Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Enw'r Cynllun Cymhorthdal

Cynyddu'r ddarpariaeth Cymorth Cyfreithiol yng Nghymru

3. Sail gyfreithiol y DU

Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Mae'r cynllun hwn yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sef bod yn Genedl Noddfa, ac yn cyd-fynd â'r nod yn y Rhaglen Lywodraethu o ddiogelu, ailadeiladu a datblygu gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed a'r ymrwymiad i weithredu'n llawn Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (sy'n cynnwys pennod ar fod yn Genedl Noddfa).

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn ymrwymo i sicrhau bod cyngor cyfreithiol ar fewnfudo yn cael ei ddarparu yng Nghymru.

Mae'r cynnig hefyd yn cefnogi nodau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol a chyflawni ei dyletswyddau cyfreithiol yn y maes hwn, gan gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, drwy alluogi Llywodraeth Cymru ac eraill i fonitro a gwella’r gwaith o integreiddio mudwyr o fewn ein cymunedau.

Mae Cymru o dan anfantais ddifrifol, o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU, o ran y ddarpariaeth gyfreithiol ar fewnfudo (yn enwedig y ddarpariaeth ddi-dâl).

O ystyried bod llawer o unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau cyngor cyfreithiol yn ddiymgeledd neu mewn sefyllfa anodd gyda diffyg statws ni fyddai'n ymarferol iddynt deithio sawl milltir i gael gafael ar wasanaethau. Mae llawer hefyd yn wynebu rhwystrau o ran iaith a thechnoleg. Mae hyn i gyd yn cael effaith gronnol, ee canlyniadau niweidiol o ran iechyd meddwl ac iechyd corfforol neu gyfnod hwy o amser pan fydd gofyn i'r ceisiwr lloches ddibynnu ar gymorth y wladwriaeth yn hytrach na cheisio bod yn hunangynhaliol drwy gael ei gyflogi. Gellid dadlau ar sail hynny y byddai'r baich cynyddol hwn ar adnoddau cyfyngedig y wladwriaeth yn gwrthbwyso yn hawdd y swm bychan o gyllid sy'n cael ei ddyfarnu.

Bydd y cyllid yr ydym yn ei ddarparu yn cryfhau ac yn cynyddu capasiti ar gyfer y gwasanaeth cynghori di-dâl y mae Asylum Justice eisoes yn ei gynnig (sy'n boddi o dan y llwyth gwaith ar hyn o bryd oherwydd penderfyniadau diweddar Llywodraeth y DU yn y maes hwn).

Bydd y cyllid ar gyfer Eastgate Chambers yn lleihau baich gweinyddol yr achosion cymorth cyfreithiol ar y cynghorwyr cyfreithiol. Bydd hyn yn caniatáu iddynt ymgymryd ag achosion cymorth cyfreithiol ychwanegol. Bydd yr hyfforddiant a'r lleoliadau gwaith a gynigir gan Newfields Law yn helpu i ddenu myfyrwyr i faes cyfraith mewnfudo yn y gobaith y bydd y ddarpariaeth yn cynyddu yn y dyfodol er mwyn ateb y galw.

5. Yr Awdurdod cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Cynghorwyr Cyfreithiol ar Fewnfudo

7. Sector(au) a gefnogir

Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth

8. Hyd y cynllun

12 Mehefin 2024 i 31 Awst 2026

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun

£141,600

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Rhaid i sefydliad weithio yn y Sector Cyfraith Mewnfudo yng Nghymru.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae pob sefydliad wedi darparu ei nodau ar gyfer y cyfnod cyllido a dadansoddiad llawn o'r costau sydd eu hangen i gyflawni ei amcanion. Bydd y rhain yn cael eu monitro'n chwarterol gan swyddogion polisi.

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£61,500

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image