Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r amseroedd aros ar gyfer cleifion canser yn parhau i wella yng Nghymru – a tharged pwysig wedi’i gyrraedd, yn ôl ffigurau newydd a gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ystadegau’n dangos bod 98.3% o gleifion (794 allan o 808 o bobl) a gafodd eu cyfeirio fel achosion nad oeddent yn rhai brys, lle nad oedd amheuaeth o ganser yn y lle cyntaf, wedi dechrau cael eu trin o fewn 31 diwrnod o’r penderfyniad i’w trin, o gymharu â  96.7% o gleifion y mis blaenorol. Y targed yw i 98% o gleifion sy’n cael eu cyfeirio yn y modd hwn i ddechrau triniaeth o fewn 31 diwrnod.  

Yn y cyfamser, roedd mwy o gleifion (88.6% neu 534 allan o 603 o bobl) a gafodd ddiagnosis newydd fel achosion brys ag amheuaeth o ganser wedi dechrau triniaeth o fewn y cyfnod targed o 62 diwrnod, cynnydd o 1.8% pwynt canran o gymharu â mis Ebrill, a’r perfformiad gorau ers mis Tachwedd 2014. Mae’r ffigurau hyn yn dangos y nifer uchaf o bobl i ddechrau triniaeth o fewn yr amser aros targed ym mis Mai ers tair blynedd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething AC:

“Rydyn ni’n trin mwy o gleifion canser nag erioed yng Nghymru ac, yn hanfodol, mae cyfraddau goroesi canser yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n galonogol gweld y byrddau iechyd yn gwella’u perfformiad ac yn sicrhau bod mwy o bobl yn dechrau cael triniaeth o fewn yr amser targed.  

“Yn arbennig, rwy’n falch iawn o weld bod byrddau iechyd wedi cyrraedd y targed anodd o 98% yn cael triniaeth o fewn 31 diwrnod, ac yn gwella o ran y targed 62 diwrnod. Yn y deuddeg mis diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd o 3.6% yn nifer y cleifion sydd wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod.

“Rydyn ni’n gweld gwelliannau go-iawn, nid yn unig yn erbyn y targedau hyn ar gyfer yr amser i gael triniaeth, ond hefyd o ran canlyniadau.  Bydd dros hanner y bobl bellach yn goroesi am bum mlynedd ar ôl cael diagnosis  ac mae nifer y rhai sy’n marw’n gynnar yn sgil canser wedi syrthio tua 14% yn y ddeng mlynedd ddiwethaf. Mae’r ystadegau hyn yn dangos ein bod yn gweld gwelliannau go-iawn o ran amseroedd trin clefion yng Nghymru.”