Daeth yr ymgynghoriad i ben 25 Mai 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar y dyddiadau arfaethedig ar gyfer 2026 i 2027 a'r cyfarwyddyd drafft cysylltiedig.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Yn 2014, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth gyda'r nod o sicrhau bod dyddiadau tymor ysgol a gwyliau ledled Cymru yr un fath neu mor debyg ag y bo modd.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar ddyddiadau'r tymor rydym yn eu cynnig ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ysgol 2026 i 2027, a'r cyfarwyddyd drafft cysylltiedig yn Atodiad 1.