Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein is-lot Caledwedd TG i sefydliadau cwsmeriaid mawr, wedi derbyn gwobr yn ddiweddar ar y fersiwn diweddaraf o’n rhwydwaith Cynnyrch a Gwasanaethau TG (ITPS2) poblogaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Aeth y fframwaith ITPS2 yn fyw ar 15 Gorffennaf 2020, ag eithrio is-lot 2b, sydd bellach yn fyw ac ar gael i gwsmeriaid. Mae’n cynnig mynediad at yr ystod llawn o Galedwedd TG, o lechi i atebion storio pwrpasol.

Gall gwsmeriaid brynu gwasanaethau cysylltiedig pwrpasol megis gwasanaethau Rhwydwaith neu Desg Gymorth. Wedi’u cynllunio i adlewyrchu anghenion cwsmeriaid, mae detholiad amrywiol o gyflenwyr, o BBaChau o Gymru i Gwmnïau Cyfarpar Gwreiddiol rhyngwladol.

Mae’r cytundeb fframwaith hwn yn cynnig ffordd syml, cystadleuol, sy’n cydymffurfio, i’r farchnad ar gyfer cwsmeriaid sy’n dymuno archebu amrywiol galedwedd TG; cynnyrch meddalwedd; a gwasanaethau cysylltiedig.

Y cyflenwyr sydd bellach ar gael ar lot 2 (Caledwedd TG) yw:

  • Centerprise International Ltd
  • Circle IT Solutions Ltd
  • Computacenter (UK) Ltd
  • Computerworld Wales Ltd
  • Dell Corporation Ltd
  • Kingsfield Computer Products
  • Lenovo Technology (UK) Ltd
  • Phoenix Software Ltd
  • Probrand
  • Pure Technology Group Ltd
  • Stone Computers Ltd
  • XMA Ltd

Ceir manylion ar sut i ddefnyddio pob lot o’r fframwaith, a’r cyflenwyr sy’n derbyn pob lot ar gael ar Cofrestr Contractau GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).

Panel Rheoli Prynwyr >Cofrestr Contract (o dan Sefydliad)>Gweld Contractau Cyhoeddus>Chwiliad Uwch>Teipio teitl y fframwaith>Gwirio’r blwch 'Cynnwys Contractau Cydweithredol'>Chwilio

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru​​​​​​​