Mae cytundeb ar gyfer diwydiant pysgota Cymru wedi cael ei sicrhau a fydd yn diogelu stoc pysgod Cymru, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Fel rhan o dîm trafod Gweinidogol y DU, cynorthwyodd Llywodraeth Cymru i sicrhau’r cytundeb yng Nghyngor Pysgodfeydd yr UE ym Mrwsel, a ddaeth i ben yn oriau mân bore heddiw.
Sicrhaodd Llywodraeth Cymru gytundebau ar gyfer y canlynol:
- osgoi gwaredu diangen ar ddraenogod y môr a gwarchod buddiannau pysgotwyr masnachol a hamdden
- cynyddu cwotâu ar gyfer penfreision a lledod ym Môr Iwerddon, a lledod chwithig a phenfreision ym Môr Hafren, gan barhau i gyrraedd targedau cynaliadwyedd
- cynyddu’r cwota’n sylweddol ar gyfer morgathod o bob math.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Hoffwn ddiolch i’r pysgotwyr masnachol a’r cynrychiolwyr pysgota hamdden sydd wedi helpu gyda thynnu sylw at y prif broblemau cysylltiedig â draenogod y môr a stoc allweddol arall yng Nghymru. O ganlyniad, roedd modd i ni gyflwyno achos cadarn o Gymru i’r Llywyddiaeth ac i’r Comisiwn, ochr yn ochr â chydweithwyr o Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol ni’n cael eu rheoli’n gynaliadwy. Mae’r cytundeb ystyrlon yma’n cyfrannu llawer at gyflawni’r amcan hwnnw drwy sicrhau canlyniad positif i gymunedau arfordirol y mae eu heconomi a’u bywoliaeth yn dibynnu cymaint ar y môr, gan warchod amgylchedd gwerthfawr y môr ar yr un pryd.
“Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i egwyddorion allweddol y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac mae’r trafodaethau yr wythnos yma’n tanlinellu pwysigrwydd dilyn gwyddoniaeth a thystiolaeth gadarn.
“Mae sicrhau’r cydbwysedd priodol yn y trafodaethau bob amser yn heriol. Mae’r cytundeb yma’n sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng gwarchod buddiannau economaidd pysgotwyr ar raddfa fechan a physgotwyr hamdden a’r angen am symud stoc tuag at sefyllfa ble gellir eu pysgota’n gynaliadwy yn y dyfodo.”