Cysoni dyddiadau tymhorau ysgol ar gyfer 2026 i 2027
Hoffem gael eich barn ar y dyddiadau arfaethedig ar gyfer 2026 i 2027 a'r cyfarwyddyd drafft cysylltiedig, a nodir isod.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
Yn 2014, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth gyda'r nod o sicrhau bod dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol ledled Cymru yr un fath neu mor debyg i'w gilydd ag y bo modd.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y dyddiadau rydym yn eu cynnig ar gyfer tymhorau pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 i 2027, ac ar y cyfarwyddyd drafft cysylltiedig yn Atodiad 1.
Y ddeddfwriaeth
Mae gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ("cyrff llywodraethu perthnasol") ddyletswydd i bennu dyddiadau tymhorau ar gyfer eu hysgolion. Maent hefyd o dan ddyletswydd i gydweithio wrth benderfynu ar ddyddiadau tymhorau fel eu bod yr un fath neu mor debyg â phosibl i rai eraill. Os, er gwaethaf pob ymdrech, nad oes modd cytuno ar ddyddiadau tymhorau, mae adran 32B o Ddeddf Addysg 2002 ("Deddf 2002") yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu perthnasol ar y dyddiadau y mae'n ofynnol iddynt eu defnyddio er mwyn cysoni dyddiadau tymhorau ledled Cymru. Nid yw’r pŵer yn yr adran honno wedi ei gyfyngu i sicrhau dyddiadau sydd yr un fath neu mor debyg i'w gilydd â phosibl yn unig, ond mae’n ddigon eang fel bod modd ei ddefnyddio at y perwyl hwnnw.
Mae Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymor Ysgol) (Cymru) 2014 yn darparu bod rhaid i awdurdodau lleol hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiadau tymor a bennir ar gyfer pob ysgol a gynhelir yn eu hardaloedd erbyn y diwrnod gwaith olaf ym mis Awst ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol y maent yn berthnasol iddi.
Mae Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r dyddiadau tymor a gyflwynwyd ar gyfer 2026 i 2027 yr un fath neu mor debyg â phosibl i'w gilydd. Felly, mae Gweinidogion Cymru yn dymuno ystyried defnyddio eu pwerau cyfarwyddo o dan Ddeddf 2002 i sicrhau bod dyddiadau tymhorau mor debyg â phosibl ledled Cymru.
Fodd bynnag, cyn y gallant ddefnyddio eu pwerau cyfarwyddo, mae Deddf 2002 yn rhoi dyletswydd arnynt i gynnal ymgynghoriad priodol. Yn ogystal, mae Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 yn nodi gofynion pellach o ran ffurf a hyd ymgynghoriad o'r fath.
Dadansoddiad o’r hysbysiadau am ddyddiadau tymhorau a dderbyniwyd
Yn fras, mae awdurdodau lleol wedi cydweithio â'u hawdurdodau ac ysgolion cyfagos i gydlynu eu dyddiadau tymor arfaethedig ar gyfer 2026 i 2027. Fodd bynnag, erys amrywiad i ddyddiadau tymhorau'r gwanwyn a'r haf yn 2027 sy'n rhannu dyddiadau'r awdurdodau yn ddau grŵp.
Mae'r Pasg yn disgyn yn gymharol gynnar yn 2027, ac mae awdurdodau wedi dewis trefnu tymor y gwanwyn yn wahanol er mwyn darparu ar gyfer y ddwy ŵyl banc sy'n gysylltiedig â'r Pasg.
Yn y gorffennol mae ysgolion â natur grefyddol wedi dewis dyddiadau gwahanol i’w hawdurdod lleol ac ysgolion eraill heb natur grefyddol oherwydd bod yn well ganddynt i ddysgwyr fod yn yr ysgol i gymryd rhan yn nefodau’r Pasg yn ystod yr wythnos sy’n arwain at Ddydd Gwener y Groglith. O ran Wythnos y Pasg yn 2027, nid yw’r ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â natur grefyddol na’r ysgolion sefydledig â natur grefyddol yng Ngrŵp B wedi nodi Wythnos y Pasg fel rheswm dros gael gwyliau tymor y gwanwyn (y Pasg) yn hwyrach. Mae’r un peth yn wir am yr awdurdodau lleol hynny sydd yng Ngrŵp B. Yn syml, fel y nodwyd uchod, mae’r holl ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig wedi alinio gyda’u priod awdurdodau lleol.
Dangosir y ddau grŵp yn y tabl isod ynghyd â'r amrywiadau i'w dyddiadau arfaethedig.
Amrywiadau mewn dyddiadau tymhorau yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru amdanynt
Dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol | Grŵp A | Grŵp B |
---|---|---|
Ynys Môn Pen-y-bont ar Ogwr Caerdydd Ceredigion Conwy Sir Ddinbych Sir y Fflint Gwynedd Merthyr Tudful Powys Rhondda Cynon Taf Bro Morgannwg Wrecsam | Blaenau Gwent Caerffili Sir Gaerfyrddin Sir Fynwy Castell-nedd Port Talbot Casnewydd Sir Benfro Abertawe Torfaen | |
Dechrau tymor yr hydref a diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol | Dydd Mawrth 1 Medi 2026 | Dydd Mawrth 1 Medi 2026 |
Hanner tymor yr hydref | Dydd Llun 26 Hydref 2026 hyd Ddydd Gwener 30 Hydref 2026 | Dydd Llun 26 Hydref 2026 hyd Ddydd Gwener 30 Hydref 2026 |
Diwedd tymor yr hydref | Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2026 Dewisodd Powys yn unig ddod â thymor yr hydref i ben ar ddydd Mawrth 22 Rhagfyr 2026. | Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2026 |
Dechrau tymor y gwanwyn | Dydd Llun 4 Ionawr 2027 | Dydd Llun 4 Ionawr 2027 |
Hanner tymor y gwanwyn | Dydd Llun 8 Chwefror 2027 hyd Ddydd Gwener 12 Chwefror 2027 | Dydd Llun 15 Chwefror 2027 hyd Ddydd Gwener 19 Chwefror 2027 |
Diwedd tymor y gwanwyn | Dydd Gwener 19 Mawrth 2027 | Dydd Iau 25 Mawrth 2027 |
Dechrau tymor yr haf | Dydd Llun 5 Ebrill 2027 | Dydd Llun 12 Ebrill 2027 |
Hanner tymor yr haf | Dydd Llun 31 Mai 2027 hyd Ddydd Gwener 4 Mehefin 2027 | Dydd Llun 31 Mai 2027 hyd Ddydd Gwener 4 Mehefin 2027 |
Diwedd tymor yr haf a diwrnod olaf y flwyddyn ysgol | Dydd Mawrth 20 Gorffennaf 2027 Dewisodd Powys yn unig ddod â thymor yr haf i ben ar 16 Gorffennaf 2027 | Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2027 |
Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth, mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cyhoeddi'r cyfarwyddyd yn amodol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn.
Nod adrannau 32A a 32B o Ddeddf 2002 oedd dileu gwahaniaethau o ran dyddiadau sy’n gallu achosi heriau i rieni a staff fel ei gilydd. Rydym o'r farn y bydd dyddiadau cyson hefyd o fudd i'r sector twristiaeth. Rydym o’r farn bod yr hanfodion polisi hynny yn gorbwyso’r awydd i gael gwyliau gwahanol yn y gwanwyn, gan ystyried y rhesymau a roddwyd gan yr awdurdodau lleol.
Ffafrir dyddiadau Grŵp A gan fod mwy o awdurdodau lleol yn y Grŵp hwnnw. Byddai dewis dyddiadau Grŵp A yn golygu y byddai angen i lai o awdurdodau lleol ddiwygio eu cynigion i gydymffurfio â'r cyfarwyddyd drafft.
Mae’n ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig roi gwybod i Weinidogion Cymru am ddyddiadau arfaethedig eu tymhorau hefyd. Nododd hysbysiadau fod yr ysgolion hyn wedi alinio dyddiadau arfaethedig eu tymhorau â'u hawdurdodau lleol perthnasol.
Mae awdurdod lleol Powys wedi gosod dyddiadau sy’n cyd-fynd ar y cyfan â Grŵp A, ond mae 2 wahaniaeth. Un gwahaniaeth yw bod Powys wedi dewis dod â thymor yr haf i ben ar 16 Gorffennaf 2027, cyn dechrau Sioe Frenhinol Cymru, a gynhelir rhwng Dydd Llun 19 Gorffennaf 2027 a Dydd Iau 22 Gorffennaf 2027. I wneud yn iawn am orffen tymor yr haf yn gynharach, bydd ysgolion ym Mhowys yn gorffen tymor yr hydref yn hwyrach na'r rhai mewn ardaloedd eraill. Mae gweddill yr awdurdodau lleol yng Ngrŵp A yn dod â thymor yr haf i ben ar 20 Gorffennaf tra bod awdurdodau lleol Grŵp B yn dod â thymor yr haf i ben ar 21 Gorffennaf.
O ran yr awdurdodau sydd â ffin uniongyrchol â Phowys, mae’r darlun yn gymysg, gyda 6 yn cyd-fynd â Grŵp A a 5 yn cyd-fynd â Grŵp B. Byddai’r dyddiadau a gynigir ar gyfer y cyfarwyddyd yn golygu y byddai Powys yn cael dod â thymor yr haf i ben ar 16 Gorffennaf. Mae hynny’n golygu y bydd plant a staff ysgol yn rhydd i fynd i'r Sioe am yr wythnos gyfan o Ddydd Llun 19 Gorffennaf 2027 ymlaen. Mae’r penderfyniad hwn yn adlewyrchu parch mawr Gweinidogion Cymru at werth diwylliannol ac economaidd sylweddol Sioe Frenhinol Cymru.
Bydd y dyddiadau arfaethedig yn osgoi wythnos wedi ei hollti ar ddiwedd tymor y gwanwyn.
Y dyddiadau a gynigir ar gyfer tymhorau 2026 i 27 a’r cyfarwyddyd drafft cysylltiedig
Felly, mae Gweinidogion Cymru yn cynnig y dyddiadau tymhorau ysgolion a nodirisod ar gyfer 2026 i 2027:
Dechrau tymor yr hydref a diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol | Dydd Mawrth 1 Medi 2026 |
---|---|
Hanner tymor yr hydref | Dydd Llun 26 Hydref 2026 hyd Ddydd Gwener 30 Hydref 2026 |
Diwedd tymor yr hydref | Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2026 ar gyfer pob ysgol ac eithrio rhai Powys Bydd tymor yr hydref yn dod i ben ar Ddydd Mawrth 22 Rhagfyr 2026 ar gyfer ysgolion Cyngor Sir Powys yn unig |
Dechrau tymor y gwanwyn | Dydd Llun 4 Ionawr 2027 |
Hanner tymor y gwanwyn | Dydd Llun 08 Chwefror 2027 hyd Ddydd Gwener 12 Chwefror 2027 |
Diwedd tymor y gwanwyn | Dydd Gwener 19 Mawrth 2027 |
Dechrau tymor yr haf | Dydd Llun 5 Ebrill 2027 |
Hanner tymor yr haf | Dydd Llun 31 Mai 2027 hyd Ddydd Gwener 4 Mehefin 2027 |
Diwedd tymor yr haf a diwrnod olaf y flwyddyn ysgol | Dydd Mawrth 20 Gorffennaf 2027 ar gyfer pob ysgol ac eithrio rhai Powys Bydd tymor yr haf yn dod i ben ddydd Gwener 16 Gorffennaf 2027 ar gyfer ysgolion Cyngor Sir Powys yn unig. |
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
A ydych chi’n cytuno y bydd dyddiadau tymhorau sydd mor debyg â phosibl i'w gilydd ledled Cymru yn helpu rhieni, gofalwyr, teuluoedd a busnesau i gynllunio?
Cwestiwn 2
A ydych chi'n cytuno â’n cynigion o ran dyddiadau tymhorau ysgol ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 i 2027 a’r cyfarwyddyd drafft arfaethedig?
Cwestiwn 3
A oes gennych chi unrhyw farn ar effaith bosibl ein cynigion ar hawliau dynol a'r nodweddion gwarchodedig:
- oedran?
- ailbennu rhywedd?
- bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?
- bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth?
- anabledd?
- hil gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol?
- crefydd neu gred?
- rhyw?
- cyfeiriadedd rhywiol?
Cwestiwn 4
A oes unrhyw gostau, buddion neu risgiau eraill yn gysylltiedig â'r cynnig?
Cwestiwn 5
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 6
Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r cynigion er mwyn sirchau:
- eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, neu
- nad ydynt yn cael effeithiau negyddol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ateb y cwestiynau uchod.
Eich hawliau
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- gofyn am i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- yr hawl i gludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico gewfan
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd rheolydd data ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol y byddwch yn eu darparu fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu'r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn neu sy'n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill hefyd. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar ymatebion i ymgyngoriadau, mae'n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o’r fath ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb atom. Byddwn wedyn yn eu cuddio cyn cyhoeddi.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu peth gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Fel arall, ni fydd unrhyw ddata mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.