Cynnydd ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol o ran cefnogi disgyblion ag anghenion: ymateb y llywodraeth
Yr hyn yr ydyn ni’n bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad Estyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion yr adroddiad
Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Estyn ar gyfer 2023 i 2024. Mae'r adroddiad yn ystyried pa mor dda y mae'r lleoliadau a ariennir nas cynhelir, a'r ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed a gynhelir a gymerodd ran yn yr adolygiad yn gweithredu ac yn ymgorffori agweddau ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET) a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cysylltiedig. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol wedi cefnogi ysgolion.
Mae’r adroddiad yn adeiladu ar ganfyddiadau o’r adolygiad thematig cyntaf ac yn nodi arfer effeithiol i gefnogi addysg gynhwysol, datblygu strategaethau i gefnogi disgyblion ag ADY, ymestyn cymorth cyfrwng Cymraeg a chryfhau dysgu proffesiynol, sicrhau ansawdd a rolau’r Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a Swyddogion Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar.
Crynodeb o'r prif ganfyddiadau
- Nododd y tîm arolygu’n gyson yr ymrwymiad cryf a’r gwydnwch a ddangosir gan staff mewn awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau.
- At ei gilydd, roedd gofynion diwygio ADY yn dechrau sicrhau gwelliannau yn y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY ledled y wlad. O ganlyniad, lle’r oedd diwygio ADY wedi cael ei weithredu’n llwyddiannus, roedd llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas o’u mannau cychwyn cychwynnol. Fodd bynnag, nid oedd gweithredu diwygio ADY yn gyson, ac o ganlyniad, nid oedd anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cael eu cefnogi’n ddigon da bob amser.
- Roedd mwyafrif yr ysgolion a’r awdurdodau lleol yn y sampl wedi dechrau cryfhau sicrhau ansawdd prosesau a darpariaeth ADY. Mynegwyd pryderon serch hynny gan lawer o arweinwyr am eu gallu i barhau i gyflwyno’r gwasanaethau ADY angenrheidiol, wedi i gyllid ychwanegol ddod i ben.
- Mae’r canfyddiadau’n dangos bod arweinwyr a staff mewn llawer o ysgolion a lleoliadau wedi dechrau datblygu diwylliant ac arfer gynhwysol. Roedd yr ysgolion a’r lleoliadau hyn yn canolbwyntio’n dda ar ddysgu a lles pob un o’r disgyblion. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, nid oedd gweledigaeth gynhwysol ac addysgu a dysgu pwrpasol wedi’u hanelu at ddiwallu anghenion yr holl ddisgyblion yn ddigon effeithiol.
- Mae’r adroddiad yn dangos, ar sail trafodaethau ag arweinwyr ysgolion, bod arweiniad awdurdodau lleol ar gyfer gwella ansawdd addysgu a dysgu cynhwysol yn amrywiol ledled Cymru. Hyd yn oed yn yr achosion mwyaf effeithiol, roedd ysgolion yn cydnabod mai megis dechrau datblygu oedd y cymorth ac arweiniad hwn.
- At ei gilydd, roedd nifer y disgyblion y nodwyd bod ganddynt ADY neu anghenion addysgol arbennig (AAA) ar gofrestrau ysgolion wedi parhau i ostwng. Fodd bynnag, roedd nifer y disgyblion yr oedd eu darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) / darpariaeth addysgol arbennig (DAA) wedi’i nodi mewn cynllun statudol, naill ai trwy gynllun datblygu unigol (CDU) neu ddatganiad o AAA, wedi parhau i gynyddu.
- Yn ychwanegol, roedd cynnydd sylweddol yn nifer y cynlluniau datblygu unigol (CDUau) a oedd yn cael eu cynnal gan ysgolion. Ar draws awdurdodau lleol, roedd anghysondebau’n parhau o ran dehongli’r Cod ADY ac yn yr ymagweddau dilynol at CDUau a gynhelir gan ysgolion ac awdurdodau lleol.
- At ei gilydd, roedd ysgolion a lleoliadau a gymerodd ran yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o’r ddarpariaeth y maent yn ei threfnu ar gyfer disgyblion ag ADY. Fodd bynnag, roedd y graddau y caiff y ddarpariaeth ei dosbarthu’n DDdY yn parhau i fod yn aneglur. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion ac awdurdodau lleol yn cytuno y byddai’n fuddiol egluro DDdY ar lefel genedlaethol.
- Lle’r oedd rôl y CydADY yn fwyaf effeithiol, roedd yn rhan o’r uwch dîm arweinyddiaeth, ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY, a’u deilliannau. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd Cydlynwyr ADY yn cael eu cynnwys yn llawn mewn dylanwadu ar gyfeiriad strategol a phroses yr ysgol ar gyfer gwneud penderfyniadau.
- Dyma yw’r tro cyntaf i Estyn adolygu cynnydd lleoliadau nas cynhelir a ariennir a rôl Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC) mewn cysylltiad â diwygio ADY. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod llawer o’r lleoliadau nas cynhelir a ariennir yn darparu profiadau dysgu effeithiol ar gyfer plant ag ADY. Hefyd, roedd rôl y SAADYBC wedi hen ennill ei phlwyf ledled Cymru.
- Nid oedd y graddau y mae awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau yn cynllunio ac yn darparu cymorth teg ar gyfer darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg wedi’u datblygu’n ddigonol o hyd. Mae hyn wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ond roedd heriau sylweddol yn parhau o ran cyfraddau recriwtio a chadw mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ogystal â darparu asesiadau ac adnoddau safonedig cyfrwng Cymraeg.
Argymhellion
Mae'r adroddiad yn gwneud saith argymhelliad. Mae dau argymhelliad ar gyfer ysgolion a lleoliadau, dau argymhelliad ar gyfer awdurdodau lleol a thri argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r holl argymhellion.
Addysgu a dysgu o ansawdd uchel
Argymhelliad 1
Dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau bod addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn diwallu anghenion pob disgybl ac yn cefnogi addysg gynhwysol.
Argymhelliad 3
Dylai awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion a lleoliadau i hyrwyddo addysg gynhwysol, targedu cymorth lle mae angen a chryfhau cydlynu gwasanaethau cymorth i sicrhau addysgu o ansawdd uchel ar gyfer pob un o’r disgyblion.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae gan awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau ddyletswyddau pwysig i gynllunio, cydlynu a darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i godi safonau ar gyfer pob plentyn.
Mae pwysigrwydd addysgu o ansawdd uchel yn ganolog i'n hagenda gwella ysgolion sy'n sail i ddiwygio'r cwricwlwm ac ADY. Rydym yn disgwyl i anghenion addysgol y rhan fwyaf o ddysgwyr, gan gynnwys anghenion plant anabl, gael eu diwallu mewn lleoliadau prif ffrwd drwy wireddu'r Cwricwlwm i Gymru, ymarfer addysgu o ansawdd da a dull ysgol gyfan o ymdrin â lles. Mae Galluogi Dysgu yn rhan o ganllawiau'r Cwricwlwm i Gymru ac wedi'i ddatblygu er mwyn helpu ymarferwyr i drefnu, cynllunio a gweithredu cwricwlwm cynhwysol sy’n addysgegol briodol i bob dysgwr. Datblygwyd Galluogi Dysgu i gefnogi ymarferwyr sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd yn y cyfnod dysgu sy'n arwain at gam cynnydd 1. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar newidiadau i ganllawiau'r Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn cynnwys ymestyn y canllawiau Galluogi Dysgu i gefnogi pob dysgwr ar draws y continwwm dysgu.
Bydd digwyddiad ymarfer effeithiol ADY ym mis Chwefror 2025 yn rhannu arfer effeithiol ac yn gwella cydweithredu â phartneriaid mewn awdurdodau lleol.
Bydd gan y Corff Cymorth Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Cenedlaethol rôl allweddol wrth ddatblygu a chyflwyno dysgu proffesiynol ar draws ystod eang o feysydd a fydd yn helpu i wella addysgu a dysgu.
Cydlynwyr ADY
Argymhelliad 2
Dylai Ysgolion sicrhau bod Cydlynwyr ADY yn cael eu cynnwys yn llawn mewn dylanwadu ar gyfeiriad strategol a phroses yr ysgol ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae'r CADY yn rôl hanfodol i lwyddiant Diwygio ADY, ac mae Estyn wedi canfod bod rôl y CADY yn fwyaf effeithiol pan mae’n rhan o'r uwch dîm arwain, a’u bod yn gwneud cyfraniad sylweddol at y ddarpariaeth i ddisgyblion ag ADY a'u deilliannau.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn derbyn mewn egwyddor argymhellion 2 i 11 o bumed adroddiad Adolygiad Bwrdd Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) ynghylch sicrhau bod CADY yn aelodau o'r uwch dîm rheoli/uwch dîm arwain, gan gael mynediad at ddysgu proffesiynol ac amser priodol i ymgymryd ag ef.
Bydd gwaith manwl pellach yn dechrau cyn bo hir i adolygu a gweithredu unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) a'r Cod ADY mewn ymgynghoriad â'r sector.
Yn y cyfamser, fel y cyhoeddwyd yn Natganiad Ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar 7 Hydref, dyfarnwyd £5m ychwanegol yn 2024 i 2025 i ategu'r cyllid cyfredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau er mwyn sicrhau y capasiti priodol i gynllunio ar draws ysgol/lleoliad cyfan, a hyrwyddo dysgu cydweithredol ar gyfer gweithredu ADY yn gyson, a chefnogi ysgolion ar eu taith i sicrhau bod CADY yn rhan o'r tîm arweinyddiaeth strategol, ar y raddfa gyflog gysylltiedig.
Darpariaeth gyfartal ADY cyfrwng Cymraeg
Argymhelliad 4
Dylai awdurdodau lleol barhau i ddatblygu’r gweithlu, gwasanaethau dysgu proffesiynol a darpariaeth ar gyfer disgyblion trwy gyfrwng y Gymraeg.
Argymhelliad 6
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddatblygu cynllunio’r gweithlu, adnoddau a dysgu proffesiynol i sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg deg o ran ADY.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae sicrhau tegwch mewn addysg i ddysgwyr ADY Cymraeg eu hiaith yn hollbwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 6 ac yn gweithio gyda'n partneriaid i wella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, fel y gall pob dysgwr yng Nghymru gael yr un cyfle i ddysgu a datblygu er mwyn cyrraedd ei lawn botensial.
Mae Arweinydd Gweithredu Cenedlaethol ADY (iaith Gymraeg) yn cydweithio ag awdurdodau lleol i gynllunio'r gweithlu, gwella'r ddarpariaeth a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhanbarthol. At hynny, mae grŵp rhanddeiliaid cenedlaethol yn cydlynu ac yn blaenoriaethu datblygiad adnoddau a dysgu proffesiynol cyfrwng Cymraeg, ochr yn ochr â'r gwaith sy'n digwydd ar lefel leol drwy Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Yn ogystal, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn datblygu cyfres newydd o brofion i adnabod anawsterau llythrennedd yn well ymysg disgyblion ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Caiff cynnydd Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg pob awdurdod lleol ei fonitro drwy eu hadroddiad adolygu blynyddol, sydd hefyd yn olrhain y camau a gymerwyd yn seiliedig ar y Cynllun.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol
Argymhelliad 5
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phob un o’r awdurdodau lleol i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gyffredin a chadarn o’r diffiniad o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bod awdurdodau lleol a’u hysgolion yn cymhwyso hyn yn gyson.
Argymhelliad 7
Dylai Llywodraeth Cymru werthuso effaith y gweithredu a’r galw am ddarpariaeth ychwanegol ac arbenigol ar gyfer disgyblion ag ADY; dylai’r gwerthusiad hwn arwain trefniadau ariannu yn y dyfodol, gan sicrhau bod adnoddau’n diwallu anghenion a nodwyd.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion hyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi pwysleisio mai un o’i blaenoriaethau yw sicrhau bod y fframwaith ADY yn cael ei ddeall yn glir a bod ganddo sylfeini deddfwriaethol cryf. Rydym yn cydnabod yr adborth sy'n nodi bod rhai rhannau o'r ddeddfwriaeth yn gymhleth ac yn aneglur. Felly, rydym yn edrych yn fanwl ar y fframwaith deddfwriaethol gyda'n partneriaid cyflawni er mwyn llywio'r camau nesaf, gan sicrhau eglurder, hygyrchedd a darpariaeth gyson.
Rydym eisoes wedi cryfhau'r prosesau monitro a'r gefnogaeth ar gyfer gweithredu er mwyn deall yr heriau sy'n codi, gwella cysondeb wrth weithredu a chyd-gynhyrchu atebion gyda phartneriaid cyflawni. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd unigol gydag awdurdodau lleol bob tymor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Arad Research i gynnal gwerthusiad ffurfiannol o'r System Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd hyn yn cynnwys asesu effeithiolrwydd gweithredu'r system, a nodi unrhyw elfennau sy’n rhwystro neu’n hwyluso ac ymyriadau y gellid eu rhoi ar waith i helpu.
Bydd Arad yn cynnal sawl astudiaeth ardal gyda'r sector i edrych ar y rhagdybiaethau ynghylch effaith adnoddau, gan gynnwys cyllid gweithredu a ddarperir i gefnogi gweithredu'r system ADY.
Manylion cyhoeddi
Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar neu ar ôl 11 Rhagfyr 2024 a gellir ei ganfod ar wefan Estyn.