Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi dweud bod cennad newydd Llywodraeth Cymru i'r Emiraethau Arabaidd Unedig yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gryfhau presenoldeb Cymru ar draws y byd.
Bydd penodi Paul Gyles yn helpu i sbarduno buddsoddiad cyfalaf a chyfleoedd allforio ac yn hyrwyddo allforion o Gymru i'r Emiraethau Arabaidd Unedig sy'n ganolfan fusnes fyd-eang bwysig.
Mae Paul yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig (CIMA) gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda chwmnïau sy'n arwain y farchnad ledled y DU, y Dwyrain Canol ac Asia. Mae wedi byw yn Dubai yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig ers 2003 a dyma'r pedwerydd cennad i'w benodi gan Lywodraeth Cymru ers lansio'r strategaeth ryngwladol sy'n ceisio codi proffil y genedl ledled y byd.
Drwy weithio gydag unigolion sefydledig a phroffil uchel, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio sbarduno a chynyddu cysylltiadau â’r boblogaeth Gymreig sydd ar wasgar, sy'n cynnwys cyn-fyfyrwyr a chyfeillion Cymru mewn gwledydd eraill.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
"Mae hwn yn gyfnod heriol ac yn un pan ydym i gyd yn ceisio ymdrin â’r cyfleoedd, yr heriau a’r cymhlethdodau sy’n deillio o’r DU yn ymadael â’r UE a'r anawsterau parhaus sy'n gysylltiedig â pandemig y coronafeirws.
"Bydd Paul yn hyrwyddo rhinweddau Cymru fel partner masnachu o'r radd flaenaf, cyrchfan twristiaeth ragorol, partner diwylliannol amrywiol a lle gwych i fyw, astudio a gwneud busnes ynddo.
"Mae ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn glir ynglŷn â'n hymrwymiad i flaenoriaethu allforion a masnach, ac i helpu busnesau i gadw eu partneriaid masnachu presennol tra'n dechrau ar farchnadoedd byd-eang eraill. Nid oes amheuaeth nad yw'n farchnad hynod arwyddocaol ac yn un sydd â llawer i'w gynnig i'n hallforwyr."
Dywedodd Paul Gyles FCMA CGMA:
"Mae'n anrhydedd i mi gael fy mhenodi'n Gennad i Lywodraeth Cymru a fydd yn cynrychioli Cymru yn y Dwyrain Canol. Byddaf yn gwneud fy ngorau i helpu i hyrwyddo Cymru yn y rhanbarth hwn, o ran ysgogi cyfleoedd buddsoddi cyfalaf i Gymru, yn ogystal â chefnogi cwmnïau sy'n ceisio allforio i'r rhanbarth hwn.
"Mewn amgylchedd economaidd mor heriol mae'n gyfnod cyffrous iawn i agor drysau newydd i fusnesau ac rwy'n hynod falch o fod yn rhan o ddatblygiad rhwydwaith busnes Cymru ar draws y byd."