Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn, y cytunwyd arno ar y cyd gan Drysorlys EM a Llywodraeth Cymru, yn dangos uchelgais parhaus y ddwy lywodraeth i sicrhau tryloywder llawn yn y Fframwaith Cyllidol ac i wella dealltwriaeth ehangach ohono. Mae'r datganiad hwn yn rhoi esboniad o sut mae'r broses cysoni treth incwm gyntaf yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Cysoni ar gyfer Treth Incwm 2020 i 2021

Heddiw, cyhoeddodd CThEM ystadegau alldro Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2020 i 2021.

Mae'r ffigurau yn y cyhoeddiad hwn yn darparu refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru, a'r refeniw Treth Incwm cyfatebol ar gyfer gweddill y DU a ddefnyddir i gyfrifo Addasiad Llywodraeth Cymru i'r Grant Bloc, fel y'i nodir yn y Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae hyn yn caniatáu i'r cysoniad Treth Incwm sy'n gymwys i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 gael ei gyfrifo.

Mae cyfrifo'r cysoniad yn gofyn am gymharu'r ffigurau a ragwelir a'r ffigurau alldro ar gyfer refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru ac ar gyfer yr Addasiad i'r Grant Bloc. Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhagolygon a'r alldro yn cael ei gymhwyso i gyllid Llywodraeth Cymru yn 2023-24. Nodir cefndir pellach isod, ar ôl y cyfrifiadau.

Mae Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru yn nodi bod yr Addasiadau i'r Grant Bloc yn cael eu cyfrifo 'fesul band' (ar gyfer pob un o'r cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Mae'r tabl isod yn crynhoi cyfanswm effaith y cysoniad, tra bo cyflwyniad manylach o'r ffigurau gyda dadansoddiad 'yn ôl band' i'w weld yn yr adran gefndir.

Bydd y ddwy gydran gysoni yn cael yr effeithiau canlynol, fel y crynhoir yn y tabl isod:

  • Addasiad i'r grant bloc: Mae'r alldro yn is nag a ragwelwyd adeg Cyllideb Cymru 2020 i 2021 felly bydd hyn yn lleihau yr Addasiad i'r Grant Bloc (a thrwy oblygiad yn cynyddu grant bloc Llywodraeth Cymru) £78m yn 2023 i 2024.
  • Cyfraddau Treth Incwm Cymru: Mae'r alldro yn is nag a ragwelwyd adeg Cyllideb Cymru 2020-21 felly bydd hyn yn lleihau hunan-ariannu Llywodraeth Cymru gan £30m yn 2023 i 2024.

Yr effaith gysoni net yw cynnydd o £48m yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 i 2024.

Cysoni Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2020-21 a fydd yn effeithio ar Gyllideb 2023 i 2024
Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2020 i 2021 (£m) Refeniw Addasiad i'r grant bloc Sefyllfa'r Gyllideb Net
Rhagolygon adeg Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020 i 2021 2,170 -2,156 +13
Alldro 2,140 -2,078 +62
Newid / cysoniad -30 78 +48

Noder: efallai na fydd y rhifau'n unioni oherwydd talgrynnu.

Cefndir

Yn dilyn Deddf Cymru 2017, cafodd pwerau trethu ychwanegol eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill 2019, cafodd cyfraddau treth incwm y DU ar incwm di-ddifidend nad yw'n gynilion eu lleihau 10 ceiniog yn y bunt i drigolion Cymru. Enillodd Llywodraeth Cymru'r pŵer i bennu cyfradd Gymreig ym mhob band yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu'r cyfraddau hynny yn 10 ceiniog yn y bunt. Mae CThEM yn gyfrifol am gasglu'r holl Dreth Incwm, gan gynnwys cyfraddau Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu'n rhannol gan grant bloc llywodraeth y DU, ac yn rhannol drwy godi refeniw o drethi datganoledig a benthyca.

Mae'r grant bloc yn cael ei bennu gan Fformiwla Barnett hirsefydlog.

Mae'r grant bloc bellach wedi'i addasu i adlewyrchu effaith trosglwyddo mwy o bwerau cyllidol i Lywodraeth Cymru. Mae'r Addasiadau Grant Bloc hyn (BGAs) yn ddidyniadau ar gyfer pwerau trethi. Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r holl refeniw o drethi datganoledig, mae ganddi Gronfa Wrth Gefn i Gymru a phwerau benthyca cyfalaf ac adnoddau gyda therfynau y cytunwyd arnynt.

Ar gyfer benthyca adnoddau, mae gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i fenthyca ar gyfer gwallau a ragwelir mewn perthynas â threthi datganoledig sy'n deillio o ragolygon o dderbyniadau yng Nghymru a rhagolygon cyfatebol y DU ar gyfer yr Addasiadau i'r Grant Bloc, gyda therfyn blynyddol o £200m.

Mae'r refeniw o gyfraddau Cymru a'r BGA cysylltiedig a ddefnyddir yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ragolygon a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae'r rhain  yn cael eu pennu cyn y flwyddyn o dan sylw.

Fel y nodir yn Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru, bydd alldro Treth Incwm a gyhoeddir yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CThEM, a gyhoeddir fel arfer tua 16 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, yn cael ei ddefnyddio wedyn i benderfynu ar addasiadau i gyfrif am wall yn y rhagolwg drwy broses gysoni. Yna caiff unrhyw addasiadau sy'n ofynnol eu cymhwyso i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol wedyn.

O dan y broses hon, bydd cysoniad ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2020-21 yn cael ei gymhwyso i Gyllideb Cymru ar gyfer 2023-24. Mae'r cysoniad yn cwmpasu Cyfraddau Refeniw Treth Incwm Cymru a'r BGA.

Dadansoddiad manwl o gysoni alldro Treth Incwm Llywodraeth Cymru
£m Sylfaenol Uwch Ychwanegol Cyfanswm
BGA Rhagolwg -1,854 -249 -53 -2,156
Alldro -1,795 -237 -47 -2,078
Cysoni 59 12 6 78
   
Refeniw Rhagolwg 1,864 251 54 2,170
Alldro 1,843 251 46 2,140
Cysoni -21 -1 -8 -30
   
Cyllid net Rhagolwg 10 2 1 13
Alldro 48 14 -1 62
Cysoni 38 12 -2 48

Noder: efallai na fydd y rhifau'n unioni oherwydd talgrynnu.