Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynnydd yn erbyn cynllun gweithredu lefel uchel glasbrint 2023
Yr hyn rydym wedi’i gyflawni ers cyhoeddi ein cynllun gweithredu lefel uchel glasbrint ym mis Mawrth 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Mae mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a beth sydd wrth ei wraidd, yn gymhleth ac yn heriol ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth ddileu pob math o ohono. Rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymrwymiad a ddangoswyd eisoes gan yr holl bartneriaid a goroeswyr sy'n rhan o symud y gwaith hwn ymlaen. Gyda'n gilydd, mae gennym gyfle i ddylanwadu ar newidiadau hirdymor, cadarnhaol i gymdeithas i ddileu'r diwylliant misogynistaidd a llunio a llywio polisïau ac arferion sy'n cael gwared ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Rhaglen Lefel Uchel Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), i nodi sut y byddai'r dull partneriaeth y Glasbrint yn llwyddo o ran amcanion Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022 i 2026. Gwnaethom addewid i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd sy'n cael ei wneud drwy'r Glasbrint ym mis Hydref 2023.
Mae'r Glasbrint yn cefnogi dull partneriaeth o gyflawni yn erbyn ein hamcanion Strategol Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV. Mae'n ceisio dylanwadu ar ddatblygiadau polisi a gwasanaethau ar sail cyfraniadau gan oroeswyr, tystiolaeth ac arfer gorau. Bydd tîm Polisi Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar ei ddyletswyddau arferol fel darparu cyllid i Fyrddau Rhanbarthol a gwasanaethau arbenigol, ac adeiladu ar arfer da i gefnogi menywod a merched sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Blaenoriaeth tîm cyflenwi'r Glasbrint dros y chwe mis diwethaf fu ei roi ar waith. Mae llawer iawn o egni ac amser wedi cael ei fuddsoddi gan bawb i ddarparu sylfeini cryf. Drwy neilltuo amser i ddeall rolau a chyfrifoldebau ar draws y bartneriaeth Glasbrint, cryfhau'r berthynas â rhanddeiliaid a sefydlu arweinyddiaeth ac aelodaeth y ffrwd waith galluogwyd tîm Cyflawni'r Glasbrint i weithio gyda phartneriaid i lunio blaenoriaethau allweddol a thrywydd ffrydiau gwaith cynlluniau cyflenwi, a chytuno arnynt.
Rydym bellach wedi symud o'r cyfnod gweithredu i'r cam cyflawni, a hoffem gydnabod mewnbwn partneriaid ar bob lefel sydd wedi cyfrannu at y cynnydd yr ydym wedi'i wneud.
Rydym yn arbennig o falch ein bod wedi gallu datblygu darnau allweddol o waith sy'n darparu cysondeb a ffocws gyda'n gilydd.
Rydym yn ddiolchgar am y gwaith a wnaed gan y Tîm Glasbrint i ymgynghori ar ein Damcaniaeth Newid o ran VAWDASV a'i datblygu, gan ddarparu eglurder o ran y newid rydym yn disgwyl i'n cydymdrechion ei wireddu. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn cynnal adolygiad o'r Dangosyddion Cenedlaethol gyda goroeswyr, rhanddeiliaid a phartïon â diddordeb, ac yn nodi wedyn sut i fesur llwyddiant. Bydd y mesurau llwyddiant yn cwmpasu nid yn unig y gweithgarwch Glasbrint, sy'n ymwneud â'r hyn y byddwn yn ei wneud yn wahanol, ond hefyd ein gwaith presennol i ddileu VAWDASV a chefnogi goroeswyr. Yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cynghorwyr Cenedlaethol VAWDASV a byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol VAWDASV Llywodraeth Cymru cyn bo hir, a fydd yn ymdrin â gweithgarwch a gyflawnwyd yn ystod 2022 i 2023.
Rydym wedi'n calonogi bod y panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr bellach wedi'i sefydlu gydag 8 aelod ar y panel, pob un â phrofiad o gam-drin domestig neu drais rhywiol. Bydd eu cyfraniadau yn amhrisiadwy wrth helpu'r ffrydiau gwaith i lunio polisi ac ymarfer wrth symud ymlaen.
Mae ein dealltwriaeth o'r sylfaen dystiolaeth wedi dod yn fwy gwybodus, gyda phob ffrwd waith yn casglu tystiolaeth ac yn mapio gwasanaethau, a bydd canlyniadau eu gwaith i'w gweld wrth iddo ddod i ben yn y chwarter nesaf. O ganlyniad i'r gweithgarwch hwn, mae ein dealltwriaeth o gyd-ddibyniaeth rhaglenni â'i gilydd wedi'i atgyfnerthu. Bydd hyn yn osgoi dyblygu diangen ac yn gwella effeithlonrwydd.
Yn ogystal â'r broses o adrodd yn erbyn cynlluniau cyflenwi ffrydiau gwaith, mae nifer o gamau / dulliau gweithredu â blaenoriaeth yn parhau i gael eu datblygu. Byddwn yn adrodd ar eu cynnydd yn ein diweddariad Gweinidogol nesaf. Mae pob un o'r rhain yn hanfodol i sicrhau bod ein dull gweithredu yn wirioneddol gynhwysol ac yn ymateb i anghenion pob dioddefwr.
- Dangosyddion a Mesurau Cenedlaethol
- Strategaeth Cyfathrebu a phecyn cymorth
- Dull gweithredu croestoriadol
Unwaith eto, hoffem estyn ein diolch i'r rhai sy'n arwain ar gyflawni, ein panel goroeswyr ac i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ymroddedig sy'n allweddol i lwyddiant. Credwn ein bod yn gwireddu disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy ddefnyddio'n model partneriaeth gan felly roi'r cyfle gorau i'n hunain o gyflawni ein huchelgais i ddod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben.
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu gyda Heddlu Dyfed-Powys (ar ran Plismona yng Nghymru).
(Cyd-gadeiryddion Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais a Cham-drin).
Aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus
Gweithred 1
Cryfhau a gwella'r sylfaen dystiolaeth o ran atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus, a diogelwch menywod a merched mewn mannau cyhoeddus, er mwyn deall graddau’r broblem, yr hyn sy’n ei achosi ac ymyriadau effeithiol.
Diweddariad
- Cwblhawyd adolygiad llenyddiaeth gan Dîm Polisi Trais a Cham-drin Llywodraeth Cymru.
- Mae Canolfan ACE Cymru wedi cynnal adolygiad cyflym o'r dystiolaeth bresennol, ‘Aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus: adolygiad o’r dystiolaeth’.
- Mae Canolfan ACE Cymru wedi cytuno i gynnal adolygiad cyflym ar wahân i ganolbwyntio’n benodol ar y llenyddiaeth bresennol yn ymwneud ag aflonyddu ar sail rhyw ar-lein.
- Mae ymchwil ar y manosffer, ei effaith a'i ystyriaethau, yn cael ei chasglu ynghyd mewn adroddiad gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
- Mae'r Uned Atal Trais wedi rhannu eu hadroddiad diweddar 'Casglu Mewnwelediadau Ymddygiadol ar gyfer Atal Aflonyddu Rhywiol' yn y Glasbrint. Cynhaliwyd yr ymchwil hon i ddeall yn well beth sy’n rhwystro a beth sy’n hwyluso dynion o ran ymyrryd pan fyddant yn dyst i aflonyddu rhywiol neu ymddygiad rhywiol problemus, ac mae'n canolbwyntio ar ddynion 18 i 54 oed sy'n byw neu'n cymdeithasu yn ne Cymru.
- Mae Cowshed Media wedi cytuno i rannu gwybodaeth am y sail dystiolaeth ar gyfer cysyniad a dull gweithredu ymgyrch IAWN Llywodraeth Cymru, yr hyn a ddysgwyd gan grwpiau ffocws ac arolwg yr ymgyrch, a rhannu gwybodaeth yn y dyfodol o arolygon a gwerthusiadau ymgyrchu.
- Mae Plan UK yn ariannu prosiectau profi a dysgu gyda sefydliadau sy'n darparu ymyriadau/gweithgareddau gyda bechgyn a dynion ifanc a allai helpu i leihau Trais a Cham-drin. Mae Plan UK wedi comisiynu'r Uned Atal Trais i gynnal adolygiad llenyddiaeth ar Beth sy'n Gweithio i Ymgysylltu Dynion a Bechgyn wrth Atal Trais. Mae'r astudiaeth hon hefyd yn cynnwys arolwg mapio a gynhaliwyd yng Nghymru, a grwpiau ffocws gyda'r prosiectau profi a dysgu.
- Mae Heddlu Gogledd Cymru, ar ran y pedwar heddlu yng Nghymru, wedi casglu gwybodaeth am y ddeddfwriaeth, y pwerau a'r gorchmynion deddfwriaethol a sifil presennol mewn perthynas ag aflonyddu ar sail rhyw ym mhob man cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyn yn cefnogi gwaith i ddeall sut y caiff deddfwriaeth a mesurau diogelu eraill eu defnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gweithred 2
Datblygu dull ataliol ar draws ein systemau o fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus, er mwyn cynyddu diogelwch menywod a merched, a’u hymwybyddiaeth o ddiogelwch.
Diweddariad
- Mae grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu i gwblhau ymarfer mapio; mapio'r mentrau cenedlaethol, rhanbarthol, lleol, cymunedol, y partneriaethau, y cynlluniau peilot a’r cynlluniau amlwg cyfredol ledled Cymru a'r DU sy'n cefnogi atal, ac ymateb priodol i, aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus, i nodi arferion gorau a bylchau yn y ddarpariaeth.
- Sefydlwyd cysylltiadau newydd gyda rhanddeiliaid allweddol, megis Trafnidiaeth Cymru a Pholisi Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, er mwyn nodi ac ymateb i gyfleoedd newydd i gydlynu a datblygu camau gweithredu ledled Cymru.
- Trafodaethau parhaus gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddarparu canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer Prifysgolion Cymru, a fydd yn cefnogi creu amgylcheddau addysg uwch diogel, cynhwysol a chefnogol a sicrhau bod sefydliadau'n gweithredu mesurau effeithiol i atal ac ymateb i aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus a mathau eraill o drais a cham-drin.
Gweithred 3
Nodi, datblygu a gweithredu ymyriadau effeithiol sy'n galluogi pawb mewn cymdeithas i herio agweddau, credoau ac ymddygiadau sy’n dirmygu menywod, er mwyn newid y diwylliant o ddirmygu menywod ac aflonyddu sy'n bwydo camdriniaeth.
Diweddariad
- Mae cysylltiad wedi'i sefydlu gyda Kindling Interventions er mwyn manteisio ar y dysgu o'u rhaglen ymyrraeth gwylwyr a dysgu o'u gwerthusiad yn y dyfodol o Fenter Ymyrraeth Genedlaethol Gwylwyr.
- Bydd gwersi yn cael eu dysgu o ganfyddiadau Plan UK o brosiectau profi a dysgu gyda sefydliadau sy'n darparu ymyriadau/gweithgareddau i fechgyn a dynion ifanc a allai helpu i leihau trais a cham-drin.
- Mae gwaith wedi dechrau i fapio mentrau ac ymyriadau ar draws Cymru a nodwyd drwy 'yr hyn rydyn ni'n gwybod sy'n gweithio' sy’n dangos, a bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach i greu cipolwg o’r ddarpariaeth bresennol yng Nghymru.
Gweithred 4
Adolygu a gwneud argymhellion ar gyfer dull teg o ddefnyddio ymyriadau a mentrau ym mhob asiantaeth a chymuned.
Diweddariad
- Mae Heddlu Gogledd Cymru yn arwain ar gamau gweithredu ar draws y pedwar Heddlu yng Nghymru i archwilio'r defnydd gorau o ddadansoddiadau ar lefel ardaloedd cynnyrch ehangach haen is i gydnabod patrymau mewn troseddau a gofnodwyd, digwyddiadau ac ymddygiad problemus arall mewn perthynas ag aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus.
Aflonyddu yn y gweithle
Gweithred 1
Sefydlu a chynnal sylfaen dystiolaeth gadarn, gan gynnwys cofnodi profiadau bywyd o aflonyddu yn y gweithle, er mwyn deall yn well raddfa aflonyddu yn y gweithle a'r camau sy'n helpu i'w atal.
Diweddariad
- Mae Tîm Polisi Trais a Cham-drin Llywodraeth Cymru wedi dechrau adolygiad cyflym o'r ffynonellau presennol er mwyn deall yn well, achosion ac effaith aflonyddu ar sail rhyw yn y gweithle. Bydd hyn yn cael ei gyflawni mewn pedwar cam. Mae cam un, adolygiad llenyddiaeth, wedi'i gwblhau.
- Mae is-grŵp wedi’i greu i bennu’r camau nesaf ar gyfer camau gweithredu ar sail ymchwil.
Gweithred 2
Datblygu dull ar draws ein systemau o gefnogi atal ac ymateb yn effeithiol i aflonyddu yn y gweithle ar fenywod a merched, gan fynd i'r afael ag aflonyddu ym mhob gweithle ledled Cymru.
Diweddariad
- Cynhaliwyd digwyddiad peilot i rannu arferion er mwyn ennyn diddordeb arweinwyr yng Nghymru, codi ymwybyddiaeth o Drais a Cham-drin ac aflonyddu yn y gweithle a rhannu arferion gorau. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn rhithiol ac fe’i mynychwyd gan uwch arweinwyr o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, AS, wedi eiriol dros ddiwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 i gynnwys darpariaeth mewn perthynas â diogelu gweithwyr a dyletswyddau cyflogwyr drwy'r Bil Diogelu Gweithwyr.
Gweithred 3
Defnyddio a gwella’r adnoddau a’r cyfryngau sydd gennym eisoes i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo arferion rhagorol a chefnogi newid gweithredol i ddileu aflonyddu yn y gweithle ar fenywod a merched, ac i wella’r ymateb yn y gweithle i bob math o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Diweddariad
- Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen gyda'r diben o sefydlu'r camau cychwynnol i ddechrau ymarfer mapio ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, i gasglu gwybodaeth am ba arferion da ac offer sydd eisoes yn bodoli, neu sy'n cael eu datblygu, ar lefel genedlaethol, yn rhyngwladol ac yn lleol mewn perthynas ag atal ac ymateb i aflonyddu ar sail rhyw a mathau eraill o drais a cham-drin yn y gweithle.
- Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol gyda Beyond Equality, sefydliad elusennol sy'n arbenigo mewn gweithio gyda dynion a bechgyn, gan gynnwys yn y gweithle, ynghylch cydraddoldeb rhyw a gwrywdod iach er mwyn creu newid diwylliannol cadarnhaol ac atal Trais a Cham-drin. Mae trafodaethau cynnar eisoes wedi arwain at randdeiliaid yn cynnal gweithdai peilot drwy Beyond Equality.
Gweithred 4
Herio a chefnogi pob sefydliad ledled Cymru i fynd y tu hwnt i'w dyletswyddau cyfreithiol a gorfodol eraill a mabwysiadu safonau ymddygiad enghreifftiol yn y gweithle.
Diweddariad
- Bydd y cam hwn yn cael ei ddatblygu’n llawn unwaith y bydd y ffrwd waith mewn sefyllfa i wneud argymhellion.
- Fel cam cychwynnol, mae ymholiadau'n cael eu gwneud i’r modd y gall Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 fod yn berthnasol i godau ymddygiad yn y sector cyhoeddus.
Mynd i'r afael â chyflawni trais
Gweithred 1
Cryfhau a gwella'r sylfeini tystiolaeth presennol a’r dadansoddiadau o anghenion o ran cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.
Diweddariad
- Mae'r ffrwd waith wedi ehangu ei haelodaeth i gynnwys cynrychiolaeth academaidd a darparwyr arbenigol yn y sector i gefnogi gyda datblygu sylfaen dystiolaeth.
- Gwnaed cynnydd o ran llunio map ymyrraeth Cymru gyfan i’r rhai sy’n cyflawni trais neu gam-drin i gasglu gwybodaeth am ymyriadau statudol a thrydydd sector. Mae'r ffrwd waith wrthi’n cwblhau'r templed ar gyfer yr ymarfer mapio a phenderfynu pa feddalwedd i'w defnyddio i lansio'r arolwg, gyda'r bwriad o fynd yn fyw yn yr hydref. Mae hwn yn ddarn sylweddol o waith sydd wedi cymryd llawer o sylw ac adnoddau'r ffrwd waith.
- Mae'r ffrwd waith yn cynllunio ar gyfer datblygu dangosfwrdd data cyflawniad Cymru gyfan, a fydd yn canolbwyntio i ddechrau ar gasglu ac arddangos data cyfiawnder troseddol.
Gweithred 2
Datblygu dull gweithredu ar draws systemau Cymru o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cwmpasu popeth o ymyrraeth ac atal yn gynnar i ymateb y maes cyfiawnder troseddol.
Diweddariad
- Mae papur wedi'i ddatblygu sy'n rhoi trosolwg o ddeddfwriaeth, polisïau a chanllawiau perthnasol ar gyfer Trais a Cham-drin a chyflawni trais.
- Gwnaed cysylltiadau trawslywodraethol rhwng timau Trais a Cham-drin a Chyfathrebu a rhanddeiliaid allweddol allanol eraill i archwilio cyfleoedd ar gyfer dadansoddi a defnyddio canfyddiadau ymgyrchoedd cyfathrebu sy'n canolbwyntio ar atal wedi'u targedu at ddynion a bechgyn.
- Mae'r ffrwd waith yn gweithio gyda ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau i gynnwys cwestiynau am ymatebion i gyflawni trais yn yr ymgynghoriad maent yn ei ddatblygu.
Gweithred 3
Sefydlu eglurder ynghylch cyfrifoldebau’r holl awdurdodau perthnasol o ran atal a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a chyfrifoldebau gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u datganoli.
Diweddariad
- Mae arweinwyr polisi'r ffrwd waith a rheolwr cyflawni’r prosiect wedi cyfarfod i ddechrau gwaith pennu cwmpas ar gyfer y cam hwn.
Gweithred 4
Cryfhau mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau i fynd i'r afael ac atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Diweddariad
- Mae'r ffrwd waith yn cydnabod bod cyd-ddibyniaethau sylfaenol â ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau a bydd yn ymgymryd â gwaith ar hyn pan fydd y ddwy ffrwd waith mewn sefyllfa i gydweithio.
Dull cynaliadwy ar draws systemau
Gweithred 1
Adolygu'r arferion presennol i ddeall sut y gweithredir y canllawiau sydd gennym a sut y cyflawnir y cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2015).
Diweddariad
- Cynhaliwyd sesiwn ymgynghori gydag Ymgynghorwyr Rhanbarthol i ofyn eu barn am yr heriau a'r rhwystrau i weithredu'r Ddeddf Trais a Cham-drin yn ogystal â llwyddiannau cyfredol.
- Mae fframwaith ymgynghori cenedlaethol ehangach yn cael ei ddatblygu gyda'r bwriad o'i lansio yn yr hydref. Bydd yr ymgynghoriad yn mabwysiadu dull cymysg drwy ddefnyddio arolygon a sesiynau ymgysylltu wedi'u targedu gyda grwpiau rhanddeiliaid allweddol. Mae hwn yn ddarn sylweddol o waith ac mae wedi bod yn flaenoriaeth ganolog i'r ffrwd waith.
- Mae aelodaeth y ffrwd waith wedi ehangu i sicrhau bod golwg a dealltwriaeth gynhwysfawr o'r dirwedd bresennol ar gyfer gweithredu canllawiau a darpariaeth bresennol o ran y Ddeddf Trais a Cham-drin.
- Mae'r ffrwd waith wedi datblygu perthynas waith gadarnhaol gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae'n archwilio cyfleoedd pellach ar gyfer cydweithredu ar ei raglen waith.
Gweithred 2
Adolygu ac adnewyddu'r canllawiau presennol ar gyfer datblygu asesiadau o anghenion yn ogystal â blaenoriaethu, cynllunio, dylunio, a monitro gwasanaethau i ddatblygu dull ar draws ein systemau o gomisiynu cynaliadwy.
Diweddariad
- Mae papur wedi'i ddrafftio sy'n darparu trosolwg a chrynodeb cynhwysfawr o ddeddfwriaeth, polisïau a chanllawiau allweddol ar gyfer dull system gyfan o ymdrin â Thrais a Cham-drin.
Gweithred 3
Adolygu’r canllawiau presennol ynghylch caffael a grantiau mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a disgyblaethau cysylltiedig eraill, er mwyn sicrhau tegwch, arloesedd ac ansawdd wrth gynnig gwasanaethau a darpariaeth ledled Cymru.
Diweddariad
- Bydd yn cael ei ddatblygu unwaith y bydd yr ymgynghoriad cenedlaethol wedi'i gwblhau.
Gweithred 4
Datblygu canllawiau i sicrhau bod strwythurau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cydlynu â’i gilydd, a bod y berthynas rhwng cynllunio lleol, darparu gwasanaethau a chomisiynu yn glir.
Diweddariad
- Bydd yn cael ei ddatblygu unwaith y bydd yr ymgynghoriad cenedlaethol wedi'i gwblhau.
Gweithred 5
Datblygu Fframwaith Safonau Cenedlaethol a fydd yn rhoi arweiniad ar y gofynion ar gyfer darparu gwasanaethau da, pennu lefelau gwasanaeth gofynnol, a mynegi disgwyliadau clir ar gyfer partneriaid comisiynu i ymrwymo i'r Safonau hyn.
Diweddariad
- Mae'r ffrwd waith wedi cytuno bod angen datblygu diffiniad ar y cyd o'r Fframwaith Safonau Cenedlaethol.
- Bydd y Fframwaith Safonau Cenedlaethol yn cael ei lywio, yn rhannol, gan ymatebion o'r ymgynghoriad a phum ffrwd waith arall y Glasbrint Trais a Cham-drin.
Anghenion plant a phobl ifanc
Gweithred 1
Cryfhau, gwella, a nodi bylchau mewn sylfeini tystiolaeth presennol a’r dadansoddiadau o anghenion y plant a'r bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol.
Diweddariad
- Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi'u comisiynu i ymgymryd â dau ddarn o waith a fydd yn llywio cwmpas a chyfeiriad y ffrwd waith yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys adolygiad cyflym o'r dystiolaeth bresennol, a mapio’r gwasanaethau sydd ar gael yng Nghymru. Bydd y darn canlynol o waith yn cynnwys llais plant a phobl ifanc yn y ffrwd waith.
- Casglwyd data ar Ymgyrch Encompass ar draws pedair ardal yr Heddlu. Byddwn yn defnyddio'r data hwn i ddeall y profiadau a'r cymorth a gynigir i blant a phobl ifanc drwy'r broses, a byddwn yn ystyried yr heriau sy'n gysylltiedig ag Ymgyrch Encompass. Bydd canlyniadau'r cam gweithredu hwn yn cefnogi dull systemau cyfan ledled Cymru.
Gweithred 2
Sefydlu eglurder ynghylch cyfrifoldebau'r holl awdurdodau perthnasol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u datganoli, i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol a brofir gan blant a phobl ifanc, ymateb iddo a’i leihau.
Diweddariad
- Mae cysylltiadau trawslywodraethol wedi'u sefydlu gydag Addysg a Diogelu.
- Mae cyd-ddibyniaethau rhwng y Cynllun Aflonyddu Rhywiol gan Gymheiriaid yn y broses o gael eu sefydlu.
- Dyrannwyd camau gweithredu unigol fel sy'n briodol i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac mae'r ffrwd waith yn anelu at ymgysylltu â'r cydweithwyr Iechyd perthnasol.
Gweithred 3
Datblygu dull ar draws systemau Cymru o ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, o wasanaethau mamolaeth a’r blynyddoedd cynnar i wasanaethau oedolion.
Diweddariad
- Mae gwaith wedi dechrau ar ddeall proses ac effaith Ymgyrch Encompass ledled Cymru drwy ddefnyddio data atgyfeirio. Bydd hyn yn cael ei ymestyn i nodi cyfleoedd hyfforddi ac uwchsgilio i ddarparwyr addysg. Bydd gwybodaeth a gwersi a ddysgir yn bwydo i mewn i ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau.
Gweithred 4
Cryfhau mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gwmpasu ymatebion, prosesau archwilio, arolygu, a monitro grantiau.
Diweddariad
- Cyfrannwyd mewnbwn ar dirwedd leol, arferion da a materion eraill gan yr Ymgynghorwyr Rhanbarthol.
- Mae Pecyn Offer Addysgol Trais a Cham-drin i'w ddiweddaru.
Anghenion pobl hŷn
Gweithred 1
Cryfhau a gwella'r sylfeini tystiolaeth presennol a nodi'r bylchau er mwyn gwella’r wybodaeth am gam-drin pobl hŷn a’r ddealltwriaeth ohono, ynghyd â'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt.
Diweddariad
- Mae aelodau wedi dechrau edrych ar y mecanweithiau presennol yn eu sefydliadau i gynnwys llais pobl hŷn i lunio a rhoi cyfeiriad i’n gwaith.
- Mae aelodau wedi amlygu darnau presennol o ymchwil a gwaith i nodi bylchau mewn gwybodaeth.
- Nodwyd data sy'n ymwneud â phobl hŷn sy'n rhoi cipolwg ar bobl hŷn cyfredol mewn gwasanaethau trais rhywiol (gan gynnwys oedran ar y pryd y digwyddodd y cam-drin, oedran wrth ddatgelu, rhyw, ethnigrwydd, lleoliad daearyddol). Mae'r data hwn yn chwalu rhai mythau ynghylch pobl hŷn a thrais rhywiol, ac mae'n dangos yn glir bod dioddefwyr trais rhywiol yn aml yn aros degawdau cyn datgelu.
Gweithred 2
Datblygu dull gweithredu ar draws systemau Cymru sy'n sicrhau eglurder a chydlyniant rhwng gwasanaethau diogelu a gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Diweddariad
- Mae cysylltiadau trawslywodraethol wedi'u sefydlu gyda Diogelu a Thîm Trais a Cham-drin, yn ogystal â'r cyd-gadeirydd Philip Mulraney.
- Mae'r ffrwd waith wedi cysylltu â Chynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gam-drin pobl hŷn.
- Cyfraniad a chydweithio gyda'r Ymgynghorwyr Rhanbarthol Trais a Cham-drin ynghylch y dirwedd a materion lleol.
- Mae mapio cynhwysfawr o Fyrddau Cenedlaethol a Rhanbarthol yng Nghymru sy'n ymwneud â phobl hŷn wedi'i gwblhau gyda'r bwriad o sicrhau bod cyd-dibyniaethau'n cael eu hamlygu'n glir.
Gweithred 3
Cynyddu’r gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma sydd ar gael i bobl hŷn, yn oroeswyr ac yn rhai sy’n cam-drin eraill, a’u gwneud yn fwy addas, gan gydnabod eu hanghenion amrywiol yn ddigonol.
Diweddariad
- Mae gwaith mapio cynhwysfawr o wasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn ar y gweill. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau goroeswr a chyflawnwyr ledled Cymru, ac a yw'r gwasanaeth yn benodol i drais a cham-drin a phobl hŷn. Mae'r camau nesaf ar gyfer y gwaith hwn wedi'u sefydlu gan gynnwys ymgysylltu â gwasanaethau wedi'u mapio a defnyddwyr gwasanaethau.
- Sefydlwyd cyswllt trawslywodraethol gyda'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol.
- Mae gwaith monitro data ar gyfer pob Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi'i gasglu mewn perthynas â demograffeg defnyddwyr gwasanaeth o fewn gwasanaethau a gomisiynwyd. Bydd y data'n cael ei ddefnyddio i nodi bylchau a thueddiadau o fewn y gwasanaethau a gomisiynwyd.
- Mae'r ffrwd waith wedi tynnu sylw at y ffaith y gallai adolygu Gofyn a Gweithredu fod o fudd i asesu a yw'r deunyddiau hyfforddi yn berthnasol i bobl hŷn. Yn ogystal, mae'r ffrwd waith wedi trafod yr angen i adolygu hyfforddiant diogelu, ac o bosibl adolygu Adolygiadau Dynladdiad Domestig i ganfod faint oedd yn cynnwys pobl hŷn.
Gweithred 4
Rhoi blaenoriaeth i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth penodol a dylanwadu arnynt, er mwyn cynyddu’r gydnabyddiaeth i gamdriniaeth ymhlith pobl hŷn, gwybodaeth am y broblem a dealltwriaeth ohoni.
Diweddariad
- Mae opsiynau cydweithredol wedi'u sefydlu gyda Chymunedau Mwy Diogel Cymru ar gyfer cyfathrebu.
- Cyd-ddibyniaeth wedi’i sefydlu gydag Amcan 2 o Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gam-drin pobl hŷn, gan adeiladu ar yr ymgyrch bresennol o "Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre".
- Mae New Pathways wedi cyhoeddi 4 dyddiad ar gyfer hyfforddiant Pobl Hŷn a Thrais Rhywiol i'w ddarparu rhwng Tachwedd 2023 a Ionawr 2024. Mae'r cyflymder y cafodd y sesiynau hyn eu llenwi yn arwydd o’r diffyg gwybodaeth am bobl hŷn a thrais rhywiol, ac o'r galw mawr am y dysgu hwn. Mae'r bobl sydd wedi archebu lle ar y cyrsiau yn dod o ystod eang o sefydliadau gan gynnwys yr Heddlu, staff Gwasanaethau Cymdeithasol, Awdurdodau Lleol, adrannau'r Llywodraeth, a darparwyr Gofal Cymdeithasol; Mae hon yn wybodaeth ddefnyddiol a gall lywio gwaith comisiynu hyfforddiant posibl yn y maes hwn yn y dyfodol. Mae hyfforddiant cryno hefyd yn cael ei ddatblygu ar gyfer ffrwd waith y Glasbrint oherwydd y galw aruthrol.