Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelodd Hannah Blythyn â gwesty boutique a thŷ bynciau yng Nghaernarfon er mwyn gweld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn prosiectau adfywio yn gwneud gwahaniaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog £4m yn rhagor ar gyfer cronfa Benthyciadau Canol Trefi i brosiectau ledled Cymru, gan ddod â chyfanswm y cyllid i £31m. 

Mae Caernarfon wedi elwa ar fwy na £2m o Fenthyciadau Canol Trefi ers 2015, gan gynnwys £73,500 ar gyfer menter gymunedol ddielw Galeri Caernarfon Cyf, er mwyn adnewyddu adfail a chreu pum cartref yng nghanol y dref. 

Dywedodd Hannah Blythyn: 

"Mae'n wych gweld sut mae Caernarfon wedi elwa ar Fenthyciadau Canol Trefi i wneud y defnydd gorau o'i hasedau hanesyddol gwych. 

"Mae Tŷ Castell yn adeilad Sioraidd hardd yng nghanol y dref. Diolch i gyllid o £250,000 gan gronfa Benthyciadau Canol Trefi, bu'n bosibl i'r datblygwr adnewyddu'r adeilad i greu gwesty boutique a thŷ bwyta bendigedig.

"Defnyddiodd y tîm y tu ôl i Dŷ Glyndŵr £60,000 o gronfa Benthyciadau Canol Trefi i greu tŷ bynciau, bar a chaffi mewn adeilad rhestredig Gradd II. Mae'r busnesau hyn wedi creu swyddi ac yn tynnu twristiaid i'r dref i brofi popeth sydd gan yr ardal i'w gynnig. 

"Unwaith y caiff yr arian o gronfa Benthyciadau Canol Trefi ei dalu'n ôl, caiff ei ddefnyddio eto i gyllido benthyciadau newydd, i adfer safleoedd gwag adfeiliedig, i helpu busnesau i dyfu a ffynnu, ac i gefnogi gweithgareddau sy'n denu mwy o bobl i'r stryd fawr." 

Mae Benthyciadau Canol Trefi yn rhan o strategaeth  adfywio Llywodraeth Cymru, a fydd wedi buddsoddi cyfanswm o £800m rhwng 2014 a 2023. Mae hyn yn cynnwys tua £250m gan Lywodraeth Cymru, a mwy na £550m gan gyrff a busnesau eraill. 

Fe wnaeth Hannah Blythyn gyfarfod hefyd â rhai o'r tîm y tu ôl i Ardal Gwella Busnes HWB Caernarfon, a sefydlwyd â chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae Ardaloedd Gwella Busnes yn ffordd arloesol o gronni adnoddau i weithio fel tîm a chyllido gweithgareddau penodol y cytunir arnynt er budd yr ardal leol.

Ychwanegodd Hannah Blythyn:  

"Mae Ardal Gwella Busnes Caernarfon wedi datblygu partneriaethau lleol effeithiol, ac roedd yn braf cael clywed mwy am sut mae hyn yn gwneud gwahaniaeth yn y dref."

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi:

“Roeddwn i’n falch iawn o groesawu’r Dirprwy Gweinidog – roedd yn gyfle i amlygu’r prosiectau cadarnhaol sy’n digwydd yn lleol gan gynnwys gwaith HWB Caernarfon.

“Wrth ymweld gyda busnesau sydd wedi elwa o’r Gronfa Benthyciadau Canol Trefi cafwyd cyfle i weld y gwahaniaeth gwirioneddol mae’r arian wedi ei wneud wrth i wella cyflwr adeiladau yng nghanol dref Caernarfon. Mae’n dyst fod y gronfa yn cynnig cyfle gwych i fusnesau a thrigolion lleol i adnewyddu eu hadeiladau o fewn canol y dref.”