Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2019.

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i 2019Ch3. Nid yw’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae’r ystadegau yn arbrofol ac mae anweddolrwydd y data chwarterol yn ei gwneud hi’n anodd dehongli newidiadau byrdymor.

Newid dros y tymor byrrach

  • Cynyddodd gynnyrch domestig gros yng Nghymru 0.9% yn chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 2019 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Ebrill i Fehefin  2019). Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd roedd cynnydd o 0.5%.
  • O ddeuddeg o wledydd a rhanbarthau'r DU, Cymru a gafodd y cyd-bedwerydd cynnydd mwyaf mewn allbwn yn chwarter 3 2019.
  • Gwelwyd cynnydd yn y sectorau adeiladu a gwasanaethau o 2.6% a 1.5% yn y drefn honno, ond gwelwyd ostyngiad o 1.3% yn y sector cynhyrchu

Newid dros y tymor hwy

  • Gwelodd Cymru dwf o 1.7% o ran cynnyrch domestig gros o'i gymharu â'r un chwarter flwyddyn yn ôl, a gwelodd y DU gyfan dwf o 1.2% yn cynnyrch domestig gros.
  • Dros y flwyddyn bu twf yn y sector gwasanaethau (2.8%), gostyngiad o 0.6% yn adeiladu a gostyngiad o 1.4% yng nghynhyrchu.

Nodyn

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr ystadegau arbrofol yma am y tro cyntaf ym mis Medi 2019.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.