Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Ionawr i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cynnyrch domestig gros rhanbarthol
Mae cynnyrch domestig gros (CDG) yn mesur gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn y DU. Mae'n amcangyfrif maint a thwf yr economi.
Ystadegau arbrofol yw'r rhain a dylid eu trin yn ofalus. Gall y data fod yn gyfnewidiol, a dylid ystyried symudiadau chwarterol ochr yn ochr â'r duedd hirdymor.
Newid dros y chwarter
- Gostyngodd cynnyrch domestig gros (CDG) yng Nghymru 1.7% yn chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2021 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Hydref i Rhagfyr 2020). Mae hyn yn dilyn cynnydd yn chwarter 4 2020 wrth i’r economi weld rhywfaint o adferiad o’r gostyngiadau mawr yn chwarter 2 2020 ar ddechrau’r pandemig.
- Cafwyd gostyngiad ym mhob un o wledydd y DU, gyda’r gostyngiad mwyaf yng Nghymru.
- Gweithgareddau llety a gwasanaeth bwyd ddangosodd y gostyngiad mwyaf yn chwarter 1 2021 (i lawr 16.2%). Gweithgareddau aelwydydd fel cyflogwyr, a nwyddau a gwasanaethau diamheuol a brofodd y cynnydd mwyaf (cynnydd o 7.4%).
Nodyn
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi oedi cyn diweddaru'r gyfres amser rhwng Chwarter 1 2012 a Chwarter 3 2020 i ganolbwyntio ar ddatblygu dulliau o wella ansawdd data a lleihau amlder y diwygiadau.
O ganlyniad, mae’r data yn y datganiad hwn wedi'u diweddaru i gynnwys chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2021 ond nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i gyfnodau data cynharach, gan gynnwys alinio â Chyfrifon Rhanbarthol Blynyddol neu Gyfrifon Gwladol Chwarterol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. O'r herwydd, mae'r sylwebaeth wedi'i chyfyngu i newidiadau chwarter chwarter o Chwarter 4 2020 i Chwarter 1 2021.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.