Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod y ddogfen hon yw helpu cyflogwyr, gweithwyr, a'r hunangyflogedig sy'n gweithio yn y sectorau diwylliant a threftadaeth yng Nghymru i weithredu'n ddiogel yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae'n hanfodol edrych ar wefan Llywodraeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y lefel rhybudd bresennol ac unrhyw gyfyngiadau trosiannol sydd ar waith, gan gynnwys pa gyfyngiadau sydd wedi'u llacio a pha sefydliadau sydd angen parhau i fod ar gau, gan fod y sefyllfa’n newid yn gyson. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir canllawiau i ategu unrhyw newidiadau.

Mae’r canllawiau hyn yn cynnig cyngor lefel uchel i gyrchfannau a lleoliadau diwylliant a threftadaeth sy’n agored i’r cyhoedd. Mae’r rhain yn cynnwys amgueddfeydd, orielau celf, llyfrgelloedd, archifau, adeiladau hanesyddol, gerddi hanesyddol, henebion, sinemâu a lleoliadau celfyddydol, gan gynnwys neuaddau cyngerdd a theatrau.

Er mwyn cynorthwyo busnesau i weithredu'n ddiogel, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu pum egwyddor allweddol er mwyn Diogelu Cymru - yn y gwaith:

  • Gofal: ein hiechyd a'n lles sy'n dod gyntaf
  • Cydymffurfio: rhaid ufuddhau i'r deddfau sy'n ein cadw'n ddiogel
  • Cynnwys: byddwn yn rhannu cyfrifoldeb am waith diogel
  • Addasu: mae angen i ni i gyd newid sut rydyn ni'n gweithio
  • Cyfathrebu: rhaid i ni i gyd ddeall beth i'w wneud

Mae canllawiau pellach ar yr egwyddorion allweddol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dylai'r rhai sy'n rheoli atyniadau twristaidd ddarllen Diogelu Cymru: canllawiau i dwristiaeth a lletygarwch, sy'n darparu cyngor cynhwysfawr i'r sector cyfan.

2.0 Gofyniad cyfreithiol

Mae'r Rheoliadau Coronafeirws yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy'n gyfrifol am “leoliad rheoledig” (fel y'i diffinnir yn rheoliad 15) sy'n agored i'r cyhoedd, neu lle mae gwaith yn digwydd, gymryd mesurau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 ar y safle, ac i leihau'r risg y bydd y rhai sydd wedi bod ar y safle yn lledaenu'r feirws.

Mae'r Rheoliadau Coronafeirws yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi nodiadau cyfarwyddyd ar yr hyn a ddisgwylir gan bawb sy'n gyfrifol am safleoedd sy'n agored i'r cyhoedd, neu lle mae gwaith yn digwydd. Rhaid i chi ystyried y nodiadau cyfarwyddyd canlynol a gyhoeddwyd o dan y rheoliadau:

Rhaid i chi gydymffurfio hefyd â'r Rheoliadau Coronafeirws ar y meysydd canlynol a allai effeithio ar sut rydych chi'n gweithredu'ch busnes diwylliant neu dreftadaeth ac yn derbyn ymwelwyr. Gall y gyfraith yng Nghymru fod yn wahanol i'r gyfraith sy'n berthnasol mewn rhannau eraill o'r DU a dylech nodi bod newidiadau'n cael eu gwneud yn gyson.

  • Cadarnheir cyfyngiadau ar gynulliadau ac a ellir ffurfio aelwydydd estynedig ai peidio ar bob lefel rhybudd o 1 i 4. Er bod y dyletswyddau hyn yn cael eu gosod ar y cyhoedd maent yn debygol o effeithio ar eich trefniadau archebu a gweithredu.
  • Cadarnheir cyfyngiadau ar deithio i ac o Gymru ar bob lefel rhybudd o 1 i 4.
  • Cadarnheir cyfyngiadau ar safleoedd lletygarwch ar bob lefel rhybudd o 1 i 4 sy'n ymdrin â chyfyngiadau gan gynnwys yn ymwneud â gwerthu neu gyflenwi alcohol, amseroedd cau a rheolau gwasanaeth bwrdd yn yr adeiladau hynny lle maent yn berthnasol.

2.1     Adolygiadau o'r gyfraith

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diweddariad i'r Cynllun Rheoli Coronafeirws, sy'n adeiladu ar fframwaith goleuadau traffig y cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn wreiddiol ym mis Mai 2020.

Mae'r Cynllun Rheoli Coronafeirws diwygiedig hwn, sy'n ystyried brechu a'r amrywiad Caint cryfaf, yn nodi sut y byddwn yn symud trwy'r lefelau rhybudd a sut y gallwn helpu pobl a busnesau i gynllunio ar gyfer y dyfodol, wrth i ni barhau â'n dull gofalus o godi'r cyfyngiadau presennol.

Y pedair lefel rhybudd yw:

  • Rhybudd lefel 1 (risg isel): Mae hyn yn cynrychioli’r lefel o gyfyngiadau sydd agosaf at normalrwydd, sy'n bosibl tra bod cyfraddau heintio’n isel a mesurau ataliol eraill, megis pellhau cymdeithasol a gweithio gartref, yn parhau ar waith.
  • Rhybudd lefel 2 (risg ganolig): Mae hyn yn cynnwys rheolaethau ychwanegol i gyfyngu ar ymlediad Coronafeirws. Gellir ategu'r rhain gan gamau gweithredu lleol wedi'u targedu i fwy o raddau i reoli digwyddiadau neu achosion penodol.
  • Rhybudd lefel 3 (risg uchel): Mae'r rhain yn cynrychioli'r cyfyngiadau llymaf nad ydynt yn cynnwys cyfnod atal byr neu gyfyngiadau symud. Maent yn ymateb i lefelau uwch neu gynyddol o haint lle nad yw camau lleol yn effeithiol mwyach wrth atal twf y firws.
  • Rhybudd lefel 4 (risg uchel iawn): Byddai cyfyngiadau ar y lefel hon yn gyfwerth â'r rheoliadau cyfnod atal byr neu gyfyngiadau symud.

Gweler hefyd Gynllun rheoli’r coronafeirws: lefelau rhybudd diwygiedig yng Nghymru (Mawrth 2021). Dylid gwirio gwybodaeth am y Lefelau Rhybudd presennol ac unrhyw drefniadau trosiannol sydd ar waith (gan gynnwys yr hyn a ganiateir) yn rheolaidd am ddiweddariadau a gellir eu gweld yma.

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Rheoliadau Coronafeirws bob tair wythnos o leiaf. Mae'r adolygiadau hyn yn rhoi cyfle i asesu effeithiolrwydd a chanlyniadau'r darpariaethau a gallant arwain at ddirymiadau neu ddiwygiadau i'r rheoliadau. Mae'n bwysig nodi, os bydd cynnydd mewn achosion COVID-19, y gellir cyflwyno rheolau newydd i leihau lledaeniad y feirws ac amddiffyn iechyd y cyhoedd y tu allan i'r cyfnod adolygu tair wythnos safonol.

Yn ogystal, gallai cynnydd yn y trosglwyddiad o COVID-19, naill ai ledled Cymru neu mewn ardal benodol, effeithio ar yr hyn a ystyrir yn “fesur rhesymol”. Gall yr hyn y gellir ei ystyried yn rhesymol pan fydd cyffredinrwydd y feirws yn isel fod yn wahanol i pan fydd y cyffredinrwydd yn uchel. Yn yr amgylchiadau hyn, gall fod mwy o weithgareddau hefyd lle mae'r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 yn golygu mai’r unig ffordd o leihau'r risg yw peidio gwneud y gweithgaredd neu gau safle neu rannau o safle hyd yn oed. Felly mae'n bwysig llunio ac ailedrych yn rheolaidd ar asesiad risg COVID-19 i sicrhau bod y camau rydych chi'n eu cymryd yn cyd-fynd â'r rheoliadau a'r lefel rhybudd ddiweddaraf a'r amgylchiadau fel y maent yn berthnasol ar adeg benodol.

3.0 Sut i ddefnyddio'r canllaw hwn

Diben y canllawiau hyn yw nodi ystyriaethau ymarferol ar gyfer rheoli cyrchfannau a lleoliadau treftadaeth a diwylliant. Bydd yn eich helpu i gynnal asesiad risg COVID-19, ac i nodi mesurau rhesymol y gallwch eu cymryd i wella diogelwch eich staff, gwirfoddolwyr, a’r cyhoedd sy’n ymweld.

Mae’r brif adran yn rhoi canllawiau cyffredinol ond dylech adolygu atodiadau’r canllawiau sy’n mynd i’r afael â’ch maes gwaith penodol chi hefyd.

Wrth ymateb i’r wybodaeth hon, dylai eich cynlluniau fod yn gymesur. Chi sy’n penderfynu sut i ymdrin â’r broses o reoli eich lleoliad, ond mae’n rhaid i chi weithio yn unol â gofynion y rheoliadau COVID-19 a dangos yn glir eich bod yn rheoli heintiau mewn ffordd ragweithiol.

Nid yw’r canllawiau hyn yn disodli unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol yn cynnwys iechyd a diogelwch, cyflogaeth na chydraddoldeb, ac mae’n bwysig eich bod chi fel busnes neu gyflogwr yn parhau i gydymffurfio â’ch rhwymedigaethau presennol gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag unigolion â nodweddion gwarchodedig.

4.0 Canllawiau ar gyfer rheoli ac agor cyrchfannau a lleoliadau diwylliant a threftadaeth

Dim ond yn unol â rheoliadau COVID-19 y gellir rheoli ac agor cyrchfannau a lleoliadau diwylliant a threftadaeth, gan roi ystyriaeth briodol i’r holl ganllawiau perthnasol.

Dylid ystyried y canllawiau hyn hefyd yng nghyd-destun rheoliadau a chanllawiau mewn meysydd eraill o fywyd lle ceir cyd-ddibyniaethau allweddol a fydd yn effeithio ar y ffordd rydym yn symud ymlaen. Mae’r rhain yn cynnwys y gofyniad i unigolion ac aelwydydd sydd ag achosion posibl neu achosion wedi’u cadarnhau o’r coronafeirws i hunanynysu ac aros gartref. Bydd canllawiau ar ddiogelu’r rhai a oedd yn ‘gwarchod’ (h.y. y rhai y diffinnir ar sail feddygol eu bod yn hynod o agored i niwed o’r coronafeirws (COVID-19) a’r rhai sydd yn y grŵp risg uwch, a chyngor hefyd a roddir i aelodau hŷn cymdeithas i gadw’n arbennig o agos at y mesurau cadw pellter corfforol, hefyd yn effeithio ar y modd y gall sefydliadau fynd i’r afael ag ailagor.

Dylai sefydliadau ganolbwyntio ar greu datrysiadau hyblyg y gellir eu hoedi neu eu gwrthdroi’n gyflym os bydd newidiadau pellach i’r cyfraddau COVID-19 yn genedlaethol neu’n lleol a mesurau a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru i ymateb i hynny.

4.1 Ystyriaethau cyffredinol

Mae Rheoliad 16 o’r rheoliadau Coronafeirws yn ei gwneud hi’n ofynnol i safleoedd a reoleiddir (unrhyw le sy’n agored i’r cyhoedd neu leoliad gwaith) i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, mae hyn yn cynnwys yr angen i:

  1. gynnal asesiad penodol o'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y lleoliad ac wrth wneud hynny ymgynghori â phersonau sy'n gweithio yn y lleoliad neu gynrychiolwyr y personau hynny;
  2. sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng pobl ar y safle;
  3. sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng pobl sy’n gorfod disgwyl i gael mynediad i’r safle;
  4. cyflwyno unrhyw fesurau rhesymol eraill i’r diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n lleihau cysylltiad wyneb yn wyneb agos ac yn cynnal hylendid megis:
    1. newid cynllun y safle yn cynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
    2. rheoli defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
    3. rheoli defnydd o gyfleusterau a rennir fel toiledau a cheginau;
    4. rheoli’r defnydd o unrhyw rannau eraill o’r safle a’r mynediad iddynt;
    5. gosod rhwystrau neu sgriniau;
    6. darparu cyfarpar diogelu personol neu ei gwneud hi’n ofynnol i bobl ei wisgo;
    7. darparu gwybodaeth i’r rhai sy’n dod i’r safle neu’n gweithio yn y safle am sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â choronafeirws.

Gall mesurau rhesymol eraill gynnwys:

  1. peidio â chyflawni rhai gweithgareddau;
  2. cau rhan o'r adeilad;
  3. caniatáu i staff ynysu am fod ganddynt symptomau COVID-19, am eu bod wedi cael prawf cadarnhaol am y firws, neu eu bod wedi cael cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf cadarnhaol;
  4. casglu gwybodaeth gyswllt gan bobl sydd ar y safle (staff, ymwelwyr ac aelodau'r cyhoedd), cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir, a chadw’r wybodaeth am 21 diwrnod

Rhaid cynnal yr asesiad risg mewn ymgynghoriad â staff a chynrychiolwyr (undeb llafur cydnabyddedig neu gynrychiolydd a ddewisir gan y gweithwyr) a rhaid iddo fod ar gael i staff. Dylid annog gweithwyr i nodi, codi llais a rhoi adborth ar risgiau a mesurau rheoli, fel y gellir eu haddasu. Byddwch yn rhagweithiol ynglŷn â dweud wrth eich gweithlu sut y gallant godi pryder iechyd a diogelwch, a drafftio protocol ar gyfer datrys y materion hyn. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu templedi defnyddiol i'ch helpu i gynnal asesiad risg COVID-19 penodol.

Rhaid i asesiadau risg adlewyrchu gofynion deddfwriaeth a chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru.

Wrth feddwl am risg sy’n gysylltiedig â COVID-19, mae’r materion i’w hystyried yn cynnwys:

  • cadw asesiadau risg fel dogfennau ‘byw’ sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd;
  • niwed posibl i iechyd corfforol a meddyliol staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr;
  • oedran y bobl yn eich gweithlu a pha mor agored i niwed yn glinigol ydyn nhw;
  • lleoliad pob pwynt cyffwrdd ac a oes modd eu symud, eu diogelu neu eu cynnwys mewn cyfundrefn lanhau ddwysach;
  • lefelau staffio isaf posib o ran diogelwch – er enghraifft i gynnal y protocolau COVID-19 penodol, neu os bydd aelod o staff neu wirfoddolwr yn mynd yn sâl, neu angen ynysu dro ar ôl tro (gall hyn effeithio ar gapasiti ymwelwyr ar y safle);
  • gohirio tasgau gwaith sydd â pherygl uwch o anaf er mwyn lleihau’r angen am gymorth cyntaf a lleihau’r straen ar y GIG;
  • trefniadau ar gyfer safleoedd â staff os oes rhywun yn mynd yn sâl neu’n cael ei anafu pan fyddant ar y safle — gan gynnwys trefniadau cymorth cyntaf (gweler hefyd adran 3.3 isod);
  • lleihau’r angen am deithiau sy’n gysylltiedig â gwaith a chyswllt wyneb yn wyneb;
  • cydnabod bod cyfathrebu, hyfforddiant ac offer priodol yn ffactorau pwysig wrth helpu i leihau risg.
Cynllunio a pharatoi adeiladau ar gyfer agor
  • Dylai’r cynlluniau fod yn gymesur, dylent gael eu hadolygu’n rheolaidd, a chynnig dull gofalus a graddol o ailagor.
  • Er mwyn penderfynu pa gamau i'w cymryd, mae angen i chi paratoi asesiad risg COVID-19 priodol, yn yr un modd ag y byddech chi ar gyfer peryglon eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch. Rhaid cynnal yr asesiad risg hwn mewn ymgynghoriad ag undebau neu weithwyr.
  • Glanhau mannau cyhoeddus ac ardaloedd gweithlu yn ddwys cyn ailagor a gweithredu cyfundrefnau glanhau diwygiedig a mwy dwys.  Rhowch sylw arbennig i ardaloedd ac arwynebau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml, fel ystafelloedd ymolchi, rheiliau cydio mewn coridorau ac ar risiau, a dolenni drysau. Mae canllawiau defnyddiol ar gael ar yma.
  • Cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch statudol ar adeiladau cyn agor ar gyfer staff neu ymwelwyr. Bydd swyddogion iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol yn gallu rhoi cyngor gwerthfawr ar y gwiriadau sydd eu hangen cyn ailagor.
Bariau, bwytai ac arlwyo ar y safle
Manwerthu
  • Mae yna wahanol ofynion ar gyfer y safleoedd hynny sy'n gwerthu nwyddau manwerthu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau COVID-19 Diogelu Cymru: mewn manwerthu, y mae'n rhaid eu dilyn.
Cyflenwadau dŵr

Os yw adeiladau wedi bod ar gau neu lai o bobl wedi bod yn eu defnyddio gall marweidd-dra system ddŵr ddigwydd oherwydd diffyg defnydd, gan gynyddu’r risg o glefyd y Llengfilwyr. Mae canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy’n ymwneud â rheoli dŵr a legionella ar gael yma.

Os yw prif gyflenwad dŵr wedi’i droi i ffwrdd pan mae’r adeilad wedi bod ar gau, bydd angen rhedeg dŵr trwyddo i fflysio unrhyw weddillion microbiolegol neu gemegol sydd wedi crynhoi pan oedd y cyflenwad dŵr wedi’i ddatgysylltu a gwirio tymheredd y dŵr hefyd.

Mae'r Arolygiaeth Dŵr Yfed, sef y Rheoleiddwyr a’r arbenigwyr technegol yng Nghymru a Lloegr, wedi cynhyrchu'r cyngor hwn ar gynnal ansawdd dŵr yfed wrth adfer cyflenwadau dŵr ar ôl cau dros dro oherwydd yr achosion o COVID-19.

Aerdymheru ac awyru

Mae gan y rhai sy'n rheoli adeilad ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau awyru effeithiol. Mae cyngor pellach ar aerdymheru ac awyru ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yma.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi diweddaru ac ehangu ei gyngor i helpu cyflogwyr i ddarparu awyru digonol yn eu gweithleoedd a'u hadeiladau yn ystod y pandemig. Mae'r canllawiau'n adeiladu ar y nod o’ch helpu chi i nodi a mynd i’r afael ag ardaloedd sydd wedi'u hawyru'n wael. Mae’n darparu arweiniad ar ffactorau eraill i'w hystyried wrth asesu'r risg o drosglwyddiad aerosol hefyd, a phenderfynu a oes awyru digonol yn cael ei ddarparu i leihau'r risg hon.

Dylech sicrhau bod cymaint o awyr iach â phosibl mewn gofod a gellir gwneud hyn trwy:

  • awyru naturiol
  • awyru mecanyddol
  • cyfuniad o awyru naturiol a mecanyddol, er enghraifft lle mae awyru mecanyddol yn dibynnu ar awyru naturiol i gael cymaint o awyr iach â phosibl

Darllenwch y canllawiau diwygiedig ar aerdymheru ac awyru a gweld sut y gallwch chi ddarparu awyru digonol yn eich gweithle, gan helpu i ddiogelu gweithwyr a phobl eraill rhag lledaeniad y coronafeirws.

Mae cyngor ar gael hefyd ar gyfer gwasanaethau adeiladu, yn enwedig ynghylch awyru adeiladau – y rhai sy’n cael eu defnyddio ac wrth ddychwelyd i adeiladau sydd wedi bod ar gau – gan y canlynol:

Awyru a'r amrywiadau newydd (manylion technegol ar gyfer y rhai sydd â systemau mecanyddol)

Mae awyru yn fesur lliniaru allweddol i reoli trosglwyddiad COVID-19 o bell (mwy na 2 fetr) gan aerosolau rhwng pobl sy'n rhannu'r un gofod dan do. Nid yw awyru'n debygol o gael effeithiau sylweddol ar drosglwyddiad agos drwy ddefnynnau ac aerosolau (o fewn 1-2 fetr) neu drosglwyddo trwy gyswllt ag arwynebau (hyder uchel).

Gallai llwyth firaol uwch sy'n gysylltiedig â phobl sydd â'r amrywiad newydd fod â goblygiadau sylweddol ar gyfer trosglwyddo trwy'r awyr, gan fod modelu gwyddonol blaenorol yn awgrymu bod llwyth firaol yn un o brif benderfynyddion risgiau trosglwyddo yn yr awyr. Nododd SAGE cyn cyflwyno'r amrywiad newydd fod awyru digonol yn y mwyafrif o weithleoedd ac amgylcheddau cyhoeddus yn cyfateb i gyfradd llif o 8-10 l/s/person yn seiliedig ar ddeiliadaeth y dyluniad, er bod canllawiau ar gyfer rhai amgylcheddau’n caniatáu cyfraddau llif is o 5 l/s/person. Ers cyflwyno'r amrywiad newydd, mae SAGE wedi argymell, lle bo modd, cynyddu cyfraddau llif awyru y cyfeirir atynt uchod gan ffactor o 1.7 (70%) i gyfrif am y cynnydd mewn trosglwyddadwyedd.

Ar gyfer rhai adeiladau presennol a hŷn, efallai na ddyluniwyd systemau awyru i fodloni safonau cyfredol ac efallai y bydd angen mesurau lliniaru ychwanegol. Fel mesur rhagofalus, argymhellir cynnwys awyru fel rhan o unrhyw asesiad risg diogel COVID yn y gweithle neu'r amgylchedd dan do cyhoeddus, a mabwysiadu’r mesurau lliniaru angenrheidiol.

Mae sicrhau awyru da yn amcan allweddol:

  • Mae'r rhai sy'n rheoli eiddo yn cadw dyletswydd gyfreithiol (gweler https://www.hse.gov.uk/pUbns/priced/l24.pdf - Mae Rheoliad 6 yn ymdrin ag awyru) i sicrhau awyru effeithiol.
  • Mae gofyn i gyflogwyr sicrhau cyflenwad digonol o aer ffres drwy awyru naturiol neu fecanyddol. -  Mewn rhai achosion, gellir gwella awyriad cyffredinol drwy agor drysau neu ffenestri.
  • Nid oes angen addasu’r rhan fwyaf o systemau aerdymheru, fodd bynnag pan fo systemau’n gwasanaethu sawl adeilad, neu os ydych chi’n ansicr, dylech gael cyngor gan eich peirianwyr neu gynghorwyr gwresogi, awyru ac aerdymheru.
  • Yn achos systemau aerdymheru canolog cwbl fecanyddol, sy’n darparu ac echdynnu aer o sawl ystafell, yr arfer gorau yw osgoi ailgylchredeg aer. Dylai fod gan bob system awyru fecanyddol ganolog gyfleuster i droi’r modd ailgylchredeg i ffwrdd a defnyddio cyflenwad aer ffres yn unig.
  • Yn achos systemau mecanyddol mewn ystafelloedd unigol, pan fo’r moddau ailgylchredeg yn galluogi cyfraddau uwch o gyflenwad aer ffres i ofod, er enghraifft trwy atal drafftiau oer, yna dylid caniatáu i’r dyfeisiau hyn weithredu.
  • Byddai ffaniau’n ailgylchredeg yr aer presennol, felly ni ddylid eu defnyddio.
  • Gwiriwch a oes angen gwasanaethu neu addasu systemau awyru, er enghraifft, fel nad ydynt yn lleihau lefelau awyru’n awtomatig gan fod llai o bobl nag arfer yn yr adeilad.
  • Gall storfeydd amgueddfeydd ac archifau lle nad oes pobl ynddynt yn barhaol gael lefelau awyru wedi’u teilwra.
  • Ystyriwch a oes angen symud gweithfannau staff sydd wedi’u lleoli’n agos at bwyntiau awyru fel nad ydynt yn agored i risgiau ychwanegol.
Profi, Olrhain, Diogelu
  • Mae’n ofynnol i adeiladau rheoledig gasglu gwybodaeth gyswllt gan bob person ar y safle, gan gymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o'r fath yn gywir, a'i chadw am 21 diwrnod.
  • Mae casglu gwybodaeth gyswllt yn helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu i ganfod pobl a allai fod wedi bod yn agored i'r firws ac sy'n ddi-symptom (h.y. nid ydynt yn arddangos symptomau eto) os bydd achos positif wedi’i ganfod mewn lleoliad penodol.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfrifoldebau cyflogwyr i helpu gyda phrofion COVID-19 ac olrhain cysylltiadau. Cyhoeddwyd canllawiau hefyd ar gadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu.
  • Sicrhewch bod aelodau staff yn gwbl ymwybodol o gydymffurfiaeth eu cyflogwr â’r broses Profi Olrhain Diogelu a’r angen posibl i’w cyflogwr ryddhau eu manylion cyswllt personol i’r tîm ymholiadau pe bai achos yn codi yn eu gweithle neu’n ymwneud â’u gweithle.
  • Rhaid caniatáu i weithiwr hunanynysu os oes ganddo symptomau, os yw wedi profi'n bositif neu'n byw gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi profi'n bositif, neu wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru oherwydd ei fod wedi cael ei nodi fel cyswllt agos rhywun sydd wedi profi'n bositif.
  • Os bydd sawl achos o COVID-19 yn ymddangos yn y lleoliad neu'r gweithle, bydd tîm rheoli achosion o'r Awdurdod Lleol neu Iechyd Cyhoeddus Cymru, os oes angen, yn cael ei aseinio i'ch helpu chi fel cyflogwr i reoli'r achosion. Dylai cyflogwyr ofyn am gyngor gan eu Hawdurdod Lleol yn y lle cyntaf yn unol â'r canllawiau.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Ystyriwch hawliau’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb a sut y byddant yn gallu parhau i gael mynediad i’ch lleoliad/gwasanaethau’n ddiogel (e.e. a oes angen gwneud addasiadau rhesymol i bobl ag anableddau).
  • Ystyriwch sut y byddwch yn parhau i gydymffurfio â safonau o ran y Gymraeg wrth weithredu unrhyw newidiadau yn eich gweithgareddau/gwasanaethau.
  • Cofiwch nad oes gan rai pobl fynediad i’r rhyngrwyd, neu ei bod yn anodd neu’n amhosibl iddynt ddefnyddio’r rhyngrwyd. Dylech wneud darpariaeth iddynt allu archebu/gwneud ymholiadau all-lein.
Diogelwch a pharodrwydd am argyfwng
  • Cofiwch ystyried diogelwch wrth wneud unrhyw newidiadau i’ch ffyrdd o weithio. Mae angen bod yn ymwybodol o unrhyw wendidau newydd y gallwch eu creu’n anfwriadol wrth weithredu ffyrdd newydd o weithio. Peidiwch â dileu unrhyw nodweddion diogelwch heb ystyried diogelwch amddiffynnol yn ei grynswth.
  • Gwnewch yn siŵr bod unrhyw addasiadau COVID-19 yn cefnogi eich parodrwydd am argyfwng. Gallai’r problemau gynnwys eich mannau ymgynnull larwm tân, mynediad ar gyfer timau ymateb brys, delio â phobl dreisgar neu ymosodol a sefyllfaoedd eraill sy’n bygwth bywyd. Gwiriwch fod swyddogion cymorth cyntaf hyfforddedig yn parhau i fod yn barod i ymgymryd â’r rolau hynny ac yn diweddaru unrhyw hyfforddiant cymorth cyntaf i gynnwys protocolau COVID-19.
  • Mae canllawiau ar wahân ar gyfer ymatebwyr cyntaf, gan gynnwys swyddogion cymorth cyntaf. Efallai yr hoffech ystyried defnyddio masgiau wyneb FP2/FP3 fel arfer da pan na ellir sicrhau pellter corfforol wrth roi cymorth cyntaf.
Adolygu
  • Gwnewch yn siŵr bod yr holl bolisïau a mesurau yn cael eu hadolygu’n rheolaidd (o leiaf bob wythnos), yn enwedig yn wyneb newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau’r llywodraeth, gwersi a ddysgwyd ac unrhyw enghreifftiau eraill o arfer gorau mewn mannau eraill.
Beth i'w wneud os bydd ymwelydd, neu aelod o staff yn mynd yn sâl
  • Mae'n hanfodol cynnal gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol am symptomau COVID-19, a gellir eu gweld yma
  • Dylid gwneud trefniadau i’r unigolyn sâl ddychwelyd adref ar unwaith. Os oes unrhyw fodd o gwbl dylid osgoi trafnidiaeth gyhoeddus. Os oes angen defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhaid cadw at y canllawiau ar deithio'n ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws
  • Dylid symud yr unigolyn i ardal i ffwrdd oddi wrth bobl eraill. Os yw'n bosibl, chwiliwch am ystafell neu ardal lle gellir eu hynysu y tu ôl i ddrws wedi’i gau. Cyn belled ag y bo modd, dylai pob aelod arall o staff, aelodau’r cyhoedd ac ymwelwyr osgoi cyswllt uniongyrchol neu agos â'r unigolyn. Os oes modd agor ffenest, gwnewch hynny er mwyn awyru. Oni bai bod ganddynt symptomau sylweddol neu gymhlethdodau ni ddylid ffonio GIG 111. Os yw'r unigolion yn ddifrifol wael neu wedi anafu neu os yw ei fywyd mewn perygl ffoniwch 999 fel argyfwng.
  • Dylai'r unigolyn osgoi cyffwrdd â phobl, arwynebau a gwrthrychau a dylid ei gynghori i orchuddio ei geg a'i drwyn gyda hances dafladwy pan fydd yn peswch neu'n tisian ac yna rhoi'r hances mewn bag ac yna yn y bin. Os nad oes ganddo unrhyw hancesi, dylai besychu a thisian i mewn i blygiad ei benelin.
  • Dylai unrhyw wastraff sydd wedi bod mewn cysylltiad ag achos COVID-19 posibl, gan gynnwys hancesi wedi’u defnyddio, gael ei roi mewn bag sbwriel plastig a'i glymu. Yna dylid rhoi'r bag plastig mewn ail fag bin, ei glymu a'i waredu yn y gwastraff cyffredinol ar ôl 72 awr.
  • Rhaid glanhau a diheintio'r safle'n drylwyr, gan ddilyn canllawiau COVID-19: glanhau mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd sydd ar gael ar GOV.UK. Mae canllawiau pellach ar lanhau ar gael yn Trefniadau Glanhau a hylendid

4.2 Cyflogeion a diogelu pobl yn y gwaith

Mae’n rhaid cymryd pob cam rhesymol er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd a’r angen i gadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â chanllawiau i gyflogwyr a gweithwyr ar gadw’n ddiogel yn y gweithle.

Dylech hefyd ystyried:

Hyfforddiant a gwybodaeth
  • hyfforddiant priodol, briffio neu ailgynefino staff a gwirfoddolwyr yng nghyd-destun y rolau a’r cyfrifoldebau newydd sy’n gysylltiedig â COVID-19;
  • darparu gwybodaeth cyn dychwelyd i’r gwaith fel bod staff yn deall newidiadau logistaidd cyn iddynt gyrraedd yn ôl i’r gweithle;
Iechyd a llesiant cyflogeion
  • presenoldeb pwy sy’n hanfodol ar y safle — pwy ddylai fod yn y gwaith a phwy ddylai weithio o gartref;
  • ystyried trefniadau ar gyfer yr unigolion hynny sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol (a oedd yn ‘gwarchod’ gynt) a hefyd pobl yn y grŵp risg uwch;
  • lleihau’r rhyngweithio rhwng staff — er enghraifft, drwy batrymau sifftiau, gweithio hyblyg, egwyliau amrywiol a defnyddio cyfleusterau lles;
  • lleihau’r cyfleoedd i bobl gysylltu â’i gilydd drwy ddefnyddio ‘timau sefydlog neu bartneru’ neu drefniadau ‘cyfeillio’/grŵp (fel bob pob person ddim ond yn gweithio gydag ychydig o bobl eraill);
  • llesiant ac iechyd gweithwyr, er enghraifft, y gallu i gyflawni rôl benodol neu pa mor bryderus mae staff ynghylch dychwelyd i’r adeilad/safle;
  • cadw llinellau cyfathrebu ar agor gyda staff a all fod gartref o hyd, a’u cynnwys wrth gynllunio ar gyfer ailagor a newidiadau yn y dyfodol;
  • darparu cymorth i staff sy’n dychwelyd i’r gwaith yn dilyn digwyddiadau trawmatig, megis marwolaeth neu salwch rhywun agos, neu anhawster ariannol;
  • sicrhau bod gweithwyr cyflogedig yn ymwybodol os oes ganddynt symptomau, os ydynt yn cael prawf COVID-19 positif neu’n byw gyda rhywun sydd â symptonau neu sy’n cael prawf positif, bod rhaid iddynt hunanynysu gartref a threfnu i gael prawf. Hefyd, os cawsant eu nodi drwy system Profi Olrhain Diolgelu y GIG fel cyswllt rhywun sydd wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19 neu’n cael prawf positif eu hunain, mae’n ofynnol iddyn nhw hunanynysu yn ôl y gyfraith.
Adnoddau dynol
  • diweddaru polisïau a gweithdrefnau adnoddau dynol er mwyn ystyried materion sy’n ymwneud â COVID-19 (megis y rhai sy’n ymwneud â salwch, absenoldeb, lles, iechyd meddwl, gweithio o bell/hyblyg a hyfforddiant — cofiwch fynd i’r afael â rhesymau newydd dros absenoldeb gan gynnwys ynysu yn sgil cyswllt agos neu ofyn am amser o’r gwaith i ofalu am ddibynnydd) a chyfleu’r newidiadau i staff yn glir. Os yw’n berthnasol, bydd angen i undebau llafur neu grwpiau eraill sy’n cynrychioli staff fod yn rhan o’r trafodaethau hyn;
  • adolygu prosesau absenoldeb oherwydd salwch fel na chaiff gweithwyr eu cosbi na’u disgyblu am fod angen hunanynysu;
  • y posibilrwydd o lefelau uwch o absenoldeb yn effeithio ar weithgareddau critigol a sut y gellid atal hyn (er enghraifft, ystyried hyfforddi sawl aelod o staff i gyflawni gwahanol rolau);
Eich safle a’i weithrediad
  • adolygu sut i gynnal cyfarfodydd ar ac oddi ar y safle, gan gynnwys gweithio o bell;
  • lleihau symudiadau diangen o amgylch adeiladau;
  • sut mae staff yn mynd i mewn ac allan o’r gweithle;
  • rhoi arferion gweithio diogel arbenigol ychwanegol ar waith a allai fod yn berthnasol i’ch lleoliad chi — mewn ymgynghoriad â staff, cynrychiolwyr staff a gwirfoddolwyr;
  • cyflwyno protocolau ar gyfer mynediad cefn-tŷ gan gynnwys ymdrin â nwyddau a phost sy’n cyrraedd, contractwyr sy’n ymweld, ac ymwelwyr swyddogol eraill;
  • rheoli’r broses o ymdrin ag arian ac agor post;
  • darparu canllawiau i’r staff ar gyfleusterau arlwyo i’r staff, defnyddio offer cegin a staff sy’n dod â bwyd i’r safle — er enghraifft, glanhau ffyrnau microdonnau, oergelloedd, mannau bwyta ac ati;
  • cyflwyno rota egwyl am yn ail neu estynedig er mwyn osgoi gorlenwi ystafelloedd staff;
  • ei gwneud yn ofynnol gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do neu mewn ardaloedd dan do eraill nad ydynt yn hygyrch i'r cyhoedd lle na ellir cynnal pellter o 2 fetr;
  • darparu mannau i storio bagiau/dillad/offer/peiriannau i ffwrdd oddi wrth eraill;
  • yr angen i lanhau cyfleusterau a thoiledau staff yn fwy rheolaidd (gweler adran 3.5 isod);
  • lleihau rhannu gweithfannau i’r eithaf — os oes angen eu rhannu, dylent gael eu rhannu gan y nifer lleiaf posibl o bobl a'u glanhau'n drylwyr ar ôl pob unigolyn;
  • glanhau a chlirio gweithfannau, yn enwedig rhai sy’n cael eu rhannu, a chael gwared ar wastraff ac eiddo o’r ardal waith ar ddiwedd sifft.
Cludiant
  • trefniadau parcio ar gyfer ceir/beiciau staff, gan gynnwys darparu lleoedd parcio ychwanegol ar gyfer gweithwyr a allai fod yn osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r canllawiau ar amddiffyn pobl yn y gwaith yr un mor berthnasol i wirfoddolwyr a gweithwyr cyflogedig.

Mae gan lawer o leoliadau diwylliannol sy’n agored i’r cyhoedd dimau bach o staff ac maent yn dibynnu ar wirfoddolwyr neu aelodau o’r teulu. Mae rhai o’r rhain yn hŷn a/neu wedi bod yn gwarchod neu yn y grŵp risg uchel ac felly ni fyddant yn teimlo’n gyfforddus ynghylch parhau i gyfranogi dan yr amodau presennol. Bydd angen i sefydliadau ystyried sut y maent yn cadw mewn cysylltiad â’r bobl hyn.

Gall y bydd angen i sefydliadau chwilio am ffyrdd o gyflwyno gwirfoddolwyr newydd i’w timau. Gallai hyn helpu i gynyddu goruchwyliaeth ar adeg pan fydd llawer o sefydliadau wedi colli rhywfaint o’u gweithlu gwirfoddol.

Wrth ddefnyddio’r canllawiau hyn, mae angen i sefydliadau fod yn ymwybodol o’r gofyniad i drin pawb yn y gweithle yn gyfartal, a bod yn ymwybodol o anghenion penodol gwahanol grwpiau o weithwyr neu unigolion. Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn erbyn unrhyw un oherwydd nodwedd warchodedig megis oedran, rhyw, anabledd, hil neu grefydd.

4.3 Rheoli ymwelwyr

Mae angen i’r mesurau y mae angen eu gweithredu i reoli ymwelwyr fod yn gymesur, a byddant yn dibynnu ar natur a maint y safle. Nodir rhai awgrymiadau isod.

Dylid nodi materion sy’n ymwneud â rheoli ymwelwyr yn ddiogel mewn asesiadau risg. Mae hefyd yn bosibl y bydd modd ystyried dulliau sy’n cael eu mabwysiadu gan leoliadau diwylliannol a threftadaeth eraill sydd ar agor yn eich ardal leol. Byddai hyn yn sicrhau dull gweithredu cyson, yn nodi unrhyw botensial ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, a gallai feithrin mwy o hyder ymhlith ymwelwyr.

Gorchuddion wyneb

Mae'n orfodol gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do sy'n agored i'r cyhoedd (boed mynediad am dâl neu am ddim). Mae’n rhaid i staff, ymwelwyr ac aelodau'r cyhoedd wisgo gorchuddion wyneb oni bai bod ganddyn nhw esgus rhesymol i beidio â gwneud hynny, sy'n cynnwys eithriadau i'r rheini o dan 11 oed ac i bobl na allant wisgo gorchuddion wyneb oherwydd cyflyrau iechyd neu anabledd. Dylai'r unigolion hynny sydd ag eithriadau rhag gwisgo gorchuddion wyneb gael eu trin yn sensitif a dylid gwneud yr holl staff yn ymwybodol y gallant dynnu eu gorchuddion wyneb dros dro, gan gynnal pellter o 2 fetr, i gynorthwyo pobl sy'n ddibynnol ar ddarllen gwefusau i gyfathrebu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Gorchuddion wyneb: canllawiau ar y mesurau i'w cymryd gan gyflogwyr a rheolwyr mangreoedd.

Mannau dan do

Dylech ystyried:

Capasiti a chylchrediad

  • asesu gofodau i werthuso faint o bobl a all fod mewn mannau penodol a pharhau i gynnal y gallu i gadw pellter corfforol o 2 fetr yn ddiogel;
  • cyflwyno slotiau wedi’u hamseru ar gyfer mynediad sydd ar gael i’w trefnu ar-lein, neu dderbyn ymwelwyr drwy apwyntiad yn unig (gan gofio sefydlu darpariaeth amgen ar gyfer y rhai sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd);
  • cyfyngu ar gapasiti i lefel y gwyddoch y gall y safle a’r staff ei darparu’n gyfforddus gan gadw at fesurau cadw pellter corfforol ac adolygu’r cyfyngiadau ar gapasiti’n rheolaidd;
  • darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i bobl pan fyddant yn cyrraedd ac yn gadael yr adeilad, yn ogystal ag mewn ardaloedd prysur/cyswllt â chwsmeriaid.
  • trefniadau ar gyfer cadw pellter corfforol- er enghraifft, datblygu system unffordd, gydag arwyddion priodol, neu nodi gwasgbwyntiau a phwyntiau ymgynnull allweddol a sut y gellir rheoli’r rhain. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gyflwyno dull hanfodol gwahanol o alluogi ymwelwyr i symud o gwmpas eich adeiladau o’i gymharu â’r drefn flaenorol
  • sicrhau bod unrhyw newidiadau i fynedfeydd, allanfeydd a rheoli ciwiau yn ystyried addasiadau rhesymol ar gyfer y rheini sydd eu hangen, gan gynnwys cwsmeriaid anabl;
  • cyfyngu ar fynedfeydd a phwyntiau mynediad i wella’r broses o reoli llif ymwelwyr. Os oes modd, dylech nodi pwyntiau “mynedfa ac allanfa” clir ledled y safle;
  • gadael drysau mewnol ar agor lle y bo’n ddiogel i wneud hynny (er enghraifft, yn amodol ar drefniadau diogelwch tân), fel y gall ymwelwyr weld eraill bob amser. Mantais ychwanegol i hyn fyddai dileu’r angen i nifer o ymwelwyr gyffwrdd â’r un dolenni drysau, ond efallai na fydd yn bosibl os bydd angen rheoli amodau tymheredd/amgylcheddol ar gyfer casgliadau sensitif mewn amgueddfeydd;
  • cyfyngu ar y defnydd o lifftiau — er enghraifft, i rai â chadeiriau gwthio neu i bobl â phroblemau symudedd/iechyd. Pan ddefnyddir lifft, dylid ystyried gosod uchafswm newydd — er enghraifft, un person, neu ddau os oes angen gofalwr — a gosod marcwyr ar y llawr i nodi arferion cadw pellter corfforol gorau yn y gofod cyfyng;
  • defnyddio arwyddion, rhwystrau a marciau llawr i gynorthwyo cydymffurfiaeth â’r gofynion cadw pellter corfforol, gan gynnwys wrth ddesgiau gwasanaeth cwsmeriaid, desgiau tocynnau, siopau ac mewn orielau, ac ati;
  • ystyried pa drefniadau amgen y mae'n rhaid eu rhoi ar waith ar gyfer y rhai â phroblemau golwg nad ydynt efallai'n gallu barnu pellter corfforol neu weld arwyddion yn dda iawn / o gwbl;
  • cyflwyno arwyddion ‘oedi ac aros’ lle bo’n briodol;
  • lleoli staff yn agos at wasgbwyntiau a phwyntiau ymgynnull allweddol i oruchwylio symudiadau ymwelwyr drwy’r ardaloedd hyn (e.e. grisiau/llwybrau tramwy cul y mae angen eu defnyddio i’r ddau gyfeiriad) — gan roi ystyriaeth arbennig i bobl ag anableddau gan gynnwys nam ar y golwg. Os nad yw’n bosibl cynnal y cadw pellter corfforol gofynnol, ystyried cau ardaloedd;
  • rheoli ciwiau yn yr awyr agored, os oes angen, i sicrhau nad ydynt yn achosi risg i unigolion na busnesau eraill, er enghraifft drwy gyflwyno systemau ciwio, defnyddio rhwystrau ac aelodau staff i gyfarwyddo cwsmeriaid. Gall hyn gynnwys defnyddio ardaloedd y tu allan ar gyfer ciwio lle mae modd gwneud hynny’n ddiogel, er enghraifft rhai meysydd parcio. Cynlluniau wrth gefn yn eu lle ar gyfer cyfnodau o dywydd gwael.
Rheoli ymwelwyr
  • cyflwyno gwybodaeth i’r cyhoedd ac arwyddion sy’n annog ymwelwyr i gymryd sylw o gyfarwyddiadau gan staff y lleoliad — fel arwyddion ‘helpwch ni i’ch helpu chi’;
  • arddangos gwybodaeth ar arwyddion sy’n dweud wrth ymwelwyr/aelodau’r cyhoedd na ddylen nhw geisio mynd i mewn i leoliadau pan mae’n ofynnol iddyn nhw hunanynysu gartref;
  • arddangos arwyddion sy’n cadarnhau bod yn rhaid i bob ymwelydd wisgo gorchudd wyneb bob amser mewn lleoliadau cyhoeddus dan do oni bai bod ganddo esgus rhesymol dros beidio gwisgo gorchudd wyneb);
  • defnyddio posteri a chyhoeddiadau i atgoffa ymwelwyr i gymryd cyfrifoldeb unigol i gadw pellter corfforol ac i olchi eu dwylo yn aml neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo;
  • darparu cyfleusterau diheintio dwylo a chyflwyno protocolau glanhau newydd;
  • yn unol â GDPR, sicrhau bod pob ymwelydd yn ymwybodol o'r gofyniad ar y lleoliad a'r sefydliad i gydymffurfio â system Profi, Olrhain, Diogelu’r GIG mewn perthynas â chasglu a chadw gwybodaeth bersonol aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â’r lleoliad/sefydliad. Hefyd dylid gwneud ymwelwyr yn ymwybodol y gallai eu gwybodaeth gyswllt bersonol fod ar gael i'r tîm olrhain TTP pe bai achos wedi'i gadarnhau o COVID-19 yn y lleoliad;
  • ystyried pa drefniadau amgen y mae'n rhaid eu rhoi ar waith ar gyfer y rhai â phroblemau golwg nad ydynt efallai'n gallu barnu pellter corfforol neu weld arwyddion o gwbl/yn dda iawn;
  • cyflwyno rhwystrau neu sgriniau Perspex mewn derbynfeydd ymwelwyr, cownteri talu ac mewn rhannau eraill o’r adeilad lle y bo’n briodol;
  • cyflwyno taliad digyswllt wrth y til, neu o leiaf taliad cerdyn, i osgoi ymdrin ag arian parod;
  • cyfyngu ar seddi ymwelwyr, gan gydnabod bod gan rai ymwelwyr anghenion symudedd ac efallai y bydd angen iddynt orffwys;
  • atgoffa ymwelwyr sy’n dod gyda phlant eu bod yn gyfrifol am eu goruchwylio bob amser;
  • cael gwared ar unrhyw wrthrychau rhyngweithiol neu osod arwydd i wahardd eu defnyddio;
  • glanhau cyfarpar tywys sain yn drylwyr rhwng defnyddwyr — dylid eu sychu a'u glanhau â chlytiau sy'n cynnwys diheintydd. Bydd angen diogelu’r staff sy’n ymdrin â’r offer yn briodol;
  • tynnu deunydd marchnata papur ac adnoddau papur eraill megis tudalennau lliwio a phensiliau i leihau’r risg o groes-halogi.
Grwpiau a chynulliadau

Bydd angen i leoliadau fod yn ymwybodol o’r gwahanol reolau a allai fod ar waith o ran faint o bobl sy'n gallu cyfarfod, yn ble, ac i ba bwrpas, a chadw at y rheolau hynny, a hefyd y rheolau ar oedrannau unigolion sy'n cyfarfod.

Cadarnheir cyfyngiadau ar gynulliadau ac a ellir ffurfio aelwydydd estynedig ai peidio ar bob lefel rhybudd o 1 i 4. Er bod y dyletswyddau hyn yn cael eu gosod ar y cyhoedd maent yn debygol o effeithio ar eich trefniadau archebu a gweithredu. Mae mwy o wybodaeth yn y Canllawiau ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch: coronafeirws.

Ymweliadau Addysgol

Mae'r Canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau’n cynnwys y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ymweliadau addysgol.

Mannau awyr agored

Dylech ystyried:

  • trefniadau parcio ceir — er enghraifft, rheoli ciwiau posibl;
  • gweithio gyda’ch awdurdod lleol ar effaith ciwio a pharcio ceir ar yr ardal leol;
  • lleihau risg wrth bwyntiau talu yn y maes parcio — er enghraifft drwy ddefnyddio arwyddion clir, defnyddio tâl drwy ffôn symudol a/neu ddefnyddio gorsafoedd diheintio dwylo. Mae’n bosibl y bydd angen mwy o le rhwng ceir a cherddwyr wrth iddynt symud yn ôl ac ymlaen o feysydd parcio;
  • creu bylchau rhwng meinciau/byrddau picnic awyr agored i ganiatáu parth clustogi rhwng ymylon byrddau/meinciau i ganiatáu cadw pellter corfforol, a glanhau arwynebau’n aml wedi i feinciau/byrddau gael eu defnyddio;
  • caniateir i feysydd chwarae awyr agored agor os oes gwiriadau diogelwch ar waith a bod mesurau hylendid Covid-19 yn cael eu gweithredu. Gallech ystyried rheoli faint sy’n cael defnyddio’r maes chwarae ar y tro;
  • darparu mwy o gyfleusterau gwastraff a chasglu gwastraff yn fwy rheolaidd gan hefyd ystyried goblygiadau gwaredu gorchuddion wyneb untro a ddefnyddir gan aelodau'r cyhoedd a thrin y gwastraff hwnnw.
  • cynyddu lled llwybrau a datblygu systemau unffordd lle bo hynny’n bosibl. 

4.4 Trefniadau glanhau a hylendid

Cyflwyno protocolau glanhau/hylendid sy’n hawdd i’r holl staff a chontractwyr eu deall. Mae canllawiau defnyddiol ar gael ar lanhau a hylendid mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd.

Dylech ystyried:

  • mwy o lanhau ar bwyntiau cyffwrdd, megis rheiliau llaw, gatiau, bylau drysau, switsh golau, platiau drws, botymau lifftiau, peiriannau talu am barcio, offer a ddarperir i ymwelwyr ac ati, ac offer y mae angen i weithwyr ei rannu;
  • darparu hylif diheintio dwylo wrth fynedfeydd ac allanfeydd y safle/adeilad a lle bo mannau cyffwrdd rheolaidd, lluosog yn bodoli na ellir eu hosgoi;
  • sicrhau bod cyfleusterau ymolchi dwylo ar gael gyda pheiriannau sebon awtomatig a chyflenwad o dyweli papur lle bo hynny'n bosibl;
  • cynyddu amlder glanhau mannau gwaith ac arwynebau, gan ddefnyddio eich cynhyrchion glanhau arferol;
  • dylid glanhau llungopiwyr, sganwyr ac argraffwyr hunanwasanaeth rhwng defnyddwyr ac, os yn bosibl, dylid eu cyfyngu i ddefnydd staff i gyfyngu ar nifer y bobl sy'n cyffwrdd â'r pad rheoli. Dylai'r cyfarpar hwn gael ei lanhau'n rheolaidd gan staff yn unol ag asesiadau risg
  • darparu mwy o gyfleusterau gwastraff a chasglu sbwriel yn amlach; gan hefyd ystyried goblygiadau gwaredu gorchuddion wyneb untro a ddefnyddir gan aelodau'r cyhoedd a thrin y gwastraff hwnnw
  • darparu hylif diheintio dwylo i’w ddefnyddio gan staff a gwirfoddolwyr cyn iddynt fynd i mewn i gyfleusterau cegin;
  • atgyfnerthu negeseuon hylendid hanfodol am olchi dwylo’n aml, defnyddio hylif diheintio dwylo, yr angen i osgoi cyffwrdd â’ch wyneb ac i beswch neu disian i mewn i’ch braich neu i hances bapur y dylid ei thaflu’n ddiogel i fin sbwriel;
  • cyfyngu ar rannu cyfleusterau cymunedol, er enghraifft, cael gwared ar ffynhonnau dŵr.

4.5 Cyfleusterau toiled

Yn benodol o ran cyfleusterau toiled, dylid ystyried:

  • gwella a chynyddu amlder cyfundrefnau glanhau;
  • cyflwyno arwyddion a marcwyr llawr i gefnogi cadw pellter corfforol, gan gynnwys wrth giwio;
  • a ddylai pobl giwio y tu allan i adeilad y toiled yn hytrach na thrwy’r drws ac i mewn iddo – yn aml mae pobl sy’n ciwio yn agos iawn at y rhai sy’n golchi eu dwylo, a dylid osgoi hyn;
  • atal defnydd wrinalau ac unedau basn sydd wrth ymyl ei gilydd.
  • cyflwyno peiriannau sebon dim cyffwrdd os yn bosibl;
  • cyflwyno gwiriadau mwy rheolaidd o ddosbarthwyr sebon/tyweli papur, oherwydd y disgwyliad y bydd mwy o ddefnydd ohonynt;
  • defnyddio arwyddion a phosteri i godi ymwybyddiaeth o dechneg golchi dwylo da;
  • darparu hylif diheintio dwylo mewn sawl lleoliad yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi;
  • lleihau’r defnydd o doiledau cludadwy;
  • cynyddu amlder glanhau cyfleusterau newid babanod.

Mae canllawiau ar wahân wedi’u cyhoeddi ynghylch rheoli toiledau a ddefnyddir gan y cyhoedd yn ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws

4.6 Monitro a gwerthuso

Dylech fonitro a gwerthuso’n systematig y gweithdrefnau a’r cynlluniau a roddwyd ar waith. Dylech ystyried:

  • a yw mesurau a rheolaethau diogelwch i amddiffyn gweithwyr a’r cyhoedd sy’n ymweld yn gweithio’n effeithiol;
  • sut mae’r gwaith yn cael ei wneud; ac
  • ymddygiad gweithwyr a phobl eraill yn y gweithle.

Mae rhagor o ganllawiau defnyddiol ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig

Mae aelodau o’r un aelwyd neu unigolyn sy’n derbyn gofal a gofalwr yn eithriadau i’r rheol hon.

5.0 Cyfathrebu

Bydd cyfathrebu da yn ffactor allweddol wrth adfer hyder y cyhoedd. Mae’r rheoliadau COVID yn ei gwneud hi’n ofynnol i leoliadau roi gwybodaeth i’r rhai sy’n ymweld â’r lleoliadau neu sy’n gweithio ynddynt am sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Yn ogystal, dylai’r wybodaeth hon gynnwys unrhyw amseroedd agor newydd ac unrhyw newidiadau o ran sut y gall pobl fynd i’r lleoliad yn ddiogel. Mae hefyd yn bwysig adolygu cyfathrebu mewnol ac allanol yn aml er mwyn sicrhau ei bod yn effeithiol ac yn briodol.

Ar gyfer cyfathrebu mewnol, gallech ystyried:

  • ymgysylltu â chyflogeion yn uniongyrchol a hefyd drwy undebau llafur i ddatblygu unrhyw newidiadau mewn trefniadau gweithio a chytuno arnynt;
  • cyflwyno sesiynau ailgynefino ar gyfer gweithwyr a datblygu cyflwyniadau/trafodaethau byr wedi’u dogfennu gyda staff ar unrhyw newidiadau i’r broses waith;
  • darparu cyfathrebu clir a rheolaidd i wella dealltwriaeth a chysondeb o ran sut a pham y mae ffyrdd newydd o weithio yn cael eu cyflwyno;
  • darparu deunyddiau hyfforddi ar weithdrefnau newydd (ystyried sut y caiff y deunyddiau hyn eu darparu, gan gynnwys ar-lein er mwyn cynnal cadw pellter corfforol rhwng gweithwyr);
  • canolbwyntio ar bwysigrwydd iechyd meddwl ar adegau o ansicrwydd;
  • sut y caiff canllawiau diogelwch newydd eu cyfleu i weithwyr cyflenwi, contractwyr ac ymwelwyr eraill â safleoedd.

Ar gyfer ymwelwyr, defnyddwyr gwasanaeth a chynulleidfaoedd, gallech ystyried:

  • pwysleisio mai diogelwch ymwelwyr a staff yw’r flaenoriaeth;
  • cyfathrebu drwy gyfryngau cymdeithasol / corfforol, gwefannau ac e-bost i’w helpu i baratoi ar gyfer eu hymweliad — darparu gwybodaeth am yr hyn sydd i’w ddisgwyl, pa ragofalon iechyd a mesurau cadw pellter corfforol sydd wedi cael eu rhoi ar waith, beth sydd ar agor ac ar gau, ciwio, llai o gapasiti, a’r newid i’r profiad ymwelwyr, e.e. dim dehongliadau rhyngweithiol;
  • hyrwyddo gofynion archebu ymlaen llaw, systemau mynediad neu docynnau am ddim ar-lein neu systemau prynu tocynnau (gan gynnwys opsiynau all-lein ar gyfer pobl heb fynediad i’r rhyngrwyd);
  • hysbysu ymwelwyr am unrhyw newidiadau i weithdrefnau archebu ar gyfer unigolyn sy’n eithriadol o agored i niwed (rhywun oedd yn gwarchod gynt), y rhai sy’n wynebu mwy o risg neu’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig (sut y byddwch yn cynorthwyo pobl anabl, yr henoed a menywod beichiog fel y gallant barhau i gael mynediad i leoliadau mewn ffordd ddiogel, er enghraifft, gan osgoi’r angen iddynt giwio);
  • darparu gwybodaeth ychwanegol i ymwelwyr sydd â nam ar eu golwg cyn yr ymweliadau yn ymwneud â newid mynediad i adeiladau neu safleoedd a llwybrau ymwelwyr newydd a mwy cymhleth;
  • defnyddio negeseuon syml, clir a hygyrch i esbonio canllawiau, gan ystyried grwpiau nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt neu lle y gallai fod angen fformatau amgen.

Ar gyfer cymunedau lleol, gallech ystyried:

  • darganfod a yw eich cymuned leol yn pryderu am safleoedd neu atyniadau ymwelwyr yn ailagor a’r cynnydd cysylltiedig yn nifer y bobl sy’n teithio i’r ardal;
  • gweithio’n agos gyda’ch cymuned leol i ddatblygu strategaeth nid yn unig i hysbysu’r gymuned o’ch cynlluniau i ailagor, ond i roi sicrwydd bod rhagofalon ychwanegol yn cael eu cymryd a’u monitro’n egnïol;
  • egluro pa drefniadau sydd yn eu lle ar gyfer rheoli niferoedd ac ymddygiad ymwelwyr a pha drefniadau sydd yn eu lle ar gyfer cau eto os oes angen;
  • gweithio ar y cyd â chyrchfannau diwylliant a threftadaeth eraill yn eich ardal i anfon cyfathrebiadau cydgysylltiedig. Gallai gwneud yn siŵr bod yr un neges neu negeseuon tebyg yn cael eu defnyddio gynnig mwy o sicrwydd.

Amgueddfeydd ac orielau celf

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i amgueddfeydd, orielau a lleoliadau celfyddydau gweledol eraill, ac unrhyw sefydliad neu leoliad arall sy’n gweithredu fel arddangoswyr a chasglwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru yn amrywio’n sylweddol o ran maint a gweithrediad, a bydd hyn yn cyfrannu at benderfyniadau ynghylch pryd y mae’n briodol ailagor neu ailddechrau rhai gweithgareddau.

Mae’r egwyddorion cyffredinol a amlinellir yn yr adrannau uchod yn berthnasol i’r sector hwn. Dylid cofio ei bod yn parhau yn ofynnol i theatrau a neuaddau cyngerdd aros ar gau, ac eithrio ar gais neu gyda chaniatâd Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol; neu am fod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i ddarlledu heb gynulleidfa neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath.

Efallai y bydd yn haws i amgueddfeydd mwy o faint agor ac maent yn cael eu hannog i gefnogi sefydliadau annibynnol bach drwy rannu arferion gorau a dysgu.

Cynllunio ar gyfer ailagor

Mae amgueddfeydd ac orielau yn wynebu heriau amrywiol i ailagor yn ddiogel ar gyfer y gweithlu a’r cyhoedd. Bydd y rhan fwyaf, os nad y cyfan, yn gorfod gwneud newidiadau ffisegol a gweithredol sylweddol. Bydd hyn yn newid y ffordd y mae amgueddfeydd ac orielau yn darparu mynediad a sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas adeiladau a thiroedd allanol er mwyn bodloni’r canllawiau ar gadw pellter corfforol. Gall y newidiadau hyn gynnwys cyfyngu ar fynediad, efallai drwy ddefnyddio slotiau ar amseroedd penodol y gellir eu harchebu ymlaen llaw, a sicrhau bod ymwelwyr yn symud drwy orielau yn dilyn llwybrau clir. Gall olygu y bydd angen i rai ardaloedd arddangos aros ar gau lle na ellir gweithredu cadw pellter corfforol diogel na lliniaru’r risg yn ddigonol.

Bydd ailagor yn golygu newidiadau i ffyrdd blaenorol o weithio, a rhaid i bob sefydliad ddatblygu cynlluniau ailagor penodol.

Ystyriaethau arbennig

Yn ogystal â’r rhestr o ystyriaethau a ddarperir yn adrannau 3 a 4 , mae rhai ystyriaethau penodol sy’n berthnasol i’r sector amgueddfeydd ac orielau.

Rheoli orielau a mynediad i ymwelwyr. Ymhlith y materion i’w hystyried mae:

  • sut y gall eich gweithlu gefnogi profiadau ymwelwyr yn unol â chanllawiau cadw pellter corfforol; 
  • cynllunio mannau croesawu ger mynedfeydd fel bod gwybodaeth am y safle ar gael yn hawdd i ymwelwyr;
  • lle y bo’n bosibl, cynllunio ble mae aelodau’r gweithlu wedi’u lleoli fel bod ganddynt linellau gweld clir a’u bod yn gallu helpu ymwelwyr gyda symud o gwmpas yr orielau;
  • cynllunio ar gyfer rheoli ymwelwyr mewn tywydd gwlyb neu os oes posibilrwydd y bydd ciwio;
  • paratoi orielau drwy ddileu neu gyfyngu mynediad at arddangosion sydd angen rhyngweithio â hwy â llaw ac arddangosiadau rhyngweithiol, ac adolygu ardaloedd ‘pwynt cyffwrdd’ uchel eraill;
  • lleihau neu atal y cyhoedd rhag trafod casgliadau, a pharhau i asesu a diwygio eich dull gweithredu wrth i gyfyngiadau lacio;
  • ar gyfer amgueddfeydd sy’n cynnig teithiau sain, ystyriwch gyfundrefnau glanhau dwysach neu gyfnodau cwarantîn ar gyfer dyfeisiau llaw, neu a oes modd sicrhau bod y daith sain ar gael i’w lawrlwytho ar ddyfeisiau personol; os defnyddir dyfeisiau llaw dylech eu sychu a'u glanhau yn drylwyr  â chlytiau sy'n cynnwys diheintydd.
  • a ellir gweithredu cyfleusterau’r ystafell gotiau yn ddiogel? Dylai penderfyniadau ar gau ystafelloedd cotiau ystyried a yw ymwelwyr sy’n cario bagiau, cotiau, bygis a phramiau o amgylch yr amgueddfa/oriel yn cynyddu’r risg o drosglwyddo haint;
  • cymryd gofal gyda chyfundrefnau glanhau mewn llefydd ble mae gwrthrychau o bosib yn cael eu harddangos yn agored;
  • os oes arwynebau hanesyddol ar eich llwybr ymwelwyr (e.e. lloriau, carpedi, rheiliau ac ati.), ystyriwch sensitifrwydd yr arwynebau hyn. Gofynnwch am gyngor ar gadwraeth os ydych chi’n ystyried newid y drefn lanhau oedd gennych cyn cyfnod y cyfyngiadau symud;
  • os oes gennych loriau hanesyddol o fewn eich adeilad, gofynnwch am gyngor cadwraeth i osgoi unrhyw ddifrod a allai gael ei achosi drwy farciau cadw pellter corfforol;
  • os ydych yn cyflwyno llwybrau newydd i ymwelwyr o amgylch eich safle, ystyriwch a fydd traul ychwanegol ar unrhyw arwynebau hanesyddol o ganlyniad i hynny a beth y gallwch ei wneud i liniaru’r difrod;
  • dylid ystyried awyru fel mesur i reoli lledaeniad firysau yn erbyn risgiau posibl i gasgliadau megis mwy o lygredd a newidiadau i amodau amgylcheddol. Gall mwy o fonitro amgylcheddol a gwiriadau gweledol liniaru effeithiau niweidiol posibl ar arddangosion yn sgil newidiadau mewn awyru;
  • gall tywyswyr a dehonglwyr beri bod ymwelwyr yn ymgynnull mewn grŵp a thanseilio mesurau cadw pellter corfforol; ystyriwch ffyrdd o fynd i’r afael â’r risg hon ac addasu yn ôl yr angen;
  • archwilio ffyrdd o annog profiad cadarnhaol i ymwelwyr, fel nad ydych yn colli cyfleoedd neu’r ethos o ymgysylltu cadarnhaol er gwaetha’r cyfyngiadau;
  • bydd angen defnyddio’r uchod i gyd wrth gynnig unrhyw brofiad tu ôl i’r llenni i ymwelwyr.

Rhaglenni a gweithgareddau cyhoeddus. Ymhlith y materion i’w hystyried mae:

  • Pryd i ailgyflwyno cyfleoedd dysgu gan gynnwys rhaglenni ysgol, ymweliadau wedi’u hwyluso ac ymweliadau hunan-dywys. Bydd hyn yn gofyn am gydweithio’n agos ag ysgolion a gwasanaethau addysg a rhaid iddo bob amser fod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Gall amgueddfeydd barhau i weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol ar-lein
  • Pryd i ailgyflwyno digwyddiadau ac arddangosfeydd wrth i’r cyfyngiadau yn rheoliadau COVID-19 gael eu llacio. Meddyliwch am eich amserlenni benthyg — a ydynt yn dal yn hyfyw? A oes angen i chi ddatblygu opsiynau amgen? Os oes gennych eitemau yn eich amgueddfa/oriel a gwmpesir gan Gynllun Indemniad y Llywodraeth, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r canllawiau diweddaraf.
  • Pryd i ailgychwyn gweithgareddau sy’n cynnwys cynulliadau mwy o faint. Bydd angen asesu hyn yn unol ag unrhyw gyfyngiadau ar gynulliadau torfol a chanllawiau cadw pellter corfforol. Gellid ystyried cynnig profiadau gwahanol yn ddigidol nes bod hyn yn ymarferol.
  • Pryd i ailgychwyn llogi lleoliad a gweithgareddau masnachol eraill. Ym mhob achos byddai angen asesu hyn a chydymffurfio â rheoliadau COVID-19 a chanllawiau cysylltiedig.

Gweithio gyda chasgliadau a gwrthrychau

Bydd angen i amgueddfeydd ac orielau adolygu sut y gallant reoli, symud a dangos casgliadau’n ddiogel yn eu hamgueddfeydd eu hunain a rhwng amgueddfeydd. Dylid adolygu’r protocolau hyn yn rheolaidd wrth i’r sefyllfa lacio a chaniatáu dychwelyd at fynediad ehangach at wrthrychau a rhagor o drin pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Bydd hefyd angen hyfforddi staff ynghylch y gweithdrefnau diogelwch newydd ar gyfer gweithio gyda chasgliadau ac archifau er mwyn lleihau’r posibilrwydd o drosglwyddo haint drwy gyffyrddiad. Dylai pob amgueddfa adolygu a diweddaru ei chynllun parodrwydd am argyfwng i adlewyrchu pandemig COVID-19.

Wrth drin eitemau casgliad a’u deunydd pacio, bydd angen i chi ystyried:

  • cadw pellter corfforol a threfniadau golchi dwylo cyn ac ar ôl trin casgliadau;
  • defnyddio menig plastig tafladwy;
  • defnydd o fasg wyneb neu orchudd wyneb arbenigol priodol i osgoi halogiad wrth ymdrin ag eitemau casgliad;
  • tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn unol â phrotocolau’r sefydliad;
  • sicrhau bod gwiriadau cynnal a chadw a glanhau dwysach yn gyfredol ar gyfer unrhyw gyfarpar a ddefnyddir wrth weithio gyda chasgliadau;
  • wrth weithio gyda chasgliadau mawr, sicrhau eich bod wedi ystyried cadw pellter corfforol wrth ddatblygu protocol codi a chario.
  • dylid ystyried awyru fel mesur i reoli lledaeniad firysau yn erbyn risgiau posibl i gasgliadau megis mwy o lygredd a newidiadau i amodau amgylcheddol. Bydd mwy o fonitro amgylcheddol a gwiriadau gweledol yn lliniaru effeithiau niweidiol posibl i arddangosion.

Lle bo modd, dylid addasu ffrydiau gwaith i sicrhau bod nifer y gwahanol unigolion sy’n trin casgliadau yn cael ei gadw i’r lleiafswm. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid rhoi gweithdrefn gwarantîn ar waith ar gyfer yr eitem/casgliad er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo haint.

Dylid datblygu protocolau trin diogel ar gyfer eitemau y mae angen eu trin sy’n diogelu’r defnyddiwr a’r arteffact, e.e. ystyried sut y gallai defnyddio mwy o hylif diheintio dwylo effeithio ar arwynebau hanesyddol, fel papur, os gadewir gweddillion drwy eu trin.

Mae’r feirws yn goroesi am fwy o amser ar fetel ac arwynebau caled, llyfn, fel cerameg gwydrog a phlastigau, nag ar arwynebau mandyllog, fel papur a thecstilau. Mae mwy o risg o drosglwyddo o arwynebau llyfn nag arwynebau â gwead trwm, megis tecstilau, ond mae arwynebau â gwead yn anoddach i’w glanhau.

Dim ond ar ôl ceisio cyngor gan gadwraethwr y dylid glanhau neu drin gwrthrychau. Ystyriwch sut y gallai protocol cwarantin helpu yn y maes hwn. Bydd cyfnodau cwarantin yn amrywio gyda deunyddiau gwahanol a dylid eu hadolygu’n gyson a’u pennu gan y dystiolaeth a’r cyngor gwyddonol diweddaraf sy’n ymwneud â mileindra’r feirws ar arwynebau. Mae peth tystiolaeth yn awgrymu y bydd y feirws yn para’n hirach ar dymheredd is na thymheredd ystafell a lle mae lefelau lleithder yn isel. Fodd bynnag, yn yr ystodau lleithder a thymheredd arferol (40 – 60% RH; 16 – 22°C), argymhellir cyfnod cwarantîn o 72 awr.

Gellir glanhau arwynebau nad ydynt yn rhai treftadaeth mewn casgliadau, neu fannau eraill a ddefnyddir i weithio ar gasgliadau, drwy ddefnyddio dulliau diheintio y gellir eu rheoli’n dda, e.e. clytiau diheintio. Dylid mabwysiadu’r ymagwedd hon hefyd gyda dolenni drysau, rheiliau llaw ac ati nad ydynt yn rhai treftadaeth o fewn yr un lleoliadau. Gellir glanhau offer trin (e.e. trolïau) fel hyn hefyd.

Mae canllawiau defnyddiol eraill o ran gofalu am gasgliadau yng nghanllawiau’r Sefydliad Cadwraeth am ddechrau ail-ddangos casgliadau wedi’r cyfnod cyfyngiadau symud.

Mewn adeiladau hanesyddol a rhestredig, dilynwch y canllawiau yn Parciau a gerddi hanesyddol ar gyfer arwynebau treftadaeth fel ffitiadau drws, canllawiau grisiau a dodrefn hanesyddol.

Derbyn casgliadau, archifau a rhoddion

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i amgueddfeydd ac orielau hefyd addasu sut y maent yn casglu ac yn prosesu deunydd newydd, a dylai hyn gynnwys canllawiau diogelwch ar gyfer cadw gwrthrychau sy’n cael eu rhoi i’r sefydliad a/neu eu symud mewn cwarantin . Mae cyngor yn awgrymu cyfnod cwarantin o 72 awr o leiaf ar gyfer casgliadau ac archifau a dderbyniwyd — gweler y ddolen a ddarperir uchod. Mewn stordai oer, sych a geir mewn amgueddfeydd ac archifau (llai na 30% RH; llai na 6°C), dylid ymestyn y cyfnod cwarantîn i wythnos o leiaf. Dylai deunyddiau gael eu labelu’n glir a’u dyddio a’u storio mewn lleoliad ar wahân neu mewn cynwysyddion wedi’u selio.

Wrth dderbyn casgliadau, dylid ystyried y canlynol:

  • Gan sefydliadau: protocolau diogel COVID-19 ac asesu risg ar gyfer ymdrin â chasgliadau a’u dosbarthu;
  • Gan unigolion: argymhellir y dylai eitemau a dderbynnir gan unigolion gael eu rhoi mewn cwarantin (gweler uchod);
  • Gan gwmnïau cludiant: Protocolau diogel COVID-19 ac asesu risg ar gyfer ymdrin â chasgliadau a’u dosbarthu;
  • Dim ond gyda sefydliadau sydd ag asesiadau risg COVID-19 diogel i drin a dosbarthu casgliadau y bydd cwmnïau cludiant yn fodlon gweithio;
  • Tynnu lluniau i gofnodi danfon/casglu deunydd;
  • Cyfnewid a llofnodi gwaith papur hanfodol yn electronig os nad yw ar gael yn ddigidol;
  • Diheintio cratiau/bocsys pacio gyda hancesi papur ac alcohol neu glytiau diheintio;
  • Diheintio offer fel trolïau â chlytiau diheintio;
  • Cwarantîn (gweler uchod);
  • Storio neu waredu deunydd pacio yn ddiogel — os yw’n cael ei gadw mewn cwarantin (gweler uchod), ni fydd angen glanhau’r deunyddiau hyn ymhellach.

Dylai amgueddfeydd sy’n derbyn archifau hefyd gyfeirio at Gwasanaethau archifau lleol.

Dylai amgueddfeydd sy’n cynnal digwyddiadau fel cyngherddau neu ddramâu hefyd gyfeirio at Lleoliadau celfyddydol, gan gynnwys neuaddau cyngerdd a theatrau.

Mae’r adran ar adeiladau hanesyddol a gerddi hanesyddol hefyd yn cynnwys canllawiau a allai fod yn ddefnyddiol i sefydliadau.

Dolenni defnyddiol

Darperir y dolenni hyn fel gwybodaeth ddefnyddiol yn unig, a gallant gyfeirio at ganllawiau a gynhyrchir y tu allan i Gymru. Dylech ystyried unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn y dolenni hyn o fewn cyd-destun deddfwriaeth Llywodraeth Cymru bob amser, ac mae’n rhaid i’r ddeddfwriaeth honno gael blaenoriaeth.

Cymdeithas yr Amgueddfeydd

Y Sefydliad Cadwraeth: Support Resources for Lockdown 

Cymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol: Museum reopening guidance and checklist 

Sefydliad Cadwraeth Canada (CCI): Caring for heritage collections during the Covid-19 pandemic

Cyngor Rhyngwladol Amgueddfeydd: COVID-19

Artnet: How should a museum reopen in a post-Covid world? Here is everything you need to know to do it safely, according to experts

Cyngor Cyfarwyddwyr yr Amgueddfeydd Cenedlaethol: Good practice guidelines on opening museums after July 4th

Historic England: Historic England: Cleaning historic surfaces (Covid-19)

Henebion hanesyddol a hynafol, adeiladau rhestredig a thai hanesyddol

Mae’r egwyddorion cyffredinol yn Cyflwyniad, Sut i ddefnyddio’r canllawiau hyn, Canllawiau ar gyfer ailagor cyrchfannau a lleoliadau diwylliant a threftadaeth a Cyfathrebu yn berthnasol i’r sector hwn, er y cydnabyddir bod angen ystyried rhai materion penodol wrth gynllunio ar gyfer ailagor. Yn benodol, yr hyn sy'n gyffredin i bob adeilad hanesyddol, heneb a man addoli hanesyddol yw'r tebygolrwydd y bydd y mwyafrif yn mwynhau rhyw fath o ddiogelwch statudol – naill ai fel adeiladau rhestredig neu henebion rhestredig.

Os oes angen gwneud newidiadau ffisegol i adeilad neu heneb gofrestredig, mae’n debyg y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd heneb gofrestredig. Fodd bynnag, gall fod yn bosibl caniatáu i safleoedd treftadaeth weithredu’n ddiogel mewn ymateb i COVID-19 mewn ffyrdd na fydd angen caniatâd.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau cynllunio lleol, ac enwadau crefyddol sydd wedi'u heithrio o'r gofyniad i gael caniatâd adeilad rhestredig, i fod yn bragmatig pan gynigir addasiadau dros dro cydnaws i adeiladau rhestredig mewn ymateb i COVID-19. Rydym yn cydnabod yr angen i amddiffyn rhag newidiadau sy'n achosi niwed parhaol, ond ni fydd mesurau dros dro o'r fath yn barhaol i’r un graddau â gwaith mwy parhaol. Fel rheol byddant yn hawdd eu dadwneud ac yn aml byddant wedi’u dylunio i weddu i’r adeilad er mwyn peidio ag effeithio ar gymeriad yr adeilad fel un sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl na fydd angen caniatâd adeilad rhestredig mewn gwirionedd ar gyfer gwaith dros dro o'r fath. Mewn amgylchiadau o'r fath, rydym yn argymell bod awdurdodau cynllunio lleol ac enwadau eithriedig yn cytuno ar y fethodoleg ar gyfer gwneud gwaith o'r fath er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth. Dylai enwadau eithriedig ddefnyddio eu systemau rheoli mewnol i benderfynu a oes angen caniatâd ffurfiol arnynt ar gyfer unrhyw waith dros dro. Byddem yn argymell hefyd bod awdurdodau cynllunio lleol ac enwadau eithriedig yn blaenoriaethu'r ceisiadau a'r cynigion hynny a gyflwynir mewn ymateb i COVID-19, lle bo hynny'n bosibl.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch yr angen am gydsyniad neu ganiatâd, fe'ch cynghorir yn gryf i drafod y sefyllfa gyda'r awdurdod cynllunio lleol, neu gyda Cadw mewn perthynas â chaniatâd heneb gofrestredig.

Bydd perchnogion unrhyw adeilad a siatél sydd wedi’i eithrio'n amodol yng Nghymru yn dymuno gwybod sut mae cyfyngiadau COVID-19 yn effeithio ar eu rhwymedigaethau i ddarparu mynediad i'r cyhoedd. Mae CThEM wedi cyhoeddi datganiad i gadarnhau ei fod yn deall efallai na fydd yn bosibl i rai perchnogion eiddo neu asedau yn y Cynllun Eithrio Amodol gyflawni eu holl ymrwymiadau eleni.

Cynllunio ar gyfer agor

Bydd yr heriau sy’n ymwneud â rheoli safle’n amrywio yn ôl natur a gweithrediad y safle. Er enghraifft, fel rheol byddai'n haws cydymffurfio â rheoliadau mewn mannau agored yn yr awyr agored, o gymharu â mannau dan do. Fodd bynnag, hyd yn oed bryd hynny, bydd angen ystyried sut y caiff nifer yr ymwelwyr ei reoli, a’r ffordd y mae ymwelwyr yn symud drwy'r safle.

Mae gan lawer o dai ac addoldai hanesyddol sydd ar agor i'r cyhoedd dimau bach o staff ac maent yn dibynnu ar wirfoddolwyr (neu yn achos eiddo preifat, ar aelodau'r teulu). Gall llawer o'r unigolion hyn fod yn hŷn a / neu efallai eu bod wedi bod yn “gwarchod” yn flaenorol neu efallai eu bod yn y grŵp risg uwch, ac efallai na fyddant yn teimlo'n gyfforddus ynghylch parhau i weithio ar y safle ar hyn o bryd.

Efallai y bydd eiddo mwy o faint neu rai nad ydynt yn cael eu defnyddio fel cartref preifat hefyd yn ei chael hi'n haws agor ac efallai y gallant gynorthwyo sefydliadau annibynnol bach trwy rannu arferion gorau a’r hyn maent wedi’i ddysgu.

Bydd angen i bob cyrchfan ystyried y ffordd orau o gyfleu newidiadau gweithredol i ymwelwyr a rhoi gwybod iddynt am unrhyw ofynion diogelu iechyd sydd ar waith ac na fydd rhai cyfleusterau neu elfennau o'r profiad yn agored. Lle bo modd, dylai cyrchfannau achub ar y cyfle i gyfathrebu ag ymwelwyr cyn eu hymweliad ac i atgyfnerthu negeseuon wrth iddynt gyrraedd ac ar y safle (gweler adran 4 hefyd).

Ystyriaethau arbennig

Mewn llawer o achosion bydd yn bosibl dod o hyd i ffyrdd y gellir symud staff ac ymwelwyr yn ddiogel mewn lleoedd hanesyddol heb gyfaddawdu ar eu diogelwch na niweidio ffabrig hanesyddol, gan osgoi'r angen am gydsyniad adeilad rhestredig. Gall hyn olygu y bydd angen gwahanol lwybrau o amgylch safleoedd, codi rhwystrau dros dro ac arwyddion rheolaidd, amlwg iawn, neu ddulliau atgoffa eraill.

Mae adeiladau hanesyddol, gan gynnwys addoldai hanesyddol neu strwythurau adfeiliedig yn fwy tebygol o fod â lleoedd cyfyngedig fel ystafelloedd bach, grisiau cul a mynedfeydd neu allanfeydd cyfyngedig. Gall mannau sy’n gofyn am ddefnyddio grisiau serth, cul ac anwastad fod yn her benodol, ac yn aml maent angen rheiliau llaw neu raffau na ellir eu glanhau’n rheolaidd.

Wrth addasu adeiladau sydd wedi'u gwarchod, mae angen ystyried:

  • gosod arwyddion, sgriniau a rhwystrau mewn ffordd sensitif nad yw’n achosi difrod i adeilad hanesyddol neu safle archaeolegol;
  • sicrhau bod marciau’n cael eu gosod mewn ffordd nad yw’n achosi niwed parhaol i adeilad hanesyddol neu safle archaeolegol;
  • osgoi gosod unrhyw arwyddion ar orchuddion wal, tecstilau neu ddodrefn hanesyddol;
  • cymryd gofal gyda chyfundrefnau glanhau ac osgoi unrhyw newidiadau iddynt heb ofyn am gyngor cadwraeth yn gyntaf. Mae gosodiadau a ffitiadau megis dodrefn drysau, rheiliau llaw ar risiau, paneli a lloriau yn agored i niwed drwy lanhau amhriodol (fel cannydd), a lle mae ganddynt orchudd amddiffynnol, megis farnais neu gwyr, gall yr arwyneb hwn gael ei ddifrodi gan ddiheintyddion sy’n cynnwys alcohol. Mae Historic England yn argymell defnyddio glanedydd gradd gadwraeth heb fod yn ïonig wedi’i wanhau gyda dŵr distyll ar rai arwynebau – ei adael am o leiaf 20 eiliad ar yr arwyneb yna ei rinsio a’i sychu ar unwaith (gweler y canllaw yn dolenni defnyddiol);
  • defnyddio gorchuddion dros dro nad ydynt yn niweidiol y gellir eu rhoi dros arwynebau sensitif y gellir defnyddio cyfundrefnau glanhau safonol arnynt wedyn;
  • cysylltu â’r awdurdod cynllunio lleol neu Cadw i weld a oes angen caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd heneb gofrestredig ai peidio.
Henebion

Mewn llawer o achosion bydd yn bosibl dod o hyd i ffyrdd y gellir symud staff ac ymwelwyr yn ddiogel mewn adeiladau hanesyddol a henebion heb gyfaddawdu ar eu diogelwch na niweidio ffabrig hanesyddol nac archaeoleg o dan y ddaear, gan osgoi'r angen am gydsyniad adeilad rhestredig.

Mae angen i ymatebion sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau COVID-19 a dylent fod yn gymesur â'r math o safle, nifer debygol yr ymwelwyr a natur y risgiau tebygol; mae'n annhebygol y bydd angen unrhyw arwyddion penodol neu fesurau eraill ar safle archaeolegol diarffordd neu strwythur hanesyddol anghysbell.

Wrth ymdrin â henebion hanesyddol a hynafol sy'n cael eu gwarchod, mae angen ystyried:

  • gosod arwyddion, sgriniau a rhwystrau mewn ffordd sensitif nad yw’n achosi difrod i adeilad hanesyddol neu archaeoleg o dan y ddaear;
  • sicrhau bod marciau’n cael eu gosod mewn ffordd nad yw’n achosi niwed parhaol i adeilad hanesyddol neu safle archaeolegol;
  • cyfyngu ar nifer y bobl sy’n mynd i mewn i rai mannau cul neu fach drwy gael amseroedd gwahanol ar gyfer mynd i mewn a dod allan, yn enwedig os oes digon o le i greu ciwiau lle mae modd cadw pellter corfforol;
  • cynllunio ar gyfer rheoli ymwelwyr mewn tywydd gwlyb;
  • cau rhannau o’r heneb na ellir eu cyrraedd heblaw drwy gynteddau neu risiau cul — yn enwedig y rhai sy’n gofyn am ddefnyddio rheiliau llaw a rhaffau a fydd yn anodd i’w cadw’n lân.

Bydd angen caniatâd heneb gofrestredig ar rai o’r uchod, ac felly dylid ceisio cyngor gan Cadw yn fuan yn ystod y cam cynllunio.

Mewn rhai achosion, mae gan henebion amgueddfeydd hefyd — megis Castell Caerdydd a Chastell Caernarfon — ac yn yr achosion hynny, bydd angen ystyried y canllawiau penodol sydd yn Atodiad A.

Dylai safleoedd sy’n cynnal digwyddiadau fel cyngherddau neu ddramâu gyfeirio at Atodiad G hefyd.

Tai hanesyddol

Mae agor tai hanesyddol i’r cyhoedd yn debygol o olygu newidiadau gweithredol sylweddol a ffyrdd newydd o weithio.

  • Trefniadau ar gyfer tai sy’n cael eu meddiannu’n rhannol neu sy’n cael eu defnyddio fel preswylfeydd preifat:

Gall y problemau fod yn wahanol ar gyfer tai (megis y rhai yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) lle nad yw ymwelwyr yn cael mynediad i rannau o’r eiddo sydd hefyd yn cael eu meddiannu ac ar gyfer tai preifat sydd yn draddodiadol wedi caniatáu mynediad i rannau o’r eiddo sy’n parhau i gael eu defnyddio bob dydd. Bydd amgylchiadau unigol yn amrywio, ond mae’n debygol, yn enwedig yn achos rhai tai preifat, na fydd ailagor yn bosibl nac yn ddymunol am beth amser.

  • Trefniadau ar gyfer mynediad i ymwelwyr a symud o gwmpas yr eiddo:

Gweler adran 3.4. Gallai hyn fod yn arbennig o anodd i rai tai hanesyddol. Gallai cyflwyno llwybrau newydd i ymwelwyr arwain at fwy o draul ar arwynebau hanesyddol a bydd angen gofal er mwyn osgoi neu liniaru difrod.

Ystyriaethau:

  • Mwy o ddefnydd o archebu ymlaen llaw a mynediad drwy apwyntiad, gan ei gwneud yn haws i reoli nifer yr ymwelwyr.
  • Cyfyngu ar nifer y bobl sy’n mynd i mewn i rai mannau cul neu fach drwy gael amseroedd gwahanol ar gyfer mynd i mewn a dod allan, yn enwedig os oes digon o le i greu ciwiau lle mae modd cadw pellter corfforol.
  • Cau rhannau o’r adeilad na ellir eu cyrraedd heblaw drwy gynteddau neu risiau cul — yn enwedig y rhai sy’n gofyn am ddefnyddio rheiliau llaw a rhaffau a fydd yn anodd i’w cadw’n lân.
  • Nid yw agor ar gyfer digwyddiadau mawr yn debygol o fod yn bosibl tan yn llawer diweddarach yn y broses o ddileu’r cyfyngiadau symud. Cyhoeddwyd canllawiau i awdurdodau lleol, safleoedd cymeradwy a mannau addoli ar briodasau a phartneriaethau sifil ynghyd â chanllawiau ar addoli, angladdau a phrofedigaeth gan Lywodraeth Cymru. Bydd angen i sefydliadau wirio’r canllawiau’r hyn cyn cytuno i dderbyn unrhyw archebion. Gwiriwch ganllawiau ar fannau addoli a gwleddoedd priodas hefyd; [TO ADD]
  • Bydd angen i chi ystyried hefyd sut y gall y cyhoedd gael gafael ar gyfleusterau toiled yn ddiogel, a darparu cyfleusterau ymolchi dwylo digonol a phriodol / hylif diheintio dwylo, cynnal a chadw pellter corfforol o fewn cyfleusterau o’r fath a glanhau cyfleusterau o’r fath yn effeithiol yn rheolaidd (gweler adran 3.6)
  • Gwneud trefniadau ar gyfer arwyddion ar gyfer y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb ac ystyried gwaredu gorchuddion wyneb untro a ddefnyddir gan y cyhoedd a thrin y gwastraff hwnnw.

Mewn llawer o achosion, bydd gan dai hanesyddol gasgliadau o wrthrychau a chelfi y bydd angen eu hystyried yn benodol – yn enwedig rhai a gaiff eu cyffwrdd gan weithwyr a chan ymwelwyr. Ar gyfer cyffwrdd â chasgliadau/gweithio gyda gwrthrychau yng nghyd-destun tai hanesyddol, dylech gyfeirio at y canllawiau yn Atodiad A.

Addoldai hanesyddol

Mae’r adran hon yn ymwneud yn benodol â’r addoldai hynny sy’n croesawu ymwelwyr. Mae yna ganllawiau ar wahân ar gyfer ailagor mannau addoli. Mae’r prif grwpiau ffydd yng Nghymru wedi llunio eu canllawiau eu hunain hefyd.

Mae llawer o addoldai yn atyniadau treftadaeth pwysig o ganlyniad i’w diddordeb hanesyddol, pensaernïol a chelfyddydol. Fe’u cynorthwyir yn bennaf gan lu mawr o wirfoddolwyr sy’n cyflawni dyletswyddau hanfodol o ran glanhau, cynnal a chadw, atgyweirio, diogelwch, gweinyddu a chroesawu ymwelwyr.

Dylid ystyried ailagor fel cyfle i ymgysylltu ag ymwelwyr yn nyfodol tymor hwy'r adeiladau hyn. Mae ymchwil yn dangos bod pobl wedi dod yn llawer mwy ymwybodol o werth eu treftadaeth leol yn ystod y cyfyngiadau symud a dylid defnyddio pob cyfle i adeiladu ar hyn wrth i ni groesawu pobl yn ôl. Dylai hysbysiadau sy’n croesawu ymwelwyr fod yn gadarnhaol ac yn apelgar, a dylent egluro’r camau ychwanegol sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod y man addoli hanesyddol yn amgylchedd diogel gyda phrotocolau glanhau a hylendid priodol ar waith. Yn ogystal â’r rhestr o ystyriaethau a ddarperir yn adrannau 3 a 4, mae rhai ystyriaethau penodol sy’n berthnasol i’r rhai sy’n rheoli addoldai hanesyddol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • trefniadau gwirfoddoli — helpu gwirfoddolwyr i deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus gyda’r trefniadau newydd, gan gynnwys rhoi ystyriaeth i’r unigolion hynny sydd wedi cael eu cynghori i warchod eu hunain ond sy’n dewis parhau â’u dyletswyddau gwirfoddoli;
  • yr angen am hyfforddiant penodol i gynorthwyo staff a gwirfoddolwyr;
  • efallai y bydd angen i sefydliadau ystyried ffyrdd o gyflwyno gwirfoddolwyr newydd i’w timau. Pobl sydd wedi gohirio eu lleoedd prifysgol ac sydd angen profiad gwaith, efallai; neu bobl ifanc sydd wedi gorffen eu blwyddyn ysgol yn gynnar; neu bobl ar ffyrlo a fyddai’n hoffi gallu gwirfoddoli? Gallai recriwtiaid newydd o’r fath helpu i gynyddu goruchwyliaeth ar adeg pan fydd llawer o sefydliadau wedi colli llawer o’u gweithlu gwirfoddol.
  • mae addoldai hanesyddol yn aml yn defnyddio trefniadau deiliad allwedd os oes angen i ymwelwyr gael allwedd er mwyn cael mynediad. Bydd angen i’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo a dychwelyd yr allwedd yn ddiogel gydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol / corfforol. Efallai y bydd angen trefniadau cwarantin neu lanhau hefyd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg o drosglwyddo’r feirws ar yr allwedd.


Os yw sefydliadau yn cynnal digwyddiadau fel cyngherddau neu ddramâu hefyd, dylent hefyd gyfeirio at Atodiad G.

Dolenni defnyddiol

Darperir y dolenni hyn fel gwybodaeth ddefnyddiol yn unig, a gallant gyfeirio at ganllawiau a gynhyrchir y tu allan i Gymru. Dylech ystyried unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn y dolenni hyn o fewn cyd-destun deddfwriaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru bob amser.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi paratoi canllawiau i reolwyr safleoedd naturiol a diwylliannol yn yr awyr agored ar gyfer hamddena yn yr awyr agored: 

Parciau a gerddi hanesyddol

Ar gyfer parciau a gerddi hanesyddol sy’n agored i’r cyhoedd, bydd llawer o’r materion sy’n gysylltiedig ag agor yn debyg i rai sefydliadau eraill sy’n rheoli mannau agored a ddefnyddir gan y cyhoedd ar gyfer ymarfer corff a hamdden yn yr awyr agored. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi paratoi canllawiau i reolwyr safleoedd naturiol a diwylliannol yn yr awyr agored ar gyfer hamddena yn yr awyr agored.

Dylid ystyried nifer o’r mesurau a nodir yn adran 3 cyn agor gerddi megis cyflwyno system archebu i reoli niferoedd a systemau unffordd — yn enwedig y mesurau hynny sy’n gysylltiedig â mannau awyr agored yn adran 3.4.

Mae angen rhoi ystyriaeth benodol i unrhyw ymyriadau ffisegol arfaethedig gan fod y rhan fwyaf o’r safleoedd ar y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol, a gallant gynnwys strwythurau cofrestredig a / neu restredig, a gall fod angen cydsyniad arbennig a/neu ganiatâd cynllunio.

Mae rhai materion penodol i’w hystyried wrth agor gerddi hanesyddol yn cynnwys:

  • creu llwybrau newydd i ymwelwyr a systemau un ffordd i helpu cadw pellter corfforol. Yn ddelfrydol, dylai’r rhain fod dros dro ac yn hawdd i’w gwrthdroi, fel creu llwybrau newydd wedi’u torri ar laswelltir. Noder, fodd bynnag, na ellir cyflwyno systemau unffordd ar hawliau tramwy presennol;
  • cynllunio llwybrau’n ofalus i osgoi mynd dros nodweddion archaeolegol neu wrthgloddiau, neu ddifrodi plannu neu nodweddion gardd;
  • os oes angen seddau dros dro i ymwelwyr yn ymyl y llwybrau newydd hyn, dylid hefyd eu gosod yn ofalus mewn perthynas â nodweddion gardd neu nodweddion archaeolegol ond gan ystyried gofynion ar gyfer cadw pellter corfforol hefyd;
  • monitro’r defnydd o lwybrau newydd — eu cau a chreu rhai newydd os bydd erydiad oherwydd ymwelwyr yn dod yn broblem;
  • gwneud gorchuddion wyneb yn ofynnol yn yr awyr agored lle nad oes modd cadw pellter corfforol o 2 fetr;
  • cynllunio ar gyfer rheoli ymwelwyr mewn tywydd gwlyb, gan gynnwys sut y bydd ardaloedd cysgodol yn cael eu rheoli mewn perthynas â gofynion gorchuddion wyneb a chadw pellter corfforol.

Llyfrgelloedd

Mae’r canllawiau ychwanegol hyn yn berthnasol i lyfrgelloedd cyhoeddus, a gellid eu defnyddio ar gyfer llyfrgelloedd preifat sy’n agored i’r cyhoedd. Mae’r egwyddorion cyffredinol yn adrannau 1-4 yn berthnasol i’r sector hwn, er bod rhai materion penodol y mae angen eu hystyried hefyd.

Cynllunio ar gyfer agor

Bydd y gwaith o ddatblygu canllawiau penodol ar gyfer y sector llyfrgelloedd yng Nghymru yn cael ei adolygu, ei ddiweddaru a’i addasu i adlewyrchu’r dulliau amrywiol o agor llyfrgelloedd ledled Cymru. Datblygwyd y canllawiau hyn mewn cydweithrediad â gwasanaethau llyfrgell yr awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau er mwyn cynorthwyo llyfrgelloedd i ailddechrau gweithgareddau llyfrgell yn raddol.

Bydd angen i bob gwasanaeth llyfrgell addasu’r canllawiau hyn yn gamau gweithredu penodol yn dibynnu ar y cyd-destun lleol ac mewn ymgynghoriad ar lefel awdurdod lleol, gan gydnabod y bydd y blaenoriaethau a’r ystyriaethau ymarferol o ran prosesau yn wahanol ar gyfer pob gwasanaeth llyfrgell. Bydd angen i awdurdodau lleol unigol ac ymddiriedolaethau reoli’r broses o adfer gwasanaethau yn ôl eu gallu i’w rheoli a dylent ystyried darparu gwasanaeth clicio a chasglu yn y lle cyntaf.

Disgwylir y bydd y broses o adfer gwasanaethau llyfrgell yn cael ei chyflwyno fesul cam, a dylai’r cynllunio ganiatáu ar gyfer y posibilrwydd o gau llyfrgelloedd eto pe bai angen hynny i gydymffurfio â chanllawiau iechyd y cyhoedd a’r llywodraeth.

Mae llyfrgelloedd yn adnoddau cymunedol gwerthfawr, yn enwedig i’r rhai hynny a allai fod o dan anfantais. Mae’n gam cadarnhaol i wasanaethau llyfrgell baratoi a chynllunio i ailagor. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd mai iechyd a llesiant y staff a’r cyhoedd ddylai fod yn brif ystyriaeth wrth ddarparu unrhyw wasanaeth.

Dylai gwasanaethau llyfrgell yng Nghymru hefyd gymryd sylw o’r arweiniad a ddarperir gan Libraries Connected.

Ystyriaethau arbennig

Yn ogystal â’r rhestr o ystyriaethau a ddarperir yn adrannau 3 a 4, mae canllawiau pellach ar wasanaethau llyfrgell ar gael yn y canllawiau gan Libraries Connected. Dyma rai ystyriaethau penodol sy’n berthnasol i lyfrgelloedd cyhoeddus.

Trefniadau glanhau a hylendid

  • Rydym yn argymell cyfnod cwarantîn o 72 o oriau ar gyfer eitemau ffisegol (llyfrau, DVDs ac ati) a ddychwelir i'r llyfrgell yn Lefelau Rhybudd 3 a 4. Nid oes angen cyfnod cwarantîn o 72 o oriau ar gyfer eitemau ffisegol (llyfrau, DVDs ac ati) yn Lefelau Rhybudd 1 a 2. Dylai llyfrgelloedd barhau i gadw at ganllawiau Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithio'n ddiogel. Mater i'r gwasanaeth fydd penderfynu a yw dileu'r cyfnod cwarantin 72 o oriau yn briodol yn seiliedig ar eu hasesiad risg yn y gweithle.
  • Argymhellir y dylid cadw’r deunyddiau a ddychwelir mewn cynwysyddion priodol, megis bocsys cardfwrdd, gyda’r dyddiad wedi’i nodi’n glir a, lle y bo’n bosibl, eu storio mewn rhan ar wahân o’r llyfrgell.
  • Dylid rhoi pwyslais ychwanegol ar ddiheintio cyfrifiaduron ar ôl pob defnydd. Dylid ystyried rhoi hylif diheintio dwylo wrth ymyl y cyfrifiaduron. Efallai y bydd hefyd angen symud cyfrifiaduron i gydymffurfio â chadw pellter corfforol. Dylid ystyried y canllawiau ar drefniadau glanhau a hylendid a nodir uchod (adran 3.5) yn fanwl. Mae canllawiau ar gyfleusterau toiled wedi’u darparu’n gynharach yn y  wybodaeth hon a dylid eu hystyried yn fanwl hefyd. Bydd yn hanfodol sicrhau bod asesiadau risg yn eu lle, ynghyd â chanllawiau ar gyfer gweithdrefnau newydd (ar gyfer staff a’r cyhoedd) a threfnu unrhyw hyfforddiant sydd ei angen.

Staffio

  • Bydd angen ystyried lefelau staffio diogel yn unol â’r gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2m yn cael ei gynnal rhwng unigolion yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru.
  • Ystyried newid patrymau sifftiau er mwyn lleihau nifer y staff yn y llyfrgell.
  • Sicrhau bod gan y staff yr offer a’r hyfforddiant angenrheidiol i gynnal iechyd a diogelwch mewn llyfrgelloedd, e.e. gorchuddion wyneb, cyfleusterau golchi dwylo.
  • Dylai llyfrgelloedd nodi canllawiau Llywodraeth Cymru i gyflogwyr a busnesau.

Mynediad at stoc llyfrgell

  • Penderfynu faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyflawni archeb, a faint o slotiau casglu/dychwelyd y gellid eu cynnig bob wythnos i sicrhau cadw pellter corfforol a diogelwch staff. Dylid ystyried cynyddu terfynau benthyca.
  • Parhau i hyrwyddo gwasanaethau ar-lein i gyfyngu ar nifer y rhai sy’n ymweld ag adeilad y llyfrgell.
  • Efallai y bydd angen aildrefnu celfi neu gyfarpar i sicrhau cydymffurfiaeth â mesurau cadw pellter cymdeithasol / corfforol. Dylech gymryd sylw o’r canllawiau gan gymryd pob cam rhesymol i gynnal pellter corfforol yn y gweithle a chanllawiau ar fesurau i’w rhoi ar waith ar orchuddion wyneb i gyflogwyr a rheolwyr safleoedd
  • Dylai ardaloedd / dodrefn na ellir eu symud, a lle byddai cadw pellter corfforol yn heriol, gael eu cau â thâp rhybuddio neu drwy ddulliau eraill
  • Lle bo modd, dylid annog defnyddwyr i barhau i ddefnyddio’r adnoddau electronig y mae llyfrgelloedd wedi’u cynnig tra bod adeiladau llyfrgelloedd wedi’u cau.

Gwasanaethau Llyfrgell Symudol

Dylid dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gweithio mewn neu o gerbyd.

Dylid nodi’r wybodaeth yng nghanllawiau Libraries Connected wrth ymgymryd â gwasanaethau llyfrgelloedd symudol.

Pori

Cyn agor llyfrgelloedd ar gyfer pori, rhaid bod gofynion gorchuddion wyneb a mesurau cadw pellter corfforol, protocolau hylendid a mesurau lliniaru rhesymol eraill ar waith. Mae ardystiad awdurdod lleol yn ofyniad hanfodol hefyd er mwyn agor llyfrgelloedd cyhoeddus

Dylai llyfrgelloedd ystyried y canlynol:

  • Ystyried cau rhai rhannau o'r llyfrgell, mabwysiadu system unffordd a chael trefniadau mynediad ac ymadael gwahanol
  • Uchafswm o ddefnyddwyr yn y Llyfrgell ar unrhyw un adeg. Fel arall, dim ond caniatáu mynediad i ddefnyddwyr ar sail apwyntiad yn unig
  • Gofyn i ddefnyddwyr, fel amod mynediad, i ddefnyddio glanweithydd dwylo.
  • Casglu manylion cyswllt personol holl ddefnyddwyr y llyfrgell at ddibenion TTP
  • Sicrhau bod defnyddwyr llyfrgelloedd yn gwisgo gorchudd wyneb bob amser (oni bai eu bod wedi’u heithrio)
  • Dylid ystyried cyfyngu cyfnod ymweliad â'r llyfrgell i 15-20 munud.
  • Cyfarwyddiadau i staff ar gyfer monitro a gorfodi cadw pellter corfforol.
  • Sgriniau perspex mewn mannau lle gallai cyswllt wyneb yn wyneb ddigwydd
  • Osgoi cyswllt wyneb yn wyneb neu fynnu bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo lle na ellir sicrhau cadw pellter o 2 fetr
  • Os yn bosib ni ddylid derbyn arian parod am unrhyw wasanaethau sydd angen taliad
  • Ystyried polisïau presennol sy’n cefnogi defnydd o wasanaethau llyfrgell gan bobl sy’n agored i niwed (polisi aelodaeth, cyfnodau benthyca hirach, dim dirwyon hwyr ayb).

Gall y system a gyflwynwyd  yn ystod y cyfnod clo ar gyfer casglu llyfrau a archebwyd ymlaen llaw aros yn ei lle yn unol ag anghenion defnyddwyr.

Rhaglenni a gweithgareddau cyhoeddus.

Dylid ailddechrau digwyddiadau a gweithgareddau mewn person yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Ymhlith y materion i'w hystyried mae:

  • Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gynulliadau
  • Bydd y trefnwyr yn gyfrifol am weithredu pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn yr adeilad neu ledaeniad coronafeirws gan y rhai sydd wedi bod yn yr adeilad
  • Mae canu, llafarganu, gweiddi neu ddefnyddio offerynnau chwyth yn cael eu hystyried yn weithgareddau risg uchel ac yn gyffredinol dylid eu hosgoi, yn enwedig dan do, hyd yn oed o gadw pellter corfforol a gwisgo gorchuddion wyneb.

Cyfathrebu effeithiol

  • Bydd angen cyfleu canllawiau, oriau agor a gwasanaethau diwygiedig i’r cyhoedd. Wrth i’r gwasanaeth ailddechrau’n raddol, bydd yn hanfodol bod negeseuon allweddol yn cael eu cydlynu ar sail genedlaethol ac awdurdod lleol i esbonio’r broses ailagor, y cyfyngiadau ynghlwm wrthi a sut y bydd disgwyl i bobl ddefnyddio llyfrgelloedd, yn unol â’r rheoliadau a’r canllawiau COVID-19 cyfredol sydd ar waith.
  • Os yw’n bosibl, dylai sefydliadau gyhoeddi cynllun gweithredu yn manylu ar eu cynlluniau i agor yn ddiogel a’r camau y maent yn eu cymryd i osgoi dryswch. Ymhlith yr opsiynau i’w hystyried mae: gwefannau; cyfryngau cymdeithasol; catalog ar-lein; posteri gyda rheolau ymddygiad a hylendid.

Dolenni defnyddiol

 

Gwasanaethau archifau lleol

Mae’r canllawiau ychwanegol hyn yn berthnasol i wasanaethau archifau lleol. Mae’r egwyddorion cyffredinol yn adrannau 1-4 y ddogfen hon yn berthnasol i’r sector hwn, er y cydnabyddir bod rhai materion penodol y mae angen i’r rhai sy’n gyfrifol am redeg gwasanaethau archifau eu hystyried.

Cynllunio ar gyfer ailagor

Mae gwasanaethau archifau lleol yn cadw dogfennau a llawysgrifau sy’n cynnwys cofnod swyddogol eu hawdurdod lleol perthnasol, cofnodion cyhoeddus a gynhyrchir yn lleol, ac archifau a gynhyrchir gan deuluoedd, unigolion, busnesau a sefydliadau lleol, sydd gyda’i gilydd yn ffynhonnell dystiolaeth unigryw ac amhrisiadwy ar gyfer ein hanes lleol a chenedlaethol. Yn draddodiadol, mae’r archifdai hyn wedi croesawu’r cyhoedd ac ymchwilwyr proffesiynol i ymweld ac ymgysylltu â’r ystod eang o gofnodion yn eu gofal.

Fel gyda sefydliadau eraill yn y sector diwylliant a threftadaeth, dylai archifdai lleol fod yn cynllunio dull graddol o ailagor fesul cam, un sy’n cydymffurfio â rheoliadau COVID-19 yng Nghymru.

Mae gwasanaethau archifau lleol yn cyflawni swyddogaeth gyhoeddus bwysig yn ogystal â swyddogaethau statudol wrth gasglu a gofalu am gof dogfennol y sir. I ddechrau, dylid rhoi blaenoriaeth i sicrhau eu bod yn gallu delio ag ymholiadau swyddogol/cyfreithiol cyn gynted ag y bo modd, ac yna symud i ddarparu gwasanaeth i ymchwilwyr fel y cam nesaf. Byddai angen ymgymryd ag unrhyw waith catalogio a chadwraeth eto gan sicrhau bod y mesurau diogelu priodol yn eu lle. Bydd hefyd angen hyfforddi staff ynghylch y gweithdrefnau diogelwch newydd ar gyfer gweithio gyda chasgliadau ac archifau er mwyn lleihau’r gallu i drosglwyddo haint drwy gyffyrddiad.

Mae’r Archifau Cenedlaethol, sydd â throsolwg statudol o’r ddarpariaeth cofnodion cyhoeddus yng Nghymru ac sy’n cyflawni rôl arweinyddiaeth broffesiynol ar gyfer y sector archifau, wedi datblygu canllaw cynhwysfawr i’r gwasanaethau archifau fel rhan o’u gwaith cynllunio ar gyfer ailagor. Mae’r canllawiau’n cynnwys rhai egwyddorion a ffactorau gweithredol defnyddiol a fyddai o gymorth wrth ailagor gwasanaethau archifau lleol yng Nghymru.

Ystyriaethau arbennig

Yn ogystal â’r rhestr o ystyriaethau a ddarperir yn adrannau 3 a 4, mae rhai ystyriaethau penodol sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau archifau.

Mae angen rhoi ystyriaeth benodol i:

  • er bod rhai casgliadau ar gael ar-lein, o ddydd i ddydd byddai aelodau’r staff fel arfer yn rhyngweithio â’r cyhoedd ac yn darparu cymorth proffesiynol ar eu cyfer fel rhan o wasanaethau’r archif;
  • trefniadau ar gyfer ymweliadau addysgol, digwyddiadau a gwasanaethau ymchwil, sydd oll yn gofyn am ryngweithio wyneb yn wyneb â phobl;
  • datblygu protocolau trin diogel ar gyfer eitemau y mae angen eu trin sy’n diogelu’r defnyddiwr a’r arteffact, e.e. ystyried sut y gallai defnyddio mwy o hylif diheintio dwylo effeithio ar arwynebau hanesyddol, fel papur, os gadewir gweddillion drwy eu trin;
  • derbyn a rheoli casgliadau a gwaith cadwraeth — sy’n golygu bod yn rhaid i staff drin deunyddiau a allai fod wedi’u halogi. Ar gyfer derbyn a thrin casgliadau/gweithio gyda gwrthrychau, dylech gyfeirio at y canllawiau yn Atodiad A.

Dolenni defnyddiol

Darperir y dolenni hyn fel gwybodaeth ddefnyddiol yn unig, a gallant gyfeirio at ganllawiau a gynhyrchir y tu allan i Gymru. Dylech ystyried unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn y dolenni hyn o fewn cyd-destun deddfwriaeth Llywodraeth Cymru bob amser, ac mae’n rhaid i’r ddeddfwriaeth honno gael blaenoriaeth.

Sinemâu

Mae’r canllawiau ychwanegol hyn yn berthnasol i bob sinema sy’n gweithredu yng Nghymru. Mewn rhai achosion, mae sinemâu wedi’u lleoli mewn lleoliadau celfyddydol cymysg, ac os felly bydd angen ystyried rhai o’r mesurau a awgrymir yn Atodiad G. Gall fod gofynion ychwanegol hefyd ar gyfer sinemâu sydd wedi’u lleoli mewn canolfannau manwerthu, a bydd angen i sefydliadau weithio gydag eraill i sicrhau dull cyson o ymdrin â diogelwch y cyhoedd.

Mae’r egwyddorion cyffredinol a’r canllawiau a nodir yn adrannau 1-4 yn berthnasol i’r sector, ond cydnabyddir bod angen ystyried nifer o faterion penodol.

Cynllunio

Bydd angen i bob lleoliad gynnal ei asesiad ei hun o sut i weithredu ac ymateb i reoliadau COVID-19, gan nodi, er bod mesurau cadw pellter corfforol ar waith, ei bod yn anochel y bydd gostyngiad sylweddol yn nifer y seddau.

Mae canllawiau cynhwysfawr wedi’u datblygu gan Gymdeithas Sinema’r DU (gweler y dolenni isod), a dylai lleoliadau sinema yng Nghymru gyfeirio at y rhain gan gydymffurfio bob amser â’r rheoliadau a’r canllawiau ehangach yng Nghymru sy’n ymwneud â COVID-19. Mae’r canllawiau’n cydnabod yr ystod eang o wahanol gynlluniau safle a modelau busnes sy’n bodoli mewn sinemâu yng Nghymru.

Dylai pob sinema ystyried nid yn unig ei hadeilad ei hun ond ei chadwyn gyflenwi a’r amgylchedd lleol wrth adolygu ei strategaeth ddiogelu. Bydd angen datblygu protocolau ym mhob lleoliad ar gyfer trin nwyddau a phost sy’n cyrraedd yn ddiogel ac ar gyfer gweithio gyda chontractwyr allanol.

Ystyriaethau arbennig

Yn ogystal â’r canllawiau a ddarperir  yn adran 3, mae nifer o ystyriaethau penodol sy’n berthnasol i leoliadau sinema.

Staff

  • Bydd angen rhoi hyfforddiant hyblyg ar waith er mwyn sicrhau bod staff yn gyfarwydd â’r holl ffyrdd newydd hyn o weithio, a bydd angen i sefydliadau drefnu hyfforddiant mewn ffordd sy’n golygu nad yw staff yn gorfod dod i gysylltiad ag amgylcheddau risg uchel.
  • Bydd angen ystyried y lefelau staffio gofynnol diogel yn erbyn cefndir newydd o lefelau posibl o haint a’r gofynion i ynysu fwy nag unwaith o ganlyniad i weithgarwch Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru.

Archebion

  • Bydd rheoli niferoedd y gynulleidfa yn hanfodol i gefnogi cadw pellter corfforol a deall rhag blaen ym mha lefydd y mae’r straen mwyaf yn debygol o fod.
  • Rhaid i chi gofio am y rheolau ar y niferoedd uchaf a ganiateir mewn grwpiau ar gyfer archebion.
  • Dylai sinemâu weithredu ffyrdd o weithio sy'n caniatáu iddynt gynllunio ar gyfer pellter corfforol. Dylai'r rhai sydd heb systemau archebu ar-lein awtomatig ystyried gweithredu archebion ffôn neu e-bost.
  • Mae rheoliadau COVID yn ei gwneud yn ofynnol i adeiladau rheoledig gasglu gwybodaeth gyswllt gan bob person ar y safle, gan gymryd mesurau rhesymol i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth gyswllt a chadw’r wybodaeth am 21 diwrnod.
  • Efallai y byddai gweithio'n wahanol ac ystyried dulliau creadigol o sgrinio yn fodd o hyrwyddo hyfywedd masnachol.
  • Dylid darparu gwybodaeth i gwsmeriaid cyn archebu mewn perthynas â'r mesurau sydd ar waith a'r cydymffurfiad sy'n ofynnol tra'u bod yn yr adeilad. Dylai hyn gynnwys y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb (heblaw pobl wedi'u heithrio); cadw pellter corfforol a threfniadau eistedd; trefniadau hylendid ychwanegol.

Rheoli ciwiau a symud o gwmpas yr adeilad

  • Mae’n rhaid i chi ystyried yr angen am addasiadau ffisegol i’ch adeilad, a sut y gallai’r addasiadau hyn lwyddo i fod o gymorth i’ch gweithlu, contractwyr a’r cyhoedd. Bydd sgriniau Perspex, llwybrau unffordd, arwyddion ar gyfer gorchuddion wyneb a chadw pellter corfforol, offer, ffyrdd o adael a mynd i mewn i’r adeilad a rheoli ciwiau posibl yn fewnol ac yn allanol yn agweddau pwysig ar eich cynllunio.

Lluniaeth ac arlwyo

  • Gellir gwerthu bwyd a diod i'w fwyta y tu mewn, gan ddilyn y canllawiau perthnasol ar gyfer lletygarwch dan do ar gyfer y mannau gwerthu bwyd a diod. Bydd y canllawiau ar gyfer y gweithle a chanllawiau ailagor UKH ar gyfer lletygarwch yng Nghymru hefyd yn berthnasol, fel y bydd y canllawiau ar reoliadau COVID-19 yng Nghymru. Mae'r rheoliadau'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, faint o bobl a ganiateir mewn grwpiau ar gyfer archebion, cydymffurfio â'r system TTP trwy sicrhau gwybodaeth gyswllt bersonol a'r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb bob amser ac eithrio wrth eistedd i fwyta ac yfed yn yr ardaloedd bwyta/yfed dynodedig.
  • Dim ond pan fyddant yn eistedd yn yr awditoriwm y gall cwsmeriaid ddiosg gorchuddion wyneb. Rhaid iddynt wisgo gorchuddion wyneb ar bob adeg arall (gan gynnwys pan fyddant mewn derbynfeydd, yn prynu tocynnau a bwyd, yn defnyddio cyfleusterau toiled, ac wrth symud o gwmpas yn yr awditoriwm).

Cadwyni cyflenwi

  • Dylai sinemâu ystyried a gweithredu protocolau priodol ar gyfer trafod nwyddau sy’n cyrraedd ac ar gyfer gweithio gydag unrhyw gontractwyr ar y safle.

Trefniadau glanhau a hylendid

Yn ogystal â’r mesurau a awgrymwyd yn adrannau 3.5  a 3.6 uchod, ystyriwch:

  • Gweithredu mwy o gyfundrefnau glanhau drwy’r adeilad, gan ganolbwyntio’n benodol ar atal trosglwyddo drwy arwynebau halogedig. Ystyriwch wrthrychau ac arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd, fel cownteri, platiau drws, rheiliau llaw, peiriannau arian, tiliau, dyfeisiau llaw ac ati. Rhoi cyfundrefnau glanhau dwysach ar waith mewn ardaloedd prysur.
  • Trefnu dangosiadau er mwyn rhoi amser i staff wneud y gwaith glanhau angenrheidiol cyn i’r gynulleidfa nesaf gyrraedd.
  • Darparu negeseuon atgoffa rheolaidd ac arwyddion er mwyn cynnal safonau hylendid, cydymffurfio â gofynion pellter cymdeithasol/corfforol a sicrhau bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo bob amser.
  • Darparu hylif diheintio dwylo mewn sawl lleoliad yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi. Os yw’n bosibl, darparwch hylif diheintio dwylo y tu allan ac anogwch y cyhoedd i’w ddefnyddio cyn mynd i mewn i’r adeilad.

Dylai sinemâu sy’n gweithredu fel rhan o leoliadau celfyddydol hefyd gyfeirio at Atodiad G mewn perthynas â lleoliadau celfyddydau.

Dylai sinemâu ag eitemau a dodrefn hanesyddol gwarchodedig y tu mewn iddynt ddilyn y canllawiau yn Atodiad C.

Dolenni defnyddiol

Darperir y dolenni hyn fel gwybodaeth ddefnyddiol yn unig, a gallant gyfeirio at ganllawiau a gynhyrchir y tu allan i Gymru. Dylech ystyried unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn y dolenni hyn o fewn cyd-destun deddfwriaeth Llywodraeth Cymru bob amser, ac mae’n rhaid i’r ddeddfwriaeth honno gael blaenoriaeth.

Lleoliadau celfyddydol, gan gynnwys neuaddau cyngerdd a theatrau

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod lleoliadau celfyddydol, neuaddau cyngerdd a theatrau yn amrywio’n sylweddol o ran natur, maint a gweithrediad.

Mae canllawiau ychwanegol ar Ymarfer, perfformio a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio: canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol wedi'u cyhoeddi.

Mae’r egwyddorion cyffredinol yn adrannau 1-5 y ddogfen hon yn berthnasol i’r sector hwn, er y cydnabyddir bod rhai materion sy’n benodol i leoliadau celfyddydol.

Cynllunio ar gyfer agor

Bydd y ffordd yn ôl i agor lleoliadau celfyddydol yn heriol dros ben. Rhaid i theatrau a neuaddau cyngerdd barhau ar gau, ac eithrio ar gais neu gyda chaniatâd Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol; neu am fod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i ddarlledu heb gynulleidfa neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath.

Wrth gynllunio ar gyfer agor, bydd angen i leoliadau celfyddydol fod yn rhagweithiol ynglŷn â gweithio’n wahanol. Bydd angen i bob lleoliad gynnal ei asesiad ei hun o sut i weithredu rheoliadau COVID-19 gan nodi bod gostyngiad sylweddol yn nifer y seddau yn anochel. Bydd y rhan fwyaf, os nad pob un, yn gorfod gwneud newidiadau ffisegol a gweithredol sylweddol i’r ffordd y maent yn darparu mynediad ac yn rheoli sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas eu hadeiladau gan fodloni gofynion cadw pellter corfforol.

Mae llawer o gynhyrchwyr eisoes wedi gorfod canslo neu ohirio gwaith. Nid oes yr un ohonynt mewn sefyllfa i aildrefnu teithiau ar gyfer y dyfodol yn hyderus, ac mae’n debygol o gymryd rhai misoedd ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio cyn i gynyrchiadau teithiol neu gerddorfeydd gael eu gweld yn fyw ar lwyfan. Heb raglen lawn o berfformiadau ac awditoria llawn, gallai rhai lleoliadau ddod i’r casgliad nad yw’n hyfyw yn economaidd i’w hagor.

Bydd ailddechrau cynhyrchu a pherfformio yn amserol yn dibynnu ar yr artistiaid unigol a’r gweithwyr llawrydd sy’n cynnal y celfyddydau yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf wedi gweld 100% o’u gwaith yn cael ei ganslo. Bydd rhai wedi gorfod chwilio am waith arall y tu allan i’r diwydiannau creadigol. O ganlyniad, gallai trefnu gweithwyr llawrydd yn gyflym — ac mewn niferoedd digonol — gyflwyno her ychwanegol.

Bydd ail-gyflwyno rhaglenni ac ymweliadau ysgol yn galw am gydweithio agos ag ysgolion a gwasanaethau addysg a rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliadau COVID-19.

Ystyriaethau arbennig

Yn ogystal â’r rhestr o ystyriaethau a ddarperir yn adrannau 4 a 5, mae rhai ystyriaethau penodol sy’n berthnasol i’r rhai hynny sy’n rheoli lleoliadau celfyddydol gan gynnwys:

Ffabrig yr adeiladau:

  • Mae llawer o leoliadau celfyddydol yn asedau rhestredig hanesyddol neu ar raddfa o’r fath fel bod arnynt angen gofal arbenigol rheolaidd a chostus. Bydd angen cynnal trafodaethau prydlon gyda’r awdurdod cynllunio lleol ynghylch yr angen am ganiatâd adeilad rhestredig os oes angen newidiadau ffisegol i’r adeilad er mwyn darparu ar gyfer cadw pellter cymdeithasol / corfforol (gweler Atodiad C). Mae cyfnod hir o drwmgwsg yn peryglu dirywiad mewn adeiladwaith adeiladau a allai beryglu dyfodol busnes, ac ni fydd cwmpas y dirywiad hwnnw’n amlwg nes iddynt ailagor. Bydd pwysau sylweddol ar y rhai hynny sy’n darparu gwasanaeth llogi offer a gwasanaethau contractwyr. Mae theatrau a neuaddau cyngerdd hefyd yn destun gwiriadau diogelwch gorfodol. Rhaid i’r materion hyn gael eu hystyried mewn unrhyw gynlluniau i agor yn ddiogel.
  • Bydd angen sicrhau bod unrhyw offer gwaith a oedd i fod i gael eu harchwilio yn ystod y cyfyngiadau symud yn cael eu harchwilio, a bod pob gwaith cynnal a chadw ar yr adeiladau a’r cyfleusterau yn cael ei wneud ar yr amser iawn.

Trefniadau glanhau a hylendid

  • Gweithredu mwy o gyfundrefnau glanhau drwy’r adeilad, gan ganolbwyntio’n benodol ar atal trosglwyddo drwy arwynebau halogedig. Ystyriwch wrthrychau ac arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd, fel cownteri, platiau drws, rheiliau llaw, peiriannau arian, tiliau, dyfeisiau llaw ac ati. Rhoi cyfundrefnau glanhau dwysach ar gyfer ardaloedd prysur. Mae adran 4.5 uchod yn rhoi ystyriaeth lefel uchel i drefniadau glanhau a hylendid.
  • Trefnu perfformiadau er mwyn rhoi amser i staff wneud y gwaith glanhau angenrheidiol cyn i’r gynulleidfa nesaf gyrraedd.
  • Darparu negeseuon atgoffa rheolaidd ac arwyddion er mwyn cynnal safonau hylendid, cydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol/corfforol, a sicrhau bod pawb yn gwisgo gorchudd wyneb bob amser.
  • Darparu hylif diheintio dwylo mewn sawl lleoliad yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi. Os yw’n bosibl, darparwch hylif diheintio dwylo y tu allan ac anogwch y cyhoedd i’w ddefnyddio cyn mynd i mewn i’r adeilad.
  • Darparu digon o finiau gwastraff ac ystyried goblygiadau gwaredu gorchuddion wyneb untro a ddefnyddir gan ymwelwyr a sut dylid trin y gwastraff hwnnw.
  • Darparu hylif diheintio dwylo mewn sawl lleoliad yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi. Os yw’n bosibl, darparwch hylif diheintio dwylo y tu allan ac anogwch y cyhoedd i’w ddefnyddio cyn mynd i mewn i’r adeilad.

Cadw pellter corfforol

  • Goblygiadau cadw pellter corfforol fydd pryder pennaf y rhan fwyaf o leoliadau. Bydd gweithredu cadw pellter corfforol yn effeithio ar fodelau busnes lleoliadau. Bydd y golled hon yn waeth fyth oherwydd gostyngiad yng ngwerthiant nwyddau. Mae’n rhaid derbyn y bydd yn aneconomaidd i leoliadau ailagor islaw capasiti penodol ac felly bydd yn rhaid i bob lleoliad benderfynu pryd y daw ailagor yn fasnachol hyfyw.
  • Bydd angen ystyried ymddygiad cynulleidfaoedd unwaith y maent mewn lleoliad. Wrth raglennu a churadu arddangosfa, ystyriwch pa mor hir y mae’n cymryd i aelod o’r gynulleidfa fynd o gwmpas yr arddangosfa, beth yw’r amser aros ar gyfer ardal, sut y caiff ardaloedd o ddiddordeb uwch eu rheoli a sut mae dosbarthu’r gynulleidfa sy’n mynd o gwmpas ac amseroedd gwylio.
  • Mae’n rhaid i chi ystyried yr angen am addasiadau ffisegol i’ch adeilad, a sut y gallai’r addasiadau hyn ddiogelu’n ddiogel eich gweithlu, contractwyr a’r cyhoedd. Bydd sgriniau Perspex, llwybrau unffordd, arwyddion ar gyfer gorchuddion wyneb a chadw pellter corfforol, offer, ffyrdd o adael a mynd i mewn i’r adeilad a rheoli ciwiau posibl yn fewnol ac yn allanol yn agweddau pwysig ar eich cynllunio.
  • Dylid rhoi sylw gofalus i reoli arddangosion “cyffwrdd”,
  • clustffonau mewn gosodiadau sain – efallai y bydd angen cynnig tywysyddion sain drwy gysylltiad Bluetooth neu rai y gellir eu lawrlwytho. Byddai angen glanhau unrhyw glustffonau a ddarperir ar gyfer mynychwyr yn drylwyr â chlytiau sy'n cynnwys diheintydd ar ôl pob defnydd.
  • Ardaloedd rhyngweithio plant – ystyriwch fannau eistedd e.e. meinciau, clustogau ac ati, a/neu anogwch bobl i ddod â chadeiriau sy’n plygu.

Rhaglennu, cynhyrchu a chyfleusterau

  • Bydd angen dull pwrpasol ar gyfer cydweddu’r rhaglen o weithgareddau yn ôl gofynion penodol pob lleoliad. Un cwestiwn allweddol fydd i ba raddau y gellir cael gwared ar y risgiau o drosglwyddo COVID-19 neu liniaru’r risgiau hynny.
  • Ystyriwch weithio ar y cyd â sefydliadau eraill a chystadleuwyr traddodiadol er mwyn lliniaru’r gost o gynhyrchu gwaith.
  • Ystyriwch lwyfannu gwaith yn yr awyr agored neu mewn mannau amgen, os gellir gwneud i hyn weithio mewn ffordd ariannol hyfyw.
  • Bydd angen i ddigwyddiadau a chwmnïau teithiol gydymffurfio â pholisïau COVID-19 y lleoliad, a dylid eu gwneud yn ymwybodol o’r polisïau hyn cyn iddynt gyrraedd eich lleoliad.
  • Ystyriwch roi strategaethau eraill ar waith sy’n osgoi’r angen am gerdded trwy’r lleoliad, fel lluniadau CAD a manylebau technegol gyda delweddau ac ati.
  • Sicrhewch fod digon o hyblygrwydd o ran dyddiadau cyflenwi’r prosiect gan fod cadwyni cyflenwi yn debygol o wynebu amhariad.
  • Ystyriwch raddfa’r set neu’r gosodiad celf, gan sicrhau bod amserlenni cynhyrchu yn ystyried glanhau, ymgyfarwyddo staff, ac archwiliadau diogelwch cyn y digwyddiad.

Archebion a chanslo

  • Dylid darparu gwybodaeth i gwsmeriaid cyn archebu mewn perthynas â'r mesurau sydd ar waith a'r cydymffurfiad sy'n ofynnol tra'u bod yn yr adeilad. Dylai hyn gynnwys y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb (heblaw pobl wedi'u heithrio); cadw pellter corfforol a threfniadau eistedd; trefniadau hylendid ychwanegol.
  • Rhaid i chi gofio hefyd am y rheolau ar y niferoedd uchaf a ganiateir mewn grwpiau ar gyfer archebion.
  • Bydd sefydliadau am ystyried a oes angen trefniadau rhaglennu gwahanol arnynt, pe byddai elfennau o’r rhaglen arfaethedig yn cael eu gohirio.
  • Bydd angen i gynlluniau a phrotocolau fod ar waith rhag ofn bod angen canslo neu ohirio digwyddiadau. Dylech egluro’r elfennau canslo yn eich contractau.
  • Diweddaru gwybodaeth am docynnau gyda thelerau ac amodau ar gyfer polisi canslo ac ad-dalu.
  • Diwygio contractau rhentu lleoliad i ystyried polisi canslo.
  • Cefnogi a chynnal cysylltiadau presennol o fewn y gymuned. Ystyriwch sut y gallwch greu hygyrchedd i grwpiau sy’n agored i niwed yn sgil COVID-19.
  • Er mwyn cefnogi system Profi, Olrhain, Diogelu’r GIG rhaid i adeiladau rheoledig gasglu gwybodaeth gyswllt gan bob person yn yr adeilad, cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o'r fath yn gywir a'i chadw am 21 diwrnod

Bydd angen rhoi hyfforddiant hyblyg ar waith er mwyn sicrhau bod staff yn gyfarwydd â’r holl ffyrdd newydd hyn o weithio, a bydd angen i sefydliadau drefnu hyfforddiant mewn ffordd nad yw’n golygu bod staff yn agored i amgylcheddau risg uchel.

Dylai lleoliadau celfyddydol sy’n gweithredu fel orielau celf hefyd gyfeirio at Atodiad A.

Dylai lleoliadau celfyddydol sy’n gweithredu fel sinemâu hefyd gyfeirio at Atodiad G.

Dolenni defnyddiol

Darperir y dolenni hyn fel gwybodaeth ddefnyddiol yn unig, a gallant gyfeirio at ganllawiau a gynhyrchir y tu allan i Gymru. Dylech ystyried unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn y dolenni hyn o fewn cyd-destun deddfwriaeth Llywodraeth Cymru bob amser, ac mae’n rhaid i’r ddeddfwriaeth honno gael blaenoriaeth.

Theatre Forum: Reopening arts centres guidelines

GOV.UK: Canllawiau ar gyfer sectorau DCMS mewn ymateb i coronafeirws.

Llywodraeth Cymru: Ymarfer, perfformio a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio: canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 297 KB.

Maint Ffeil 297 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.