Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Ebrill i Fehefin 2019.

Mae’r ystadegau yn arbrofol ac mae anweddolrwydd y data chwarterol yn ei gwneud hi’n anodd dehongli newidiadau byrdymor.

Newid dros y tymor byrrach

  • Cynyddodd gynnyrch domestig gros yng Nghymru 0.4% yn chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2019 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Ionawr i Fawrth 2019). Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd roedd gostyngiad o 0.2%.
  • O ddeuddeg o wledydd a rhanbarthau'r DU, Cymru a gafodd y pedwerydd cynnydd mwyaf mewn allbwn yn chwarter 2 2019.
  • Gwelwyd cynnydd o 2.0% yn y sector gwasanaethau ond gwelodd y sectorau cynhyrchu ac adeiladu gostyngiad o 3.0% a 6.7% yn y drefn honno.

Newid dros y tymor hwy

  • Gwelodd Cymru dwf o 0.7% o ran cynnyrch domestig gros o'i gymharu â'r un chwarter flwyddyn yn ôl, a gwelodd y DU gyfan dwf o 1.4% yn cynnyrch domestig gros.
  • Dros y flwyddyn bu twf yn y sector gwasanaethau (2.2%), gostyngiad o 0.4% yn adeiladu a gostyngiad o 4.3% yng nghynhyrchu.

Nodyn

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr ystadegau arbrofol yma am y tro cyntaf ym mis Medi 2019. Yn dilyn y datblygiad yma, rydym am glywed sut yr ydych yn defnyddio’r adroddiad yma, neu sut yr ydych yn defnyddio ein adroddiad ar wahân ar ddangosyddion allbwn tymor byr.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.