Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JVCI) y dylai pobl dros 16 oed sy'n byw gydag unigolion sydd â systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau'n ddifrifol gael cynnig brechiad COVID-19 fel blaenoriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae trefniadau'n cael eu gwneud yn awr i wahodd yr unigolion hyn i gael eu brechu. Bydd y manylion llawn yn dilyn. 

Mae oedolion sydd ag imiwnedd ataliedig yn ei chael yn anoddach i ymladd heintiau'n naturiol ac maent yn fwy tebygol o gael canlyniadau gwaeth yn dilyn haint COVID-19. Mae tystiolaeth gynyddol y gallai brechlynnau COVID-19 leihau'r siawns i rhywun sydd wedi cael ei frechu drosglwyddo'r feirws. Bydd brechu cysylltiadau aelwydydd yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws i oedolion imiwnataliedig.  

Cysylltiadau aelwydydd a ystyrir yn flaenoriaeth fyddai'r rhai dros 16 oed sy'n rhannu llety byw gydag oedolion imiwnataliedig. Ar hyn o bryd, nid yw'r JCVI yn cynghori brechu cysylltiadau cartref plant imiwnataliedig, na phlant sy'n gysylltiadau cartref ag oedolion imiwnataliedig. 

Dylai oedolion imiwnataliedig fod wedi cael cynnig brechiad COVID-19 eisoes fel rhan o grŵp 6 (pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol fel y'u diffinnir gan y JVCI).  Dilynwch gyfarwyddiadau eich bwrdd iechyd ar y ddolen hon os ydych yn y categori hwn ac nad ydych wedi derbyn gwahoddiad i frechu eto.