Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Mehefin 2016.

Cyfnod ymgynghori:
9 Tachwedd 2015 i 20 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 607 KB

PDF
607 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd eich sylwadau ynghylch y dyddiadau tymor arfaethedig ar gyfer 2017/18 a chyfarwyddyd drafft gan y Gweinidog.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Bydd eich cyfraniadau yn ein helpu i sicrhau ein bod yn pennu’r dyddiadau mwyaf priodol ar gyfer ein hysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Rydym yn ymwybodol o'r anawsterau y mae llawer o deuluoedd ar draws Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i amrywiadau yn nyddiadau tymhorau ysgol ac felly gwyliau ysgol.

I fynd i'r afael â'r pryderon hyn mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio Deddf Addysg (Cymru) 2014 i wneud newidiadau deddfwriaethol i’r modd y caiff dyddiadau tymhorau ysgol eu pennu er mwyn cysoni’r dyddiadau ar draws pob ysgol a gynhelir.

Mae'r newidiadau hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru yn gallu rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghylch dyddiadau eu tymhorau os nad yw'r dyddiadau hynny wedi'u cysoni neu os oes angen eu newid.

Dyma’r ail ymgynghoriad ar ddyddiadau tymhorau ysgolion ers i’r trefniadau newydd ddod i rym. Bu’r ymgynghoriad blaenorol a gynhaliwyd yn 2014/15 yn sail i benderfyniad a fydd yn golygu bod dyddiadau tymhorau ysgolion a gynhelir yn cael eu cysoni ar draws Cymru am y tro cyntaf erioed yn 2016/17.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 468 KB

PDF
468 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad ar gyfer pobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1004 KB

PDF
1004 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.