Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cynnyrch domestig gros rhanbarthol
Mae CDG yn mesur gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn y DU. Mae'n amcangyfrif maint a thwf yr economi.
Ystadegau arbrofol yw'r rhain a dylid eu trin yn ofalus. Gall y data fod yn gyfnewidiol, a dylid ystyried symudiadau chwarterol ochr yn ochr â'r duedd hirdymor.
Prif bwyntiau
Newid dros y tymor byrrach
- Gostyngodd CDG yng Nghymru 0.4% yn chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2022 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Ionawr i Fawrth 2022).
- Mae hynny'n cymharu â gostyngiad o 0.3% yn chwarter 1 2022.
- Gwelodd Ogledd Iwerddon ostyngiad o 0.3% dros yr un cyfnod amser ac ni fu newid yn Lloegr a’r Alban.
- Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, cynyddodd CDG 0.1%.
- Gwelwyd cynnydd o 3.7% a 0.6% yn y sectorau cynhyrchu ac adeiladu, a chafwyd gostyngiad o 1.6% yn y sector gwasanaethau
Newid dros y tymor hwy
- Cynyddodd CDG yng Nghymru 1.9% ym mis Ebrill hyd at fis Mehefin 2022 o'i gymharu â'r un chwarter y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd CDG ar gyfer y DU 4.0% dros yr un cyfnod amser.
- Dangosodd y pedair gwlad yn y DU dwf positif mewn CDG dros y tymor hwy. Cymru welodd y cynnydd lleiaf (1.9%), a’r Alban oedd a’r uchaf (5.0%).
- Cafwyd tyfiant yn y sectorau adeiladu a gwasanaethau (5.7% a 2.0% yn y drefn honno). Ni newidiodd y twf yn y sector cynhyrchu.
Nodyn
Mae’r amcangyfrifon yn y datganiad hwn wedi ymgymryd â diwygiadau yn ôl i Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2021. Mae'r diwygiadau hyn yn bennaf oherwydd amcangyfrifon diwygiedig o gyfrifon cenedlaethol chwarterol CDG y DU.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.