Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cytuno ar fargen gwerth miliynau o bunnoedd, fel rhan o Gyllideb Ddrafft 2017-18.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae'r cytundeb hwn yn darparu pecyn o addewidion gwario sy'n adlewyrchu blaenoriaethau polisi Plaid Cymru, sy'n dod i gyfanswm o £119m.

Mae'n cynnwys: £30m arall ar gyfer addysg bellach ac uwch; £25m ar gyfer llywodraeth leol; a £44m o fuddsoddiad pellach yn y gwasanaeth iechyd. Bydd y Gymraeg yn cael £5m arall diolch i gytundeb y Gyllideb, a bydd cynnydd o £3m yn y cyllid ar gyfer y celfyddydau.

Mae dadansoddiad llawn o'r addewidion gwario yn y cytundeb hwn isod.

Bydd y Gyllideb ddrafft hefyd yn adlewyrchu meysydd polisi ar y cyd lle mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhannu’r un syniadau, fel y amlinellwyd yn y Compact i Symud Cymru Ymlaen, y cytunwyd arno ym mis Mai. Bydd y cyllid a fydd yn cael ei ddyrannu yn y Gyllideb ddrafft i wireddu’r addewidion hyn yn sicrhau bod modd dechrau ar unwaith ar gyflawni yn erbyn y meysydd â blaenoriaeth a rennir hyn.

Cafodd cytundeb y Gyllideb ei negodi drwy'r Pwyllgor Cyswllt ar Gyllid a sefydlwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Yn ogystal â'r addewidion cyllido, cytunwyd hefyd ar amryw o fesurau eraill.

Mae'r rhain yn cynnwys: addewid i ymchwilio i'r opsiynau ar gyfer datblygu cynllun Cymru Gyfan i gynyddu nifer y myfyrwyr meddygol sy'n hanu o Gymru yng Nghymru, gan gynnwys datblygu hyfforddiant meddygol yn y Gogledd; ac ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer cyflymu'r cynllun ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo os bydd rhagor o gyllid cyfalaf ar gael yn sgil Datganiad yr Hydref.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru:

"Mae sefydlu'r Pwyllgor Cyswllt ar Gyllid wedi bod yn garreg filltir wrth i wleidyddiaeth Cymru ddod i oed ac mae'r trafodaethau adeiladol rydyn ni wedi'u cael â Phlaid Cymru wedi cael eu cynnal yn yr un ysbryd.

"Fel y dywedodd y Prif Weinidog ar ddechrau'r Cynulliad hwn, nid oes gan unrhyw blaid fonopoli dros syniadau da ac rydyn ni wedi gallu cynnwys llawer o gynlluniau gwario Plaid Cymru yn y Gyllideb ddrafft hon.

"Mae cytundeb y Gyllideb yn rhoi dechrau arbennig i'r gwaith o gyflawni llawer o bolisïau a rhaglenni allweddol fel bod pobl Cymru yn gallu dechrau gweld y manteision cyn gynted â phosibl."

Cafodd tîm negodi Plaid Cymru ar y pwyllgor ei arwain gan Adam Price AC, Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros Fusnes, yr Economi a Chyllid. Dywedodd ef:

“Ers dechrau'r Cynulliad hwn, mae Plaid Cymru wedi bod yn gwbl glir y byddem yn defnyddio ein rôl fel yr Wrthblaid Swyddogol i sicrhau buddion gwirioneddol i bobl Cymru. Yn y fargen gyllidebol hon, rydyn ni wedi cytuno ar y setliad cyllidebol un flwyddyn mwyaf yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hwn yn becyn gwerth £119 miliwn a fydd yn gwireddu llawer o’r addewidion sydd gan Blaid Cymru yn ei maniffesto, ac a fydd hefyd yn datblygu ar yr addewidion hynny.

“Diolch i rai o'r polisïau sydd wedi'u sicrhau yng nghytundeb Plaid Cymru ar y Gyllideb, bydd amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn lleihau a bydd mwy o feddygon yn gweithio yn y gwasanaeth. Bydd mwy o gymorth yn cael i roi i bobl o'r crud i fyd gwaith, gyda 30 o oriau o ofal plant di-dâl, mwy o fuddsoddiad mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch, a mwy o brentisiaethau o safon yn cael eu cynnig.

"Mae Plaid Cymru hefyd wedi mynd â’r maen i’r wal a gwneud yn siŵr bod buddsoddiad pwysig yn cael ei wneud mewn seilwaith i wella ffyrdd, rheilffyrdd a llwybrau beiciau. Byddwn ni hefyd yn gweld mwy o fuddsoddiad yn y celfyddydau, ac mewn diwylliant a'r Gymraeg ac mae hyn yn newyddion da i bob un ohonon ni sydd am weld y genedl hon yn ffynnu. Yn ogystal â hyn i gyd, bydd y cyllid ychwanegol mae Plaid Cymru wedi'i sicrhau ar gyfer llywodraeth leol yn golygu na fydd cynghorau Cymru yn gweld toriadau nominal yn eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydyn ni'n falch o fod wedi cyflwyno cyllideb y bydd pobl ym mhob cwr o Gymru yn elwa arni; mae Plaid Cymru yn cyflawni fel gwrthblaid effeithiol.” 

Blaenoriaethau gwariant Plaid Cymru sydd wedi’u cynnwys yng nghytundeb y Gyllideb  2017-18 £m
Cyllid i addysg uwch/cyllid i addysg bellach a llwybrau dysgu 30
Croeso Cymru 5
Cymraeg i Oedolion/Asiantaeth Iaith Genedlaethol 5
Cyllid i’r celfyddydau 3
Cyllid ar gyfer gofal diwedd oes 1
Cyllid ar gyfer cynllun peilot i roi diwedd ar dalu am barcio mewn canol trefi  

3

Buddsoddi mewn addysg broffesiynol ym maes gofal iechyd, gan gynnwys ysgolion meddygol 7
Cyfarpar diagnostig  newydd (cyfalaf) 15
Cynyddu’r  gwariant ar iechyd meddwl 20
Rhagor o gyllid i awdurdodau lleol 25
Rhagor o gyllid ar gyfer y rhaglen Llwybrau Diogel i Ysgolion a chludiant i ysgolion 1.5
Cyllid ar gyfer clinigau anhwylderau bwyta a hunaniaeth rywedd 1
Astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth             0.3
Astudiaeth ddichonoldeb i lwybr beicio cenedlaethol 0.2
Cronfa seilwaith porthladdoedd 2
Cyfanswm £119m