Neidio i'r prif gynnwy

Y stori awdurdod unedol bychan yn gwasanaethu cymuned ynys gymharol ddifreintiedig a diarffordd, gyda hanes maith o aflonyddwch gwleidyddol a thanberfformiad corfforaethol yw stori Ynys Môn.

Sbardunwyd ymyrraeth ffurfiol yn 2009 yn dilyn adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol a fynegodd nifer o bryderon sylweddol a ganolbwyntiai’n bennaf ar absenoldeb unrhyw arweinyddiaeth wleidyddol effeithiol. Arweiniodd hyn at benodi Bwrdd Adfer a weithredodd ochr yn ochr â Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro.

Yn gynnar yn 2011 penderfynodd y Gweinidog na chafwyd cynnydd digonol yng ngwelliant y cyngor, ac estynnodd yr ymyrraeth drwy benodi pum Comisiynydd a gymerodd, i bob pwrpas, reolaeth lawn o redeg y Cyngor. Daeth y rhain â chyfeiriad a chefnogaeth weithredol, gan drosglwyddo rheolaeth yn ôl yn raddol i’r gwleidyddion lleol wrth iddynt dybio fod cynghorwyr yn barod unwaith yn rhagor i dderbyn y cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau.

Daeth y broses hon i ben gydag etholiadau yn 2013 a ddefnyddiodd ffiniau wardiau newydd, gyda nifer lai o gynghorwyr yn cael eu hethol a threfn newydd o wardiau aml-aelod.

Casgliadau allweddol

  • Roedd cyfiawnhad ar gyfer ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn Ynys Môn. Mae’n debyg y dylai fod wedi digwydd yn gynharach ond roedd yn angenrheidiol o ystyried gallu a chapasiti cyfyngedig y Cyngor, a’r diffyg gwybyddiaeth ymysg pobl allweddol fod angen newid sylfaenol.
  • Yn ystod cyfnod cyntaf yr ymyrraeth rhwng 2009 a 2011 fe benodwyd Bwrdd Adfer cynghorol yn ogystal â Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro. Dichon i hyn fod yn gam cyntaf angenrheidiol o ystyried cyflwr y perthnasau lleol-canolog ar y pryd ac oherwydd ei fod yn cynrychioli gwyriad clir oddi wrth y polisi blaenorol. Serch hynny, methodd â gweddnewid y Cyngor oherwydd bod dulliau gweithredu gwahanol (ac weithiau gwrthwynebol) y Bwrdd Adfer a’r Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro yn seiliedig ar ddamcaniaeth newid anghyflawn.
  • Yn ystod yr ail gyfnod o 2011 i 2013 fe gyfunwyd diwygio etholiadol gyda phenodi Comisiynwyr i redeg y Cyngor. Llwyddodd hyn i ‘ddeffro’ pobl allweddol yn Ynys Môn a chyflwyno’r gallu a’r capasiti angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r newidiadau gofynnol. Cyfunodd y Comisiynwr ddefnydd o rym ‘meddal’ a ‘chaled’ er mwyn ennyn parch, ac er mwyn dangos sut i wneud pethau a sut i sicrhau fod pethau’n cael eu gwneud. Bu cefnogaeth glir a chadarn y Gweinidog tuag at y Comisiynwyr, ynghlwm â strategaeth ymadael effeithiol yn gysylltiedig â’r newid ffiniau, yn ffactorau hanfodol yn y llwyddiant.
  • Wrth gynllunio a gweithredu ymyraethau yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru ddysgu o’r ymyrraeth hwn ac o rai eraill. Yn arbennig, dylai ddefnyddio fframwaith dadansoddi a dehongli ffurfiol, a bod yn benodol ynglŷn â’r ddamcaniaeth wella a’r hafaliad newid a fabwysiadir.

Dylid pob tro fanteisio ar fuddion ‘llywodraeth wlad fach’, fel y bu yn yr achos hwn, er mwyn unioni ac atgyfnerthu safbwyntiau, galluoedd a gweithredoedd y sefydliadau a’r bobl allweddol. Yng ngolau ein gwerthusiad gall adolygiad o Brotocol Llywodraeth Cymru ar Gefnogi ac Ymyrryd fod yn offeryn pwysig ar gyfer gweithredu’r buddion hynny.

Adroddiadau

Cyrraedd Gwelliant: gwerthusiad annibynnol o’r ymyrraeth ar Ynys Môn , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

John Broomfield

Rhif ffôn: 0300 025 0811

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.