Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ffigurau ar gyfer 6 mis cyntaf 2016 yn dangos y bu cynnydd yng Nghymru yn nifer yr ymwelwyr tramor sy’n dod i Gymru a chynnydd yn eu gwariant yn ystod eu hymweliad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol, a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn dangos i Gymru groesawu 450,000 o deithwyr tramor yn 6 mis cyntaf 2016, cynnydd o 15% o’i gymharu â 6 mis cyntaf 2015 a’r cynnydd mwyaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig. 

Mae’r ffigurau’n dangos hefyd, er y bu gostyngiad bach yn eu gwariant yn y DU drwyddi draw, bod gwariant ymwelwyr tramor â Chymru wedi cynyddu mwy na 8%. 

O Ewrop y daeth rhyw 75% o’r ymwelwyr rhyngwladol â Chymru a’r DU yn gyfan yn hanner cynta’r flwyddyn.  Daeth cyfanswm o 338,000 o ymwelwyr o Ewrop i Gymru, sy’n 17% anferthol yn uwch nag yn chwe mis cyntaf 2015.  Roedd nifer yr ymwelwyr o Ogledd America â Chymru (54,000) hefyd yn uwch – 10% - o’i gymharu â 6 mis cyntaf 2015.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: 

“Dyma newyddion aruthrol i Gymru.

“Mae’n amlwg bod ein penderfyniad i dargedu marchnadoedd allweddol yn talu ar ei ganfed ac rydym ar drywydd gwireddu’r nod o ddiwydiant twristiaeth fydd wedi tyfu 10% erbyn 2020. 

“Â’r Flwyddyn Antur yn prysur ddod i’w therfyn, rydym wrthi’n paratoi i hyrwyddo Cymru yn 2017, Blwyddyn y Chwedlau.”