Neidio i'r prif gynnwy

Data a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos amcangyfrifon o allbwn economaidd ar gyfer 2018.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi rhyddhau'r set gyntaf o amcangyfrifon blynyddol o gynnyrch domestig gros ar gyfer ardaloedd is-genedlaethol y DU.

Cynnyrch domestig gros (GDP)

Cyfanswm GDP y gweithle yng Nghymru yn 2018 oedd £74.9 biliwn, i fyny 3.3% ers 2017. Cododd GDP ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 3.1%.

£23,866 oedd GDP y pen yng Nghymru yn 2018, i fyny 2.9% ers 2017.

Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) (cytbwys)

Cyfanswm GYG y gweithle yng Nghymru yn 2018 oedd £65.1 biliwn, i fyny 3.3% ers 2017. Cododd GYG ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 3.1%.

£20,738 oedd GYG y pen yng Nghymru yn 2018, i fyny 2.9% ers 2017. Dyma’r trydydd gynnydd uchaf ymhlith gwledydd a rhanbarthau’r DU. Cynyddodd GYG y pen ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 2.4%.

Roedd GYG gweithle'r pen yng Nghymru yn 2018 yn 72.8% o ffigwr y DU (ac eithrio extra-regio), yr ail isaf ymhlith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Roedd hyn i fyny 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.

Mae ardaloedd llai daearyddol eraill ar gael gan SYG yn cynnwys awdurdodau lleol a rhanbarthau dinasoedd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.