Neidio i'r prif gynnwy

Mae disgwyl i gysylltiadau teithio llesol, cyfleusterau gwefru ceir trydan a phrosiectau gwella ffyrdd ledled Cymru elwa o gyfran o £78 miliwn o gyllid o Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, wedi cyhoeddi £78 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau trafnidiaeth lleol yng Nghymru fel rhan o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol.

Bydd y cyllid, a gafodd ei gymeradwyo Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, yn cael ei rannu’n randaliadau o £26 miliwn dros y tair blwyddyn ariannol o 2018/19 ymlaen. 

Bydd pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru a wnaeth gais i Lywodraeth Cymru am gyllid, sef cyfanswm o 82 o geisiadau gwerth £34 miliwn, yn derbyn dyraniad o’r cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn. 

Bydd mwy na 60 o brosiectau naill ai’n cael eu cyllido’n rhannol neu’n llawn yn ystod gweddill 2018/19, a bydd y cynlluniau hefyd yn darparu £7.2 miliwn ychwanegol o gyllid cyfatebol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda’r awdurdodau lleol i sicrhau bod y cynlluniau’n darparu gwerth da am arian ac yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau trafnidiaeth ac economaidd. 

Ymysg y prosiectau a fydd yn elwa o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol drwy’r dyraniadau ychwanegol yn 2018/19 mae Cam Gwella 2D Coridor yr A4119 (Blaenoriaeth a Chyfnewidfa Bysiau Strategol) yng Nghaerdydd gyda £554,000, Ffordd Gyswllt Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin gyda £1,685,000 a Chysylltiadau Cerdded a Beicio Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy gyda £1,008,000.  

Mae’r prosiectau ledled Cymru a fydd yn cael budd o’r cyllid ychwanegol yn cynnwys: 

  • Caerdydd, Teithio Llesol i’r ysgol, £742,000.
  • Tor-faen, cysylltiadau teithio llesol i Ysgol Gyfun Croesyceiliog, £102,900
  • Rhondda Cynon Taf, Pecyn Teithio Llesol, £640,000
  • Sir Benfro, Gosod cyfleusterau gwefru ceir trydan, £168,000
  • Caerdydd, llogi beiciau ar y stryd, £796,000
  • Abertawe, Coridor Ffordd Fabian (Pont Baldwin), £1,800,000
  • Powys, Darparu Bysiau o Safon, £1,550,000
  • Sir Fynwy, trydydd cam gwelliannau cerdded a beicio canol tref y Fenni, £435,000
  • Casnewydd, Astudiaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy Canol Tref Casnewydd, £25,000
  • Sir y Fflint, Ffin y B5129 o’r Fferi Isaf i Sir Ddinbych – mesurau blaenoriaethu bysiau a rheoli trafnidiaeth - £107,500
  • Ynys Môn, Parcio a Rhannu Gaerwen, £59,000
  • Wrecsam, Gwelliannau Teithio Llesol, £7,000
  • Gwynedd, Ffordd Fynediad Llanbedr, £1,374,000
  • Sir Ddinbych, Llangollen 2020 – Cynllun Gwella i Gerddwyr, £20,000

Meddai Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth: 

“Rwy’n hynod falch y bydd nifer o brosiectau trafnidiaeth ledled Cymru yn cael cyllid o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol. 

“Mae gan y cynlluniau hyn botensial i wneud gwahaniaeth aruthrol i fywydau pobl o ddydd i ddydd, gyda gwelliannau i rwydweithiau trafnidiaeth, seilwaith a llwybrau beicio a fydd yn ei gwneud yn haws i ddewis dulliau teithio llesol a chynaliadwy. 

“Mae’r prosiectau hyn yn cefnogi ein huchelgeisiau i ddarparu seilwaith trafnidiaeth modern a chysylltiedig, a fydd yn rhoi hwb pellach i’n hymdrechion i annog ffyrdd iach a llesol o fyw.  

“Gallai’r cyllid hwn hefyd roi hwb i economi Cymru drwy ei gwneud yn haws i bobl deithio at ddibenion busnes a hamdden.”