mae'n wych hefyd i glywed am y Fforwm Trafnidiaeth ar gyfer Gorllewin Lloegr a Chymru a fydd yn cael ei sefydlu. Bydd hyn yn hanfodol wrth ddod â phartneriaid trafnidiaeth at ei gilydd, â'r nod o sicrhau gwelliannau trawsffiniol i drafnidiaeth. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cytuno i Lywodraeth y DU gael ei chynrychioli ar y fforwm, ac y byddwn yn gallu trafod cyfleoedd posibl ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd yn uniongyrchol."

Dywedodd Barry White, Prif Weithredwr Trafnidiaeth ar gyfer Gogledd Lloegr:

"Daeth ein partneriaid at ei gilydd i greu Trafnidiaeth ar gyfer Gogledd Lloegr er mwyn deall yn well lle mae'r cyfleoedd ledled y rhanbarth, a beth yw'r ffordd orau inni ddefnyddio trafnidiaeth i ddod â nhw at ei gilydd.

"Rydyn ni'n gwybod nad yw'r cyfleoedd hyn yn cael eu cyfyngu i'r Gogledd yn unig, ac nad yw system drafnidiaeth sydd wir yn integredig yn cydnabod ffiniau a'r bobl a'r busnesau sy'n eu croesi. Rydyn ni eisiau system drafnidiaeth sy'n arwain y byd. Un sy'n gydgysylltiedig ac yn rhoi pobl yn gyntaf. Mae'r dyhead hwn yn rhan o'n Cynllun Trafnidiaeth Strategol – yn benodol ein coridor rhwng Gorllewin Lloegr a Chymru – a fydd yn ceisio cefnogi twf ym Mharth Menter Coridor Gwyddoniaeth Swydd Gaer, Prosiect Atlantic Gateway, Arc Gogledd Cymru, Porthladd Lerpwl, a Hyb Crewe HS2, i enwi ond ychydig ohonynt.

"Dyna pam rwyf wrth fy modd ein bod wedi llofnodi ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae gan Ogledd Lloegr a Gogledd Cymru yn benodol gymaint o botensial y mae pob un ohonon ni am ei wireddu. Bydd gwneud hyn yn rhan hanfodol o gael economi'r DU yn ôl ar y trywydd iawn."

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, Nigel Adams:

"Mae Llywodraeth y DU wedi ymroddi'n weithredol i wella gwasanaethau trafnidiaeth trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r fforwm hwn a'i aelodau yn ystod y misoedd nesaf. Byddwn yn ymgysylltu â'r holl randdeiliaid ac yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n bodoli ar gyfer trafnidiaeth drawsffiniol, a chyda'n gilydd byddwn yn sicrhau'r effaith a'r manteision gorau posibl ar gyfer defnyddwyr lleol a'r economi ehangach."