Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Ionawr i Fawrth 2019.

Mae’r ystadegau yn arbrofol ac mae anweddolrwydd y data chwarterol yn ei gwneud hi’n anodd dehongli newidiadau byrdymor. Dyma’r ail rifyn yr ystadegau arbrofol yma.

Prif bwyntiau

Newid dros y tymor byrrach

  • Gostyngodd gynnyrch domestig gros yng Nghymru 0.5% yn Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2019 o gymharu â Chwarter blaenorol (Hydref i Ragfyr 2018). Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd roedd cynnydd o 0.6%.
  • O ddeuddeg o wledydd a rhanbarthau'r DU, Cymru a gafodd y gostyngiad mwyaf mewn allbwn yn Chwarter 1 2019.
  • Gwelwyd cynnydd o 1.0% yn y sector cynhyrchu ond gwelodd y sectorau gwasanaeth ac adeiladu ostyngiad o 0.8% a 1.6% yn y drefn honno.

Newid dros y tymor hwy

  • Gwelodd Cymru dwf o 2.6% o ran gynnyrch domestig gros o'i gymharu â'r un chwarter flwyddyn yn ôl, a gwelodd y DU gyfan dwf o 2.2% yn y gynnyrch domestig gros.
  • Dros y flwyddyn bu tyfiant cryf yn y sector adeiladu (11.5%), cynnydd o 2.7% yng ngwasanaethu a gostyngiad o 0.6 yng nghynhyrchu.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099