Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi eu ffigurau heddiw ar gyfer teithio o dramor i Gymru yn 2016.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

  • Mwy na 1 miliwn o ymweliadau tramor yn 2016 gyda gwariant yn uwch nag erioed 
  • Arweinwyr y diwydiant yn casglu ar gyfer yr Uwchgynhadledd Twristiaeth i drafod heriau y dyfodol 
  • £2 miliwn wedi ei gyhoeddi ar gyfer prosiectau i ddathlu Blwyddyn y Chwedlau a Blwyddyn y Môr 
  • Bydd Ffordd Cymru yn cael ei lansio yn ystod Blwyddyn y Chwedlau tra bod 2019 yn cael ei henwi yn Flwyddyn Darganfod

Nifer yr ymweliadau rhyngwladol i Gymru yn 2016 oedd 1.074 miliwn, a’r gwariant cysylltiedig oedd £444 miliwn.


Dyma’r tro cyntaf ers 2008 i Gymru ddenu dros miliwn o ymweliadau tramor, a dyma’r ffigurau gwariant uchaf sydd wedi’u cofnodi ar gyfer Cymru.  


Daw y newyddion ar ddiwrnod y gwelwyd arweinwyr y diwydiant twristiaeth yng Nghymru a Phrydain yn casglu ar gyfer yr Uwchgynhadledd Twristiaeth, wedi’i drefnu gan Croeso Cymru, i drafod tueddiadau a heriau y dyfodol i’r diwydiant.  

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Mae’r diwydiant twristiaeth ledled Cymru mewn sefyllfa bositif iawn.  Ac mae hyn yn rhagor o newyddion da am berfformiad ein marchnadoedd rhyngwladol.  Rydym bellach yn cydnabod yn llawn pa mor gystadleuol yw’r farchnad a’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant.  Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol – yn enwedig o ystyried canlyniadau Refferendwm yr UE – yw gwneud mwy eto i adeiladu ar yr ymdeimlad hwn o hyder a momentwm i sicrhau ein bod yn rhyngwladol ein hagwedd.”

Roedd y cyntaf o flynyddoedd thematig Cymru yn llwyddiant mawr i Gymru, a llwyddodd gweithgarwch marchnata Croeso Cymru yn 2016 i gynhyrchu £370 miliwn yn ychwanegol i economi Cymru – sy’n gynnydd o 18% ar 2015.  Dengys hyn bod ymwelwyr yn bendant wedi eu dylanwadu gan farchnata Croeso Cymru cyn mynd ar wyliau i Gymru.  Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet bod y blynyddoedd â themâu yn parhau gyda ‘Blwyddyn Darganfod’ newydd yn 2019 fydd yn adeiladu ar y y dair thema o antur, diwylliant a’r awyr agored.   


Prif bwyslais yr Uwchgynhadledd Twristiaeth – gynhaliwyd yng Ngwesty’r Metropole Llandrindod, ble yr oedd 150 o arweinwyr ac areithwyr ym maes twristiaeth yn bresennol, oedd trafod sut y gall Gymru barhau i fod yn ymwybodol o dueddiadau newydd a newidiadau yn y farchnad.  

Mae prosiectau arloesol yn allweddol i lwyddiant yn y dyfodol.  Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet bod £2 filiwn wedi ei gymeradwyo am gyfanswm o 38 o brosiectau ledled Cymru o dan y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth a’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol.  Bydd y cyllid hwn yn galluogi’r sectorau preifat a chyhoeddus i ddatblygu prosiectau arloesol fydd yn sbarduno’r galw ac yn gwella’r hyn sy’n cael ei gynnig i ymwelwyr drwy gefnogi ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau tra’n edrych ymlaen at Flwyddyn y Môr ar yr un pryd.  

Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi brosiect arloesol arall fydd yn cael ei lansio i ymwelwyr ar ddiwedd Blwyddyn y Chwedlau.  Bydd ‘Ffordd Cymru’ yn gyfres newydd o deithiau o ffyrdd i dwristiaid o safon rhyngwladol.  Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 

“Er y bydd y ffyrdd yn canolbwyntio ar rwydweithiau ffyrdd craidd – fydd yn cynnwys Coridor Diwyllliant yr A55 i’r gogledd, yr A487 i’r gorllewin, a’r A470 drwy ganolbarth Cymru – byddant yn llawer mwy na llwybrau i yrru arnynt.  Byddant yn dathlu’r amrywiol ddulliau o deithio, gan annog ymwelwyr i ddarganfod trysorau cudd ac ymgolli mewn profiadau lleol, sef yr hyn sy’n dod â phopeth ynghyd ac yn gwella’r hyn sydd gennym i’w gynnig.”  

Bydd cyfnod o gysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol rhanbarthol o fewn y diwydiant yn digwydd dros y misoedd nesaf i sicrhau fod pob llwybr yn dangos y gorau o’r hyn sydd i’w gynnig gan y rhanbarthau.