Bydd astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal i ystyried a fyddai’n bosibl cario trydan dros y drydedd bont arfaethedig dros Afon Menai.
Ar hyn o bryd mae’r Grid Cenedlaethol wrthi’n datblygu cynlluniau ar gyfer cysylltiad 400,000 folt newydd rhwng yr is-orsaf bresennol yn Wylfa ar Ynys Môn a’r rhwydwaith trosglwyddo trydan presennol ar dir mawr y Gogledd. Enw’r prosiect yw Prosiect Cysylltu’r Gogledd a bydd yn hwyluso’r gwaith o allforio ynni o orsaf bŵer arfaethedig Wylfa Newydd.
Bydd yr astudiaeth yn cael ei chynnal ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Grid Cenedlaethol a bydd yn ystyried cyfleoedd posibl rhwng Prosiect Cysylltu’r Gogledd a thrydedd bont dros Afon Menai dan nawdd Llywodraeth Cymru i weld a fyddai modd defnyddio seilwaith y bont i gario’r Grid Cenedlaethol dros Afon Menai.
Os bydd ateb ymarferol, bydd yr astudiaeth yn ystyried amserlen ar gyfer y gwaith ac yn asesu ei werth am arian. Mae gan y Grid Cenedlaethol gytundeb â Horizon i ddarparu’r cysylltiad â Wylfa Newydd erbyn canol 2020.
Bydd yr astudiaeth yn cael ei hariannu drwy gam dylunio a datblygu’r drydedd bont, gwerth £3m, sy’n rhan o’r gyllideb ddwy flynedd y cytunwyd arni gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Daeth yr ymgynghoriad i ystyried pedwar opsiwn posibl ar gyfer trydedd bont dros Afon Menai i ben ar 9 Mawrth ac mae’r holl ymatebion yn cael eu harfarnu ar hyn o bryd.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei gweledigaeth ar gyfer trydedd bont gyd-ddefnyddio dros Afon Menai, a bydd yr astudiaeth ddichonoldeb hon yn archwilio’n fanwl y cyfleoedd, yr heriau a’r rhwystrau posibl sy’n gysylltiedig â gwireddu’r weledigaeth honno.
“Wrth gwrs mae’n rhaid i unrhyw ateb fod yn addas i’r diben. Mae’n rhaid iddo ddarparu cysylltiad trydan diogel, diogelu’r amgylchedd a hefyd roi’r gwerth gorau am arian trethdalwyr.
“Rydyn ni wedi cynnal trafodaethau adeiladol iawn â’r Grid Cenedlaethol i ystyried a allwn ddefnyddio trydedd bont dros Afon Menai i gario pŵer i’r grid cenedlaethol, gan gynnwys o Wylfa Newydd. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam ymlaen yn y broses archwilio.
“Mae adeiladu trydedd bont dros Afon Menai yn brosiect sy’n galw am fuddsoddiad sylweddol, a gallai wneud gwahaniaeth mawr o ran diwallu anghenion cymunedau ac ymwelwyr, mynd i’r afael â phroblemau tagfeydd a rhoi hwb i’r economi.
“Mae gan Lywodraeth Cymru raglen uchelgeisiol i wella’r system drafnidiaeth dros y blynyddoedd nesaf ac mae trydedd bont dros Afon Menai yn rhan allweddol o’n cynlluniau.”
Dywedodd Gareth Williams, Uwch-reolwr y Prosiect dros y Grid Cenedlaethol:
“Rydym yn falch iawn o gael cydweithio â Llywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o osod ceblau i gysylltu â Wylfa Newydd dros y drydedd bont hon. Gallai problemau godi fel rhan o’r prosiect megis y rhaglen adeiladu, y gost a materion technegol, a byddwn yn eu harchwilio i weld a allwn eu datrys.
“Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i fynd â’n cynlluniau i adeiladu twnnel yn eu blaen gan fod angen cysylltiad ar ein cwsmer, Horizon, erbyn canol y 2020. Bydd darparu cysylltiad dibynadwy yn brydlon yn hanfodol i sicrhau y gall y Gogledd fanteisio ar y buddsoddiad o filiynau o bunnoedd yn Wylfa Newydd.”