Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Ebrill i Fehefin 2020.

Mae'r adroddiad yn ymdrin â chychwyn pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae cynnyrch domestig gros (CDG) yn mesur gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn y DU. Mae'n amcangyfrif maint a thwf yr economi.

Ystadegau arbrofol yw'r rhain a dylid eu trin yn ofalus.  Gall y data fod yn gyfnewidiol, a dylid ystyried symudiadau chwarterol ochr yn ochr â'r duedd hirdymor.

Newid dros y tymor byrrach

  • Gostyngodd cynnyrch domestig gros (CDG) yng Nghymru 15.1% yn chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2020 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Ionawr i Fawrth 2020).
  • Dyma’r gostyngiad chwarterol mwyaf o bell ffordd, ers i’r gyfres ddechrau yn 2012. Gwelodd Cymru ostyngiad o 2.4% rhwng chwarter 4 2019 a chwarter 1 2020, sef y gostyngiad mwyaf cyn hyn.
  • Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, cafwyd gostyngiad o 18.8%.
  • O ddeuddeg o wledydd a rhanbarthau’r DU, Cymru a gafodd yr ail ostyngiad lleiaf mewn allbwn yn chwarter 2 2020
  • Y sector adeiladu welodd y gostyngiad mwyaf o 29.6%. Gwelodd y sectorau gwasanaethau a chynhyrchu hefyd ostyngiadau o 14.6% a 12.9% yn y drefn honno.

Newid dros y tymor hwy

  • Gwelodd Cymru ostyngiad o 18.3% o ran cynnyrch domestig gros o'i gymharu â'r un chwarter flwyddyn yn ôl, a gwelodd y DU gyfan ostyngiad o 20.7%.
  • Dyma'r gostyngiad blynyddol mwyaf ers i'r gyfres ddechrau yn 2012.
  • Y sector adeiladu welodd y gostyngiad mwyaf dros y tymor hwy (33.6%).
  • Bu gostyngiad o 18.1% yn y sector gwasanaethau a 15.7% yn y sector cynhyrchu.

Nodyn

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi nodi rhai anghysondebau yn y llwybr chwarterol ar gyfer y gyfres CDG rhanbarthol chwarterol ar gyfer Amaethyddiaeth yng Nghymru; ac felly awgrymir bod defnyddwyr yn defnyddio'r gyfres benodol hon yn ofalus. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn adolygu ac yn ail gyhoeddi’r data hwn yn ogystal â'r effaith ar gyfanswm cyfres diwydiant Cymru yn y datganiad chwarterol nesaf. Fodd bynnag, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn disgwyl i'r effaith ar y lefel gyfan ar gyfer Cymru fod yn fach iawn.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.