Bydd y “cytundeb gwan a siomedig” y cytunwyd arno gan y Prif Weinidog yn gwneud masnach gyda'n marchnadoedd Ewropeaidd pwysicaf yn ddrutach ac yn fwy anodd ar ôl 31 Rhagfyr.
Bydd y “cytundeb gwan a siomedig” y cytunwyd arno gan y Prif Weinidog yn gwneud masnach gyda'n marchnadoedd Ewropeaidd pwysicaf yn ddrutach ac yn fwy anodd ar ôl 31 Rhagfyr, meddai Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford heddiw [30 Rhagfyr].
Yn siarad wrth i'r Senedd gael ei galw'n ôl i drafod y “cytundeb pwysicaf” y bydd y DU yn ei lofnodi mewn 50 mlynedd, dywedodd y Prif Weinidog y byddai effaith Brexit yn cael ei theimlo ym mhocedi pob person.
Ac fe gyhuddodd Lywodraeth y DU o “fandaliaeth ddiwylliannol” drwy wrthod mynediad i bobl ifanc yng Nghymru i raglen Erasmus, y mae Cymru wedi gwneud cymaint i ddylanwadu arni a'i meithrin meddai.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
Mae busnesau eisoes yn gwybod y bydd y cytundeb yn gwneud masnach gyda'n marchnad fwyaf a phwysicaf yn ddrutach ac yn fwy anodd.
Mae methu cynnwys mynediad i'r Farchnad Sengl ar gyfer gwasanaethau'r DU yn golygu y bydd rhaid i fusnesau ddibynnu ar 27 set wahanol o reolau cenedlaethol i fasnachu ar draws yr UE, lle mae ganddynt un heddiw.
I'n dinasyddion, mae'n golygu ciwiau mewn meysydd awyr; fisa ar gyfer ymweliadau hirach; galwadau ffôn symudol drutach a llai o bobl o'r UE yn gallu gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol, yn gofalu am bobl sydd angen help.
I'n pobl ifanc, mae'n golygu fandaliaeth ddiwylliannol drwy eu torri o raglen Erasmus+, y mae pobl o Gymru wedi gwneud cymaint i ddylanwadu arni a'i meithrin. Mae hefyd yn gwadu dyfodol iddynt lle gallant fyw a gweithio'n rhydd ar draws cyfandir Ewrop gyfan.
Heddiw [30 Rhagfyr] bydd y Senedd yn trafod y cytundeb masnach y cytunwyd arno rhwng y DU a'r UE a Bil Perthynas yn y Dyfodol Llywodraeth y DU ar yr un pryd ag y cânt eu trafod yn Nhai Seneddol y DU.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles:
Nid dyma'r cytundeb y galwodd Llywodraeth Cymru amdano neu y byddai wedi'i drefnu. Ond mae'n well na thrychineb dim cytundeb ac mae'n rhoi llwyfan i ni ar gyfer trafod trefniadau gwell yn y dyfodol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid, busnesau, cymunedau a phobl ledled Cymru i helpu i lywio a pharatoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio a'r berthynas newydd â'r UE.