Mae'r data'n cael eu cyhoeddi cyn dechrau'r ymgyrch Wythnos Rhoi Organau sy'n rhedeg o 5 Medi hyd at 10 Medi.
Mae'r Adroddiad ar Weithgarwch Rhoi Organau a Thrawsblaniadau diwethaf, yr un cyntaf i'w gyhoeddi ers cyflwyno system gofrestru i optio allan a chydsyniad tybiedig yng Nghymru, yn dangos y canlyniadau hyn ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf:
- cynyddodd nifer y cleifion sy'n byw yng Nghymru y cafodd eu bywydau eu hachub neu'u gwella gan drawsblaniad organ 24% i 214 (y rhif ar gyfer 2014/15 oedd 173, sef cynnydd o 41)
- cynyddodd nifer y rhoddion organau gan bobl a fu farw yng Nghymru 7% i 64 (y rhif ar gyfer 2014-15 oedd 60)
- cynyddodd nifer y rhoddwyr ar ôl i'r ymennydd farw 13% i 36 (y rhif ar gyfer 2014-15 oedd 32), ond aros yr un a wnaeth nifer y rhoddwyr ar ôl i'r cylchred gwaed fethu, sef 28
- cynyddodd nifer y rhoddwyr byw sy'n byw yng Nghymru 20% i 49
- cafodd 136 o gleifion sy'n byw yng Nghymru drawsblaniad cornbilen i adfer eu golwg, sef cynnydd o 5%.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i newid y system rhoi organau drwy gyflwyno system feddal o optio allan. Caiff pobl 18 oed neu hŷn sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na deuddeng mis ac sy'n marw yng Nghymru eu hystyried bellach fel pe baent wedi rhoi cydsyniad i roi organau, oni bai eu bod wedi optio allan. Mae hyn yn cael ei alw'n gydsyniad tybiedig.
Gall pobl sy'n dymuno bod yn rhoddwr organau gofrestru penderfyniad i optio i mewn, neu wneud dim, a fydd yn golygu nad oes ganddynt wrthwynebiad i fod yn rhoddwr organ. Gall y bobl hynny nad ydynt yn dymuno bod yn rhoddwr organau optio allan unrhyw bryd.
Mae'r data'n cael eu cyhoeddi cyn dechrau'r ymgyrch Wythnos Rhoi Organau sy'n rhedeg o 5 Medi hyd at 10 Medi.
Nod yr ymgyrch yw annog pobl ifanc 18 - 34 oed i drafod eu penderfyniad rhoi organ (Amser Trafod Rhoi Organau) ac atgoffa oedolion ledled Cymru am eu hopsiynau o dan y system newydd a beth maent yn ei olygu. Bydd e-bost a llythyr uniongyrchol yn cael eu hanfon at bob myfyriwr sydd wedi derbyn lle i astudio yng Nghymru drwy'r system UCAS ond sy'n byw y tu allan i Gymru.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Mae'n dda gweld cynnydd yn nifer y bobl y mae trawsblaniad organ yn achub neu'n gwella eu bywydau.
“Mae llawer o'r data yn yr adroddiad heddiw yn gadarnhaol i Gymru, gan ddangos bod pethau yn symud i'r cyfeiriad iawn; ond mae gwaith i'w wneud o hyd. Mae ffigurau heddiw yn dangos inni fod 192 o gleifion yn aros am drawsblaniad ddiwedd mis Mawrth 2016 a bod 24 o gleifion wedi marw wrth iddynt aros am drawsblaniad.
“Hoffwn annog pawb ar draws Cymru i siarad â'u hanwyliaid am eu penderfyniad rhoi organau a dyna pam mae ein hymgyrch Amser Trafod Rhoi Organau mor bwysig.
Er ein bod yn gwybod bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn cynyddu, mae'n bwysig iawn ein bod yn lledaenu'r neges i bobl Cymru ynglŷn â'r mater hwn. Yn enwedig wrth i'r flwyddyn academaidd newydd yn agosáu, mae'n bwysig bod y myfyrwyr newydd sy'n dod i Gymru i astudio yn deall sut y mae'r broses o roi organau yn gweithio yng Nghymru.”