Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cynnyrch domestig gros rhanbarthol
Mae'r adroddiad yn ymdrin â chychwyn pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Ystadegau arbrofol yw'r rhain a dylid eu trin yn ofalus. Gall y data fod yn gyfnewidiol, a dylid ystyried symudiadau chwarterol ochr yn ochr â'r duedd hirdymor.
Newid dros y tymor byrrach
- Gostyngodd cynnyrch domestig gros (CDG) yng Nghymru 2.4% yn chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2020 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Hydref i Ragfyr 2019). Dyma’r gostyngiad chwarterol mwyaf ers i’r gyfres ddechrau yn 2012.
- Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, roedd gostyngiad o 2.5%.
- O ddeuddeg o wledydd a rhanbarthau’r DU, Cymru a gafodd y nawfed gostyngiad mwyaf mewn allbwn yn chwarter 1 2020.
- Gwelwyd cynnydd yn y sectorau adeiladu a chynhyrchu o 0.1% a 0.4% yn y drefn honno. Fodd bynnag, gwelwyd ostyngiad o 3.5% yn y sector gwasanaethau.
- Addysg gwelodd y gostyngiad mwyaf ar 17.8%, ac yna trafnidiaeth a storio ar 10.5%
Newid dros y tymor hwy
- Gwelodd Cymru ostyngiad o 3.8% o ran cynnyrch domestig gros o'i gymharu â'r un chwarter flwyddyn yn ôl, a gwelodd y DU gyfan ostyngiad o 2.2% yn cynnyrch domestig gros.
- Gostyngodd y sectorau adeiladu, cynhyrchu a gwasanaethau i gyd dros y tymor hwy.
- Bu gostyngiad o 2.6% yn y sector adeiladu, 3.0% yn y sector cynhyrchu a 4.3% yn y sector gwasanaethau.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.