Neidio i'r prif gynnwy

Mae band eang cyflym iawn yn helpu Gwesty Gwledig Conrah yn Ffosrhydgaled i ddenu gwesteion newydd a rhoi hwb i fusnes.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Oherwydd y dechnoleg ffeibr cyflym sydd ar gael nawr, diolch i’r rhaglen Cyflymu Cymru, mae’r gwesty yn gallu hysbysebu ei hunan yn fwy effeithiol a darparu gwasanaethau newydd i ymwelwyr.

Plasty Ystad Ffosrhydgaled oedd y Conrah yn wreiddiol ac mae’n sefyll mewn tiroedd helaeth yng ngefn gwlad Ceredigion, rhyw bedair milltir o Aberystwyth. 

Penderfynodd perchnogion y gwesty, Geraint a Wendy Hughes, uwchraddio i fand eang cyflym iawn ar ôl sylweddoli bod galw cryf am y dechnoleg gan westeion a rhagweld effaith gadarnhaol ar y busnes.

Bellach, mae’r gwesty yn elwa o gynnig band eang cyflym iawn o 80Mbsp o ganlyniad i fand eang diweddaraf y rhaglen Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad. Caiff y cyflymder ei gynyddu hyd yn oed ymhellach os oes angen. Cyflwynwyd y rhaglen yn yr ardal gan beirianwyr Openreach, sef busnes rhwydwaith lleol sy’n rhan o grŵp BT. 

Dywedodd Geraint Jones: 

“Mae band eang cyflym iawn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gwesty. Mae’r galw yno gan westeion am gysylltiadau rhyngrwyd cynt a bellach rydym yn gallu bodloni dymuniadau’r cwsmer. 

“Er eu bod oddi cartref, mae ymwelwyr yn awyddus i gadw mewn cysylltiad, boed ar gyfer busnes, neu am resymau personol. Mae band eang cyflym iawn yn ffactor pwysig iawn wrth iddyn nhw benderfynu aros yma neu fynd i westy arall.”

Mae hysbysebu ar-lein yn un o’r ffyrdd mae Geraint a'i dîm wedi gwella’r busnes. Nawr, maen nhw’n gallu cymryd archebion ar y wefan yn haws nag o’r blaen a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy effeithiol i hysbysebu’r gwesty. Mae’n hanfodol hefyd fel rhan o’u gwasanaeth cynadledda.

Mae’r cysylltiad cyflym iawn wedi creu argraff dda ar westeion. Maen nhw’n gallu gweithio ar-lein yn ogystal â gwylio fideos a lanlwytho lluniau o’u hymweliad. 

Ychwanegodd Geraint: 

“Mae band eang cyflym iawn wedi rhoi llawer o gyfleoedd newydd inni.  Rydyn ni nawr yn cyflogi aelod o staff sy’n gyfrifol am ddim ond ein cyfryngau cymdeithasol, rhwybeth allwn ni byth fod wedi’i ei wneud o’r blaen. 

“Hefyd, rydym yn treulio amser gyda’n gwesteion ac yn eu helpu i  gynllunio eu hymweliad ar-lein: ble hoffen nhw fynd, sut i gyrraedd, pa lwybrau cerdded i’w dilyn - mae’n fantais fawr.”

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: 

“Rwy’n falch iawn o glywed sut mae band eang cyflym iawn yn gwneud gwahaniaeth go iawn yng ngwesty’r Conrah, diolch i’r rhaglen Cyflymu Cymru.

“Mae’n enghraifft wych o sut gall cysylltiadau cynt ddylanwadu’n gadarnhaol ar y busnes ac ar yr ymwelwyr. Mae cael cysylltiad rhyngrwyd cyflym, cryf a dibynadwy yn fwyfwy pwysig i westeion ac mae cyflwyno’r rhaglen Cyflymu Cymru yn helpu i ddiwallu’r galw hwnnw.

“Fyddai yna ddim band eang cyflym iawn mewn ardaloedd fel Ceredigion heb y rhaglen Cyflymu Cymru ac mae’n wych gweld sut mae’r tîm yn y Conrah yn gwneud y gorau o’r dechnoleg.”

Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwr rhanbarthol BT Cymru Wales: 

“Mae cyflwyno band eang cyflym iawn ar draws Cymru eisoes yn dylanwadu'n enfawr ar sut mae teuluoedd a busnesau yn rhyngweithio ar-lein. Mae Gwesty’r Conrah yn enghraifft arall o sut mae’r rhwydwaith cyflym iawn newydd yn gwneud gwahaniaeth.

“Wrth i fwy a mwy o gartrefi a busnesau gael manteisio ar gysylltiadau band eang cyflym iawn bob dydd, byddwn yn annog pobl i ddilyn esiampl Gwesty’r Conrah a gwneud y mwyaf o’r dechnoleg newydd hon drwy uwchraddio’u gwasanaethau.

“Rydym yn sylweddoli nad yw hynny’n bosibl ar hyn o bryd mewn rhai rhannau o Gymru ond mae ein peirianwyr yn parhau i weithio’n galed i gyflwyno’r band eang ffeibr ledled y wlad mor gyflym ac mor eang â phosibl.”