Neidio i'r prif gynnwy

Aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus

Gweithred 1

Cryfhau a gwella'r sylfaen dystiolaeth o ran atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus, a diogelwch menywod a merched mewn mannau cyhoeddus, er mwyn deall graddau’r broblem, yr hyn sy’n ei achosi ac ymyriadau effeithiol.

Diweddariad

  • Comisiynodd y ffrwd waith ail adolygiad o’r dystiolaeth, ‘Adolygiad systematig o adolygiadau: Aflonyddu Rhywiol Ar-lein, ac Aflonyddu ar Sail Rhywedd Ar-lein’. Mae’r adolygiad yn cael ei gynnal gan Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru, a rhagwelir y bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi’n gynnar yn 2025.
  • Mae partneriaid amrywiol wedi datblygu adroddiadau, ymchwil ac argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth y mae’r ffrwd waith yn eu defnyddio, gan gynnwys:
    •  Adroddiad ‘The Manosphere: The Black Pill and an evolving threat’, gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, sy’n datblygu ein dealltwriaeth o’r gofod ar-lein a sut y gall agweddau ac ymddygiadau niweidiol ddatblygu yno.
    • Gwerthusiadau o brosiect ‘profi a dysgu’ sy’n archwilio’r rhwystrau a’r galluogwyr o ran ymgysylltu â dynion a bechgyn er mwyn atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy ymyriadau sydd wedi’u targedu, gan Plan International UK.
    • ‘Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais’, sy’n cyfuno tystiolaeth a dealltwriaeth broffesiynol ar gefnogi dynion a bechgyn i atal trais, a gynhyrchwyd gan Uned Atal Trais Cymru, mewn partneriaeth â Plan International UK. 
  • Bydd y ffrwd waith hefyd yn defnyddio’r data ansoddol a gasglwyd drwy arolwg ymgyrch cam dau #DimArdalLwyd Cymorth i Ferched Cymru a lansiwyd ym mis Mehefin 2024. Rhagwelir y bydd canfyddiadau ar brofiad menywod o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, ei effaith ar ddioddefwyr/goroeswyr a sut mae’n effeithio ar eu hymddygiad yn y dyfodol, yn cael eu cyhoeddi’n gynnar yn 2025.
  • Mae camau i ddeall sut mae deddfwriaeth a mesurau amddiffynnol eraill sy’n ymwneud ag aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus yn cael eu gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd wedi’i oedi dros dro. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod gorgyffwrdd posib â rhan dau o Ymchwiliad annibynnol Angiolini, a allai fod yn gofyn am wybodaeth debyg gan heddluoedd. Am y tro, mae ymdrechion i symud ymlaen â’r camau hyn wedi’u hatal. Bydd hyn yn ailddechrau, fel y bo’n briodol, unwaith y bydd manylion pellach am ran dau Ymchwiliad Angiolini ar gael, gan sicrhau nad yw ymdrechion yn cael eu dyblygu. 

Gweithred 2

Datblygu dull ataliol ar draws ein systemau o fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus, er mwyn cynyddu diogelwch menywod a merched, a’u hymwybyddiaeth o ddiogelwch.

Diweddariad

  • Mae Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag aelodau’r ffrwd waith, wedi cyflawni ymarfer mapio sy’n rhoi trosolwg o’r mentrau presennol ledled Cymru sy’n ceisio atal neu ymateb i aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus. Mae’r ddogfen hon bellach ar gael i’w defnyddio yn y ffrwd waith a bydd yn ddogfen fyw i adlewyrchu datblygiadau parhaus a nodi arferion gorau a bylchau sy’n dod i’r amlwg yn y ddarpariaeth.
  • Mae’r ffrwd waith yn archwilio dichonoldeb manteisio ar chwaraeon yng Nghymru fel offeryn strategol i atal aflonyddu a thrais ar sail rhywedd, a mathau eraill o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, mewn lleoliadau chwaraeon ac mewn cymunedau yn ehangach. 
  • Ar hyn o bryd mae’r ffrwd waith yn archwilio, mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol, y broses o ddatblygu dull effeithiol sydd â’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion, y gellid ei dreialu. Mae’n ddyddiau cynnar i’r gwaith hwn ac mae’r ffrwd waith yn defnyddio gwybodaeth a’r hyn a ddysgwyd am arferion gorau o fodelau rhyngwladol i arwain a llunio’r broses.
  • Mewn ymateb i adroddiad gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, ‘Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig mewn trais ar sail rhywedd’, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ‘Cam Gweithredu 5’ yr adroddiad, sy’n canolbwyntio ar gyfrifoldebau sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. 
  • Wrth i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru drawsnewid i’r comisiwn newydd, Medr, ym mis Awst 2024, mae trafodaethau cychwynnol rhwng Tîm Polisi Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Thîm Polisi Addysg Drydyddol Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol, fel Medr, ar y gweill gyda ffocws ar nodi ffyrdd o wella ymdrechion cyfredol.
  • Bydd ymgyrch cyfathrebu cyhoeddus nesaf Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus. Cafodd y ffocws a’r briff penodol ar gyfer yr ymgyrch ei lywio gan fewnbwn gwerthfawr gan aelodau o’r ffrwd waith a phartneriaid ehangach. Mae disgwyl i’r ymgyrch gael ei lansio yng ngwanwyn 2025. 

Gweithred 3

Nodi, datblygu a gweithredu ymyriadau effeithiol sy'n galluogi pawb mewn cymdeithas i herio agweddau, credoau ac ymddygiadau sy’n dirmygu menywod, er mwyn newid y diwylliant o ddirmygu menywod ac aflonyddu sy'n bwydo camdriniaeth.

Diweddariad

  • Mae’r cynllun peilot ar sut i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol, Arwain y Newid, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bellach yn cael ei ddarparu. Mae’r cynllun peilot tair blynedd hwn yn cael ei ddarparu ledled Cymru gan Kindling Transformative Interventions a Plan International UK a bydd yn cynnwys gwerthusiad llawn. Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i helpu unigolion i adnabod arwyddion o gam-drin ac aflonyddu ac addysgu sgiliau ymarferol i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae am ddim ac yn agored i’r cyhoedd.

Gweithred 4

Adolygu a gwneud argymhellion ar gyfer dull teg o ddefnyddio ymyriadau a mentrau ym mhob asiantaeth a chymuned.

Diweddariad

  • Mae is-grŵp wedi'i sefydlu i nodi sut y gall y ffrwd waith sicrhau tegwch ym mhopeth y mae'n ei wneud.  Mae'r Canllaw a'r Pecyn Cymorth Croestoriadedd wedi'u cwblhau bellach, a fydd yn helpu i gyfrannu at hyn.

Aflonyddu yn y gweithle

Gweithred 1

Sefydlu a chynnal sylfaen dystiolaeth gadarn, gan gynnwys cofnodi profiadau bywyd o aflonyddu yn y gweithle, er mwyn deall yn well raddfa aflonyddu yn y gweithle a'r camau sy'n helpu i'w atal.

Diweddariad

  • Cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o lenyddiaeth ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle, i ystyried graddfa a difrifoldeb y broblem, yr effaith ar oroeswyr a'r elfennau croestoriadol o ran nodweddion gwarchodedig, ynghyd â dadansoddiad o'r canfyddiadau.
  • Ar ran y ffrwd waith, mae Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar sail Hil Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith ymchwil ar brofiadau menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o aflonyddu rhywiol yn y gweithle yng Nghymru. Bydd y canfyddiadau yn cefnogi Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a rhaglenni Gwaith Teg. Disgwylir i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2025.
  • Mae'r ffrwd waith wedi ymgysylltu ag ystod o bartneriaid i ddyfnhau dealltwriaeth a gwella ei dull.  Fel rhan o hyn, casglwyd gwybodaeth allweddol gan bartneriaid sydd wedi wynebu heriau, sy'n dilyn arferion addawol, ac sy'n darparu hyfforddiant arloesol.

Gweithred 2

Datblygu dull ar draws ein systemau o gefnogi atal ac ymateb yn effeithiol i aflonyddu yn y gweithle ar fenywod a merched, gan fynd i'r afael ag aflonyddu ym mhob gweithle ledled Cymru.

Diweddariad

  • Lansiodd y ffrwd waith gyfres o gynadleddau ar gyfer arweinwyr y sector cyhoeddus a phartneriaid allweddol ledled Cymru i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn y De ym mis Medi 2024.  Nod y cynadleddau, a drefnir mewn partneriaeth gymdeithasol, yw arfogi arweinwyr â gwybodaeth ac adnoddau i feithrin gweithleoedd diogel, cynhwysol, llawn parch, a chefnogi dioddefwyr, goroeswyr a chwythwyr chwiban.  Bydd y gyfres yn cynnwys arbenigwyr yn y maes, safbwyntiau sefydliadol a gwersi a ddysgwyd, lleisiau goroeswyr a mewnwelediad y gellir gweithredu arno.
  • Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn y De ym mis Medi 2024.   Rydym yn hynod ddiolchgar i'r goroeswyr a ddarparodd eu tystiolaeth bwerus yn y gynhadledd, gan sicrhau bod llais goroeswyr yn ganolog i'r diwrnod.  Chwaraeodd aelodau Panel Craffu Llais Goroeswyr y Glasbrint hefyd ran wrth gynghori ar agenda'r digwyddiad.
  • Datblygwyd cysylltiad cryf gydag Is-grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a sefydlwyd yn ddiweddar o fewn Cyngor Partneriaeth Gweithlu Cymru, gan sicrhau cysondeb a chydweithio ar fentrau allweddol wrth symud ymlaen. 

Gweithred 3

Defnyddio a gwella’r adnoddau a’r cyfryngau sydd gennym eisoes i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo arferion rhagorol a chefnogi newid gweithredol i ddileu aflonyddu yn y gweithle ar fenywod a merched, ac i wella’r ymateb yn y gweithle i bob math o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Diweddariad

  • Yn dilyn deialog gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch ei rôl fel rheoleiddiwr, llinellau atebolrwydd a sut mae hyn yn edrych yn ymarferol, mae'r ffrwd waith yn cymryd camau i ddod i ddealltwriaeth ddyfnach o rolau, cyfrifoldebau a dulliau cyfredol rheoleiddwyr eraill. 
  • Mae'r ffrwd waith wedi llunio rhestr gynhwysfawr o'r canllawiau a'r adnoddau presennol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i atal a mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle mewn un ddogfen.  Nod y cam ymarferol hwn yw hwyluso'r broses o rannu arferion gorau.   Bydd y ddogfen yn cael ei dosbarthu i ddechrau drwy'r gyfres gynadleddau.  
  • Mae'r ffrwd waith yn cymryd camau i archwilio Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ac a ellid defnyddio hyn fel ysgogiad i gynyddu'r amddiffyniad rhag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.  Mae'r Ddeddf wedi cael ei hadolygu drwy lens Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac, fel cam nesaf, bydd gwaith yn dechrau nawr ar sut y gellir dehongli'r Ddeddf a'i defnyddio i ddiogelu gweithwyr ymhellach.

Gweithred 4

Herio a chefnogi pob sefydliad ledled Cymru i fynd y tu hwnt i'w dyletswyddau cyfreithiol a gorfodol eraill a mabwysiadu safonau ymddygiad enghreifftiol yn y gweithle.

Diweddariad

  • Mae’r cynadleddau Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle sydd wedi’u hanelu at y sector cyhoeddus ledled Cymru wedi dechrau, a byddwn yn adeiladu ar yr adborth o’r digwyddiadau hyn i lywio cynlluniau ar gyfer y sector ehangach yn y dyfodol.

Mynd i'r afael â chyflawni trais

Gweithred 1

Cryfhau a gwella'r sylfeini tystiolaeth presennol a’r dadansoddiadau o anghenion o ran cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.

Diweddariad

  • Lansiwyd Arolwg Mapio Ymyriadau Cyflawni ym mis Rhagfyr 2023 am gyfnod o wyth wythnos. Mae canfyddiadau’r arolwg wedi cael eu dadansoddi a’u cynnwys mewn adroddiad ffurfiol. Mae’r adroddiad a’r argymhellion a gynhwysir ynddo wedi derbyn sêl bendith gan Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae’r adroddiad ar gael i randdeiliaid.
  • Mae’r ffrwd waith yn datblygu cyfeirlyfr ymyriadau gan ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd drwy’r arolwg. Bydd y cyfeirlyfr yn cynnwys gwybodaeth i weithwyr proffesiynol am ymyriadau sy’n mynd i’r afael â chyflawni sydd ar gael yn eu rhanbarth a ledled Cymru.
  • Mae’r ffrwd waith yn archwilio opsiynau i weithio gyda rhanddeiliaid ar gynlluniau presennol i ddatblygu dangosfwrdd data a all gynnwys gwybodaeth am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Lansiwyd ymarfer cwmpasu data gan y ffrwd waith ym mis Ebrill 2024 i ddeall pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu ar hyn o bryd ynghylch cyflawnwyr a/neu’r rhai sy’n defnyddio ymddygiadau niweidiol. Datgelodd yr ymarfer ddarlun anghyson o ran y math o wybodaeth a gasglwyd a’r asiantaethau sy’n cofnodi data yn rheolaidd. Mae angen mwy o waith i wella data ar gyflawnwyr a/neu’r rhai sy’n defnyddio ymddygiad niweidiol. 

Gweithred 2

Datblygu dull gweithredu ar draws systemau Cymru o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cwmpasu popeth o ymyrraeth ac atal yn gynnar i ymateb y maes cyfiawnder troseddol.

Diweddariad

  • Mae’r ffrwd waith yn archwilio opsiynau ar gyfer comisiynu darn o ymchwil ar fesur effeithiolrwydd ymyriadau cyflawni. Bydd yr ymchwil hon yn llywio’r gwaith o ddatblygu datganiad sefyllfa y ffrwd waith ar effeithiolrwydd a fydd yn sail i lawer o’r gwaith a wneir i gyflawni Cam Gweithredu Lefel Uchel 2. Bwriad y datganiad sefyllfa hefyd yw helpu partneriaid i fesur canlyniadau ac effeithiolrwydd y gwasanaethau y maent yn eu darparu neu’n eu comisiynu.
  • Yn dilyn adroddiad yr Arolwg Mapio Ymyriadau, mae’r ffrwd waith wedi ymrwymo i gydweithio â’r ffrwd waith Dull System Gyfan Gynaliadwy i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd ynghylch cynaliadwyedd cyllid, asesiadau anghenion a phrosesau comisiynu.

Gweithred 3

Sefydlu eglurder ynghylch cyfrifoldebau’r holl awdurdodau perthnasol o ran atal a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a chyfrifoldebau gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u datganoli.

Diweddariad

  • Bydd y ffrwd waith yn canolbwyntio ar Gam Gweithredu Lefel Uchel 3 yn 2025. Fodd bynnag, bydd yr ymarfer casglu data a’r canfyddiadau dilynol yn cefnogi’r gwaith o gyflawni yn erbyn Cam Gweithredu Lefel Uchel 3.

Gweithred 4

Cryfhau mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau i fynd i'r afael ac atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Diweddariad

  • Mae’r ffrwd waith wedi ymrwymo i weithio gyda ffrwd waith Dull System Gyfan Gynaliadwy ar ddatblygu safon ofynnol genedlaethol ar gyfer data trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd y set ddata hon yn cefnogi atebolrwydd drwy sicrhau bod awdurdodau perthnasol yn casglu data ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Dull cynaliadwy ar draws systemau

Gweithred 1

Adolygu'r arferion presennol i ddeall sut y gweithredir y canllawiau sydd gennym a sut y cyflawnir y cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2015).

Diweddariad

  • Lansiodd y ffrwd waith arolwg amlasiantaeth Cymru gyfan ym mis Chwefror 2024. Bwriad yr arolwg hwn oedd casglu gwybodaeth am gryfderau a heriau mewn nifer o feysydd gan gynnwys datblygu asesiadau o anghenion, trefniadau partneriaeth, cyflawni’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a phrosesau comisiynu.
  • Ym mis Mehefin 2024, cynhaliwyd dwy seminar wyneb yn wyneb - un yn y gogledd a’r llall yn y de - a fynychwyd gan ystod o bartneriaid. Cynhaliwyd y seminarau hyn i ategu canfyddiadau’r arolwg amlasiantaeth Cymru gyfan.
  • Mae adroddiad o ganfyddiadau’r arolwg a’r seminarau wedi’i ddrafftio a bydd yn cael ei gyfeirio at strwythur llywodraethu’r Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i’w gymeradwyo.

Gweithred 2

Adolygu ac adnewyddu'r canllawiau presennol ar gyfer datblygu asesiadau o anghenion yn ogystal â blaenoriaethu, cynllunio, dylunio, a monitro gwasanaethau i ddatblygu dull ar draws ein systemau o gomisiynu cynaliadwy.

Diweddariad

  • Mae’r ffrwd waith wedi dechrau’r gwaith cynllunio cychwynnol ar gyfer drafftio canllawiau newydd ar gyfer datblygu asesiadau anghenion. Bydd y canllawiau yn cael eu drafftio gan ddefnyddio canfyddiadau’r arolwg a’r seminarau amlasiantaeth Cymru gyfan a thrwy ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol.

Gweithred 3

Adolygu’r canllawiau presennol ynghylch caffael a grantiau mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a disgyblaethau cysylltiedig eraill, er mwyn sicrhau tegwch, arloesedd ac ansawdd wrth gynnig gwasanaethau a darpariaeth ledled Cymru.

Diweddariad

  • Bydd y ffrwd waith yn canolbwyntio ar ddrafftio canllawiau asesu anghenion cyn bwrw ymlaen â Cham Gweithredu Lefel Uchel 3.

Gweithred 4

Datblygu canllawiau i sicrhau bod strwythurau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cydlynu â’i gilydd, a bod y berthynas rhwng cynllunio lleol, darparu gwasanaethau a chomisiynu yn glir.

Diweddariad

  • Cynhaliwyd ymarfer mapio strwythurau llywodraethu partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol rhanbarthol. Datgelodd y canfyddiadau ddarlun cymhleth a oedd yn dangos llinellau adrodd aneglur rhwng gwahanol gyfarfodydd ac anghysondebau o ran ble mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn flaenoriaeth. 
  • Bydd y ffrwd waith yn defnyddio canfyddiadau’r ymarfer mapio i ddatblygu canllawiau ar bartneriaethau rhanbarthol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Gweithred 5

Datblygu Fframwaith Safonau Cenedlaethol a fydd yn rhoi arweiniad ar y gofynion ar gyfer darparu gwasanaethau da, pennu lefelau gwasanaeth gofynnol, a mynegi disgwyliadau clir ar gyfer partneriaid comisiynu i ymrwymo i'r Safonau hyn.

Diweddariad

  • Bydd y ffrwd waith yn blaenoriaethu datblygu canllawiau fel y nodir yng Nghamau Gweithredu Lefel Uchel 2, 3 a 4 cyn bwrw ymlaen â Cham Gweithredu Lefel Uchel 5. Cytunwyd bod angen cynnal gwaith sylfaenol cyn y gallwn sefydlu lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer comisiynu partneriaid i’w gweithredu ar draws rhanbarthau.

Anghenion plant a phobl ifanc

Gweithred 1

Cryfhau, gwella, a nodi bylchau mewn sylfeini tystiolaeth presennol a’r dadansoddiadau o anghenion y plant a'r bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol.

Diweddariad

  • Mae’r darn cyntaf o waith comisiwn gyda Chymorth i Ferched Cymru wedi dod i ben; mae’r adroddiad “I’m a survivor too: how can you help me?” wrthi’n cael ei ddylunio, ac mae’n gwneud argymhellion ar gyfer y Glasbrint a rhanddeiliaid ehangach. Mae’r Tîm Polisi a Chyflenwi’r Glasbrint wedi cynnal dadansoddiad o’r argymhellion a fydd yn cael eu dosbarthu i’r aelodau dros y misoedd nesaf. 
  • Disgwylir i’r ail ddarn o waith ddod i ben erbyn diwedd 2024; mae ymarfer mapio cyflym wedi’i gynnal ac mae’n amlinellu’r mecanweithiau a’r fforymau llais plant sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys y llwybr atgyfeirio. Rydym bellach yn gweithio’n agos gyda Chymorth i Ferched Cymru i sefydlu sut rydym yn ymgorffori mecanwaith yn y ffrwd waith, a bydd hyn yn cael ei atgyfnerthu gan ein Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr presennol. Mae data atgyfeirio Ymgyrch Encompass wedi’i gasglu ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer ardaloedd yr Heddlu yng Nghymru. Mae dull peilot yn cael ei gynnal yng Ngwent, yng sgil y ddyletswydd ar Brif Swyddogion yr Heddlu a gafodd ei chyflwyno drwy’r Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion yn ddiweddar i’r heddlu hysbysu ysgolion ac ati os amheuir bod plentyn yn dioddef cam-drin domestig. Mae’r cyflwyniad hwn yn diwygio Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn adran 49.
  • Cytunir nad oes llawer o dystiolaeth am Drais yn erbyn Rhieni a Cham-drin Rhieni gan Blant a’r Glasoed (CAPVA) yng Nghymru. Cafwyd cyfarfod â myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n gwneud gwaith ymchwil yn y maes hwn. Mae hyn wedi ein cynorthwyo i fireinio ein cynllun cyflawni, a rhagwelir y bydd canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu rhannu â ni yn gynnar yn 2025.
  • Mae’r ffrwd waith yn parhau i fanteisio ar ddealltwriaeth sefydliadau partner a rhanddeiliaid i gryfhau ein gwybodaeth a chydnabod gweithgarwch a chynnydd allweddol sy’n digwydd ar draws y sectorau. 

Gweithred 2

Sefydlu eglurder ynghylch cyfrifoldebau'r holl awdurdodau perthnasol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u datganoli, i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol a brofir gan blant a phobl ifanc, ymateb iddo a’i leihau.

Diweddariad

  • Cytunwyd ar broses adrodd ar gyfer y Cynllun Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion; rhaid adrodd ar gynnydd yn erbyn y cynllun o leiaf bob blwyddyn i’r ffrwd waith. Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o’r Cynllun ym mis Ionawr 2024, felly rhagwelir y byddwn yn derbyn diweddariad cynnydd cyn mis Ionawr 2025.
  • Mae cysylltiadau pellach wedi’u sefydlu gyda chydweithwyr ym mhob un o Swyddfeydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a fydd yn rhan annatod o gefnogi cam gweithredu lefel uchel 2. 

Gweithred 3

Datblygu dull ar draws systemau Cymru o ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, o wasanaethau mamolaeth a’r blynyddoedd cynnar i wasanaethau oedolion.

Diweddariad

  • Mae’r ffrwd waith wedi ymgysylltu â phob ardal Heddlu yng Nghymru i gael data atgyfeirio Ymgyrch Encompass ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol. Cydnabyddir na fydd y data ar ei ben ei hun yn sylweddol o bosib, ac nad yw ychwaith yn cynnwys carfannau mawr o blant a phobl ifanc. Felly, mae angen gwneud rhagor o waith i ddeall sut rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc yn well drwy gydol y broses hon. Ar hyn o bryd mae Gwent wrthi’n sefydlu dull peilot ar gyfer Ymgyrch Encompass a allai fod yn llwybr i’w gyflwyno’n genedlaethol.
  • Yn dilyn archwiliad cychwynnol i Drais yn erbyn Rhieni a Cham-drin Rhieni gan Blant a’r Glasoed (CAPVA), rydym yn gobeithio cyd-gynnal digwyddiad rhannu gwybodaeth gyda Phrifysgol Caerdydd yn hydref 2025.
  • Fel yr amlinellwyd yng ngham gweithredu lefel uchel 2, mae ffrwd waith Anghenion Plant a Phobl Ifanc yn atebol am adrodd yn flynyddol ar gynnydd y Cynllun Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion; rydym yn rhagweld y byddwn yn cael y diweddariad cyntaf cyn mis Ionawr 2025. 

Gweithred 4

Cryfhau mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gwmpasu ymatebion, prosesau archwilio, arolygu, a monitro grantiau.

Diweddariad

  • Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn y Glasbrint yn 2024 i fapio strwythurau llywodraethu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Rhanbarthol ledled Cymru, yn ogystal â mapio blaenoriaethau ar gyfer darnau eraill o ddeddfwriaeth (Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol). Yn ogystal, disgwylir i fecanwaith Llais plant a phobl ifanc gael ei weithredu yn y Glasbrint erbyn diwedd 2024; bydd y ddau ddarn hyn o waith yn sail i ni gryfhau mecanweithiau atebolrwydd yng Nghymru o ran anghenion plant a phobl ifanc. 
  • Er mwyn deall sut mae asesiadau anghenion poblogaeth yn cael eu defnyddio i nodi gofynion plant a phobl ifanc yn rhanbarthol, byddwn yn gweithio’n agos gyda ffrwd waith Dull System Gyfan Gynaliadwy sydd wedi cynnal cyfres o seminarau yn ddiweddar yn archwilio asesiadau anghenion rhanbarthol a chynllunio strategol. 

Anghenion pobl hŷn

Gweithred 1

Cryfhau a gwella'r sylfeini tystiolaeth presennol a nodi'r bylchau er mwyn gwella’r wybodaeth am gam-drin pobl hŷn a’r ddealltwriaeth ohono, ynghyd â'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

Diweddariad

  • Mae Dewis Choice a New Pathways wedi bod yn gweithio gyda’u defnyddwyr gwasanaeth i gasglu mewnwelediadau a phrofiadau byw i ddeall sut gall gwasanaethau fod yn fwy hygyrch i bobl hŷn. Mae’n hynod bwysig i’r ffrwd waith fod llais goroeswyr wrth wraidd datblygiadau polisi, a bydd adborth yn rhan annatod o’r datblygiadau yn y Glasbrint. Ym mis Mehefin 2024, roedd Dewis Choice wedi casglu naw llais goroeswr fel rhan o’r gweithgaredd ymgysylltu hwn. Rhannwyd y canfyddiadau thematig gydag aelodau’r ffrwd waith ym mis Medi 2024, ac mae’r canfyddiadau’n cael eu halinio â gwaith ymgysylltu â gwasanaethau i gynhyrchu ffeithluniau arferion gorau.
  • Cynhaliwyd sgyrsiau gydag academyddion ar ddiwedd 2023 i archwilio meysydd pwnc fel ‘Niwed i Ofalwyr’. Mae’n amlwg bod llawer mwy o ymchwil i’w wneud; mae’r ffrwd waith yn parhau i rannu digwyddiadau, gweminarau a hyfforddiant perthnasol i uwchsgilio partneriaid a gwella cydnabyddiaeth. 
  • Mae’r ffrwd waith yn parhau i chwilio am setiau data perthnasol i adeiladu ein darlun o bobl hŷn yng Nghymru y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt. Mae’r Uned Atal Trais yn llunio adroddiad blynyddol sy’n casglu data o amrywiaeth o ffynonellau, a gellir ei ddefnyddio wrth symud ymlaen i gefnogi ein gwaith. 

Gweithred 2

Datblygu dull gweithredu ar draws systemau Cymru sy'n sicrhau eglurder a chydlyniant rhwng gwasanaethau diogelu a gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Diweddariad

  • Mae’r ffrwd waith yn dechrau archwilio’r defnydd o asesiadau risg DASH, MARAC a’r perthnasedd i bobl hŷn wrth bennu achosion risg uchel. Ein huchelgais yw creu teclyn wedi’i addasu sy’n mynd i’r afael ag anghenion pobl hŷn; byddai hyn yn cael ei ystyried yn y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol. Mae aelodau wedi’u nodi ar gyfer grŵp gorchwyl a gorffen, ynghyd â phartneriaid cydweithredol allweddol.
  • Mae’r cam gweithredu lefel uchel hwn hefyd yn cyd-fynd â’r canllawiau Diogelu Pobl Hŷn yng Nghymru; mae disgwyl i hwn gael ei ddiweddaru a bydd gan y ffrwd waith fewnbwn i hyn. Mae’r cysylltiadau perthnasol ym maes Diogelu wrthi’n cael eu nodi er mwyn datblygu hyn. 
  • Mae’r ffrwd waith yn parhau i ymgysylltu â’r Cynghorwyr Rhanbarthol ledled Cymru ac mae’n gweld budd mawr o’r mewnbwn hwn. Yn ddiweddar gwnaed gwaith y tu allan i’r ffrwd waith sy’n edrych ar gyfansoddiad Byrddau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol rhanbarthol, a bydd hyn yn cael ei ymestyn i sefydlu a yw aelodaeth o’r Byrddau yn cynnwys cyrff penodol sy’n cefnogi pobl hŷn. 

Gweithred 3

Cynyddu’r gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma sydd ar gael i bobl hŷn, yn oroeswyr ac yn rhai sy’n cam-drin eraill, a’u gwneud yn fwy addas, gan gydnabod eu hanghenion amrywiol yn ddigonol.

Diweddariad

  • Yn dilyn cwblhau gwaith mapio gwasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau ymgysylltu lled-ffurfiol gyda detholiad o’r gwasanaethau hyn. Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i ddeall sut mae’r gwasanaethau hyn yn darparu ar gyfer pobl hŷn yn benodol. Daeth y sesiynau ymgysylltu i ben ym mis Gorffennaf 2024, a chasglwyd a rhannwyd y canfyddiadau thematig gydag aelodau yn ffrwd waith mis Medi. Bydd ffeithlun yn cael ei greu yn ystod y misoedd nesaf a bydd hyn yn tynnu sylw at arferion gorau y gellir eu rhannu ar draws gwasanaethau i barhau i wella gwelededd, hygyrchedd, a pherthnasedd gwasanaethau i bobl hŷn. Bydd y cynnwys yn cael ei gymhwyso drwy sicrhau bod aelodau’r ffrwd waith a’r rhai sydd â phrofiadau byw yn gallu adolygu’r arferion gorau er mwyn sicrhau eu bod yn briodol i’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau.
  • Mae’r hyfforddiant sydd ar gael yn parhau i gael ei rannu a’i ddosbarthu i aelodau er mwyn sicrhau cyfleoedd ar gyfer rhannu gwybodaeth ac uwchsgilio. 
  • Mae’r ffrwd waith wedi ymgysylltu â Chymorth i Ferched Cymru fel deiliad contract “hyfforddi’r hyfforddwyr” ar gyfer Gofyn a Gweithredu. Cynhaliodd Cymorth i Ferched Cymru sesiwn sbotolau gyda’r ffrwd waith yn amlinellu sut y gellir addasu eu hadnoddau i weddu i anghenion sefydliadau penodol a grwpiau targed. Mae mecanwaith adborth ar gael ar gyfer addasiadau pellach. 
  • Yn ogystal â’r safbwyntiau a gafwyd gan Dewis Choice, mae aelodau’r ffrwd waith yn parhau i gynllunio ffyrdd o gasglu llais goroeswyr hŷn i’n hysbysu am ein gweithredoedd a’n cyflawniad; mae hyn yn ychwanegol at gefnogaeth a gwaith craffu Panel Llais Goroeswyr y Glasbrint. 

Gweithred 4

Rhoi blaenoriaeth i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth penodol a dylanwadu arnynt, er mwyn cynyddu’r gydnabyddiaeth i gamdriniaeth ymhlith pobl hŷn, gwybodaeth am y broblem a dealltwriaeth ohoni.

Diweddariad

  • Mae’r Glasbrint yn parhau i rannu ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth sy’n berthnasol i bobl hŷn gydag aelodau’r ffrydiau gwaith a rhanddeiliaid ehangach. Mae hyn yn cynnwys nodweddion fel yr animeiddiad “Hidden Harms” (Iaith Arwyddion Prydain) a grëwyd gan Dewis Choice a Bwrdd Diogelu Oedolion Norfolk.
  • Mae’r ffrwd waith wedi cydweithio â HOPE Age Cymru er mwyn cyflwyno yn y Digwyddiad Eiriolaeth Mawr ar 11 Tachwedd, yn ogystal â’r Dull System Gyfan Gynaliadwy. Roedd y fforwm hwn yn caniatáu i ni glywed am arferion gorau yn uniongyrchol gan eiriolwyr, ac yn ein helpu i lywio ein gwaith wrth symud ymlaen.