Neidio i'r prif gynnwy

Mae cystadleuwyr o Gymru wedi cael llwyddiant anhygoel wrth ennill 70 medal yn rowndiau terfynol cenedlaethol SkillBuild a WorldSkills UK, gan osod y llwyfan yn barod i Gymru a fydd yn cynnal y digwyddiad yn 2025.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan adeiladu ar lwyddiannau'r llynedd, o'r 118  o gystadleuwyr o Gymru a fu'n rhan o'r digwyddiad fe enillodd Tîm Cymru 16 medal aur, 20 arian a 22 efydd a chafodd 12 ganmoliaeth uchel.

Yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK, a gynhaliwyd mewn lleoliadau ledled Manceinion rhwng 19 Tachwedd a 22 Tachwedd, gwelwyd mwy na 400 o bobl ifanc o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn cystadlu mewn cyfres o heriau galwedigaethol i fod y gorau yn y DU.

Yn y cyfamser, ym Milton Keynes, enillodd cystadleuydd o Gymru fedal aur yng ngwaith plastro. Wedi'i chyflwyno gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, SkillBuild yw'r gystadleuaeth sgiliau aml-fasnach fwyaf yn y DU ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaid adeiladu.

Mae'r prosiect Sgiliau Ysbrydoledig yn cefnogi pobl ifanc i gystadlu mewn cystadlaethau sgiliau, gan hyrwyddo arferion gorau a chodi safonau ar draws ystod o sgiliau o gynnal a chadw awyrennau a gwaith saer i wneud melysion a patisserie, a gwyddoniaeth fforensig, a chwmpasu prentisiaethau ac addysg dechnegol.

Fe wnaeth Tîm Cymru ragori hefyd yn y cystadlaethau Sgiliau Sylfaen, gan sicrhau cyfanswm o 19 o fedalau. Mae'r cystadlaethau hyn yn tynnu sylw at alluoedd myfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, neu'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol.

Cyhoeddwyd y canlyniadau swyddogol ar 21 Tachwedd ar gyfer SkillBuild a 22 Tachwedd ar gyfer WorldSkills yn ystod seremonïau medalau.

Mae cystadlaethau'n dechrau ar lefel lleol  gyda Chystadleuaeth Sgiliau Cymru sy'n cael ei chydlynu gan brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, ac yn symud ymlaen i gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a'i redeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr, nod y cystadlaethau yw ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau'r dyfodol trwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc wrth ddathlu eu cyflawniadau. 

Enillodd Victoria Steele, 23, o Ystradglynlais fedal aur yn Ailorffen Cerbydau (Automotive Finishing). Mae Victoria yn hyfforddi gyda Grwp Colegau NPTC. Dywedodd am ei phrofiad:

Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill medal aur yn Ailorffen Cerbydau yn WorldSkills UK. Mae cael fy nghydnabod fel y gorau yn y DU yn fy maes yn deimlad anhygoel. Mae'r daith gyfan wedi bod yn brofiad anhygoel, o'r rowndiau rhanbarthol yr holl ffordd i'r rownd derfynol genedlaethol. Rwyf mor ddiolchgar i'm darparwr hyfforddiant, ac mor falch fy mod wedi gallu cynrychioli Cymru fel hyn.

Hyfforddodd Harry Sutherland, 21 mlwydd oed o Benllyn, gyda Grŵp Llandrillo Menai ac fe enillodd fedal aur yn Plastro. Dywedodd:

Rwy'n falch fy mod wedi cipio'r fedal aur yn Plastro. Mae wedi bod yn brofiad mor dda, ac yn gyfle i mi brofi fy sgiliau yn erbyn pobl yn yr un maes gwaith â mi. Mae'r cystadlaethau Adeiladu Sgiliau yn ffordd wych o sicrhau bod y safonau yn y sector adeiladu bob amser ar eu huchaf ac i ddangos i'r byd ein bod bob amser yn ymdrechu i'w gwella.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant: 

Rwy'n llongyfarch Tîm Cymru ar eu llwyddiant rhyfeddol yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK a SkillBuild. Unwaith eto fe wnaethant ddangos eu rhagoriaeth gyda chasgliad trawiadol o fedalau, gan dynnu sylw at yr ymroddiad a'r dalent yn ein gwlad.

Mae cystadlaethau sgiliau yn dathlu llwyddiannau unigol, ond maent hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i feithrin talent pobl ifanc ledled Cymru, gan eu paratoi i fod yn weithwyr medrus iawn y dyfodol.   

Rydym yn arbennig o gyffrous i groesawu cystadlaethau WorldSkills UK i Gymru yn 2025. Bydd cynnal y rowndiau terfynol hyn yn gyfle gwych i arddangos y gorau o dalent Cymru ar dir cartref ac ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl ifanc ledled y wlad i ddilyn eu huchelgeisiau ac ymdrechu am ragoriaeth.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r genhedlaeth nesaf, gan ddarparu cyfleoedd iddynt ehangu eu gorwelion a sicrhau cydnabyddiaeth genedlaethol. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac i'r bobl a gefnogodd nhw.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK:

Llongyfarchiadau i bawb a gafodd fedal eleni. Mae cael eich cydnabod fel y gorau yn eich maes sgiliau yn llwyddiant aruthrol, sy’n adlewyrchu ymrwymiad yr athrawon yn ein colegau a’n prifysgolion, heb sôn am ein darparwyr hyfforddiant, sy’n sylfaen i’r sector sgiliau ar draws y Deyrnas Unedig. 

Mae gan ein rhaglen hyfforddi ar sail cystadleuaeth, sy’n cael ei hategu gan dueddiadau byd-eang, rôl bwysig yn y gwaith o godi safonau dysgu ac asesu ym maes prentisiaethau ac addysg dechnegol. Gan gydweithio â’n partneriaid ledled y diwydiant ac mewn addysg, rydym yn hyrwyddo’r sgiliau sy’n dod i’r amlwg ac sy’n allweddol yn y gwaith o ysgogi buddsoddiad a thwf mewn busnesau ledled y Deyrnas Unedig.

Am ragor o wybodaeth am WorldSkills UK a sut i ddechrau eich taith fel cystadleuydd, tiwtor neu gyflogwr yng Nghymru, ewch i Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.