Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn wlad fwy ffyniannus, mwy cyfartal a gwyrddach – mae’r dewisiadau a wnawn wrth brynu nwyddau a gwasanaethau i bobl Cymru yn hanfodol er mwyn gwireddu hynny.

Mae parhau i fanteisio i’r eithaf ar wariant caffael yng Nghymru i gefnogi cyfoeth lleol yn allweddol i greu economi fwy gwydn yng Nghymru, yn enwedig yn wyneb ansicrwydd economaidd byd-eang. Bydd y £6.3 biliwn o wariant caffael blynyddol yn cefnogi swyddi a thwf cynaliadwy; arferion teg o ran gwaith a chyflogaeth; seilwaith ac adeiladwaith modern, ymhlith y manteision ehangach i’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd y buddsoddiad hwn yn nyfodol Cymru yn helpu i ddiffinio ein cynnydd yn erbyn y nodau llesiant yr ydym yn anelu atynt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. O fesurau arloesol i ddatgarboneiddio ein hystad sector cyhoeddus i ddarparu’r hyfforddiant a’r sgiliau sy’n addas ar gyfer y dyfodol, gall ein dewisiadau caffael helpu i ddiogelu dyfodol ein planed a mynd i’r afael ag achosion tlodi.

Mae’r cyd-destun ar gyfer y gwariant hwn yn newid hefyd. Bydd y ddeddfwriaeth partneriaethau cymdeithasol sy’n cael ei drafftio ar hyn o bryd yn gosod gofynion ar gyrff cyhoeddus i gael strategaeth gaffael er mwyn annog a chefnogi dulliau gweithredu mwy cydgysylltiedig, clir a chynaliadwy. Mae heriau uniongyrchol yn codi o ran diwygio’r maes caffael ar ôl ymadael â’r UE, a fydd yn effeithio ar y rheolau sy’n weithredol yng Nghymru.

Gan fod penderfyniadau caffael yn cyffwrdd â chynifer o feysydd o’n bywyd ar draws ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector, mae caffael yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyflawni blaenoriaethau polisi – yn amrywio o’r economi sylfaenol, yr economi gylchol a datgarboneiddio, i werth cymdeithasol a budd i’r gymuned.

Mae caffael yn arf hollbwysig i helpu i gyflawni blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru. Mae’n helpu i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus i bawb, pryd bynnag a lle bynnag bo’u hangen. Gall caffael sydd wedi’i gynllunio’n dda yn y sector cyhoeddus helpu i wneud Cymru yn genedl fwy ffyniannus sy’n rhoi mantais deg i bawb ac yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n ein hatal rhag gwireddu ein potensial.

Mae cyflawni’r uchelgeisiau hyn yn dibynnu ar broffesiwn sydd â’r sgiliau a’r gallu angenrheidiol i wireddu ein nodau. Mae’n gyfnod cyffrous ar gyfer caffael gan fod dulliau arloesi newydd yn profi eu gwerth. Ond yn rhy aml, nid yw’r proffesiwn caffael wedi’i werthfawrogi na’i ddefnyddio’n ddigonol fel cyfrwng cyflawni. Mae’r Tîm Polisi a Gallu Caffael yn Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at adeiladu gallu, sgiliau a chadernid ar draws y proffesiwn i fynd i’r afael â’r diffyg sgiliau, ac i feithrin talent at y dyfodol tra’n grymuso staff ac yn annog arloesi.

Mae llwyddiant diweddar y cynlluniau peilot Swyddi Gwell yn Nes at Adref yn profi y gallwn ddefnyddio gwybodaeth a data i lywio polisïau a mentrau strategol drwy gaffael. Mae’n profi y gallwn arloesi a chreu atebion sy’n gweithio i Gymru.

Gobeithio y byddwch yn gweld y ddogfen hon yn ddefnyddiol ac y bydd yn eich helpu i ddeall y siwrnai y mae’r proffesiwn arni ac yn eich annog i feddwl am syniadau ynghylch sut y gallwn fynd ati ar y cyd i wireddu’r weledigaeth hon ar gyfer pobl Cymru.

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyflwyniad

Ystyrir bod caffael yn ddull allweddol o gefnogi cyflawniadau mewn perthynas â nifer o feysydd polisi pwysig yng Nghymru.

Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y pryd a oedd yn nodi diwedd yr Adolygiad Caffael. Ochr yn ochr â hyn, nododd y Prif Weinidog gyfres o ymrwymiadau caffael yn ei Faniffesto Arwain sy’n ymwneud â meysydd polisi mawr.

Mae’r ymrwymiadau a nodwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig a’r Maniffesto Arwain yn nodi’n glir fod angen dull caffael newydd yng Nghymru. Gellir gweld manylion yr ymrwymiadau a’r cyfeirnodau cysylltiedig yn Atodiad A.

Nod y dull gweithredu cychwynnol a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys naw llinyn penodol (y nodir eu manylion yn Atodiad B), oedd mynd i’r afael â’r ymrwymiadau yn y Maniffesto a’r Datganiad Ysgrifenedig. Mae’r rhain hefyd yn ategu’r nodau yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel ac, ar yr un pryd, yn cefnogi’r ymdrech i sicrhau bod Cymru yn genedl Gwaith Teg drwy gyflawni canlyniadau gwaith teg drwy wariant cyhoeddus ac ymarfer caffael. Gan fod y naw llinyn wedi’u hystyried gan rai yn feysydd gwaith penodol, mae dull mwy cyfannol wedi’i ddatblygu sy’n canolbwyntio ar gyflawni dulliau caffael arloesol a blaengar yng Nghymru.

Amlinellir y cynnydd a wnaed dros y 18 mis diwethaf yn erbyn yr ymrwymiadau sydd wedi eu cynnwys ynddynt a’r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd o dan y themâu allweddol isod.

Cyflawni cytundebau caffael cydweithredol

Cyflawni cytundebau caffael cydweithredol

Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) wedi bod yn cydweithio’n agos â’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a’r GIG yng Nghymru, i leihau nifer y fframweithiau GCC. Mae hefyd wedi sefydlu gweithgor newydd gyda Gwasanaethau Masnachol y Goron i ystyried cyfleoedd i gydweithio.

Cytunwyd â Phenaethiaid Grwpiau Caffael Awdurdodau Lleol i gynnal lefel fframweithiau a gwasanaeth GCC tan fis Ebrill 2020, gan sicrhau y byddai modd rhoi dull cydweithredol a rheoledig ar waith i symud i fodelau caffael rhanbarthol. O ganlyniad, mae cynllun contractau cenedlaethol drafft wedi’i lunio. Cafodd y cynllun terfynol ei gyhoeddi i’r sector cyhoeddus yng Nghymru ym mis Chwefror 2020.

Mae llif diwygiedig GCC yn nodi rhaglen o 32 o gytundebau cenedlaethol gyda’r hyblygrwydd i ddiwygio’r rhaglen yn ôl yr angen. Gellir gweld manylion y cytundebau hyn yn Atodiad C. Er mai cytundebau a osodir yn genedlaethol ydynt, byddant yn sicrhau bod ffocws ar gyflawni llesiant rhanbarthol a lleol naill ai drwy gyfleoedd contractio uniongyrchol neu ymyrraeth yn y gadwyn gyflenwi.

Mae’r broses o bontio i’r 32 o gytundebau cenedlaethol wedi mynd rhagddo’n dda. Ym mis Medi 2018, nododd llif GCC 63 o fframweithiau. Ym mis Ebrill 2020, bydd 42 o fframweithiau o dan reolaeth GCC, gan leihau i 34 erbyn Ebrill 2021 a 32 erbyn diwedd 2022. Cytunwyd ar y cynllun pontio, sy’n seiliedig ar leihau nifer y cytundebau, gyda CLlLC er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu.

Caiff nifer o gytundebau fframwaith presennol (a reolir gan GCC ar hyn o bryd) nad ydynt yn disgyn o fewn cwmpas cytundeb cenedlaethol eu cyflawni’n rhanbarthol drwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol. Rhagwelwn y bydd y rhain ar gael i’w defnyddio gan y sector cyhoeddus ehangach ac y byddant, ochr yn ochr â llif diwygiedig GCC, yn fan cychwyn llif cydweithredol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Wrth wraidd y llif hwn fydd nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a bydd ysgogwyr polisi caffael Cymru a deddfwriaeth gysylltiedig yn sail i’r holl gytundebau.

Yn ogystal â’r cynllun cenedlaethol, mae GCC yn darparu gwybodaeth a gwersi a ddysgwyd er mwyn helpu i lywio dulliau gweithredu lleol a rhanbarthol gyda’n partneriaid Awdurdod Lleol. Er enghraifft, rydym wedi bod yn cydweithio’n agos er mwyn helpu i sefydlu dull prynu bwyd rhanbarthol newydd ym mhob rhan o’r sector Awdurdodau Lleol. Er mai anghenion Awdurdodau Lleol fydd y ffocws, bydd arferion gorau yn parhau i gael eu rhannu drwy fforwm categori bwyd a thrwy gyfnewid gwybodaeth â’r GIG yng Nghymru.

Rydym hefyd yn gweithio’n uniongyrchol â chadeirydd rhwydwaith Penaethiaid Caffael CLlLC i ddatblygu cytundebau ymgynghoriaeth adeiladu CLlLC. Bydd cytundebau newydd Awdurdodau Lleol, a osodwyd yn flaenorol gan GCC ac a ddefnyddiwyd yn helaeth, yn ategu eu fframweithiau gwaith cyfalaf presennol ar gyfer priffyrdd ac ysgolion. Unwaith eto, bydd y fframweithiau ar agor i bawb yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac rydym yn rhannu gwybodaeth GCC a’r gwersi a ddysgwyd â’r tîm caffael Llywodraeth Leol.

Yn ogystal, mae nifer o feysydd y nodwyd eu bod yn cael eu cyflawni’n fwy effeithiol ar lefel genedlaethol y DU, gan gynnwys gwasanaethau post a gwasanaethau teithio corfforaethol. Rydym yn gweithio gyda Gwasanaethau Masnachol y Goron i sicrhau bod cytundebau cenedlaethol y DU yn diwallu anghenion y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cyflawni polisïau

Mae’r pwyslais ar dechnoleg ddigidol yn ymrwymiad cyffredinol sy’n berthnasol i’r holl waith o ddatblygu polisïau caffael. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Cynllun Gweithredu Digidol ar gyfer caffael.

Mae un broses fewngofnodi wedi’i rhoi ar waith yn llwyddiannus o fewn GwerthwchiGymru. Mae cyfres newydd o gwestiynau cymhwyso wedi’i pharatoi ar gyfer y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd. Mae gwaith datblygu i integreiddio GwerthwchiGymru ac eDendroCymru wedi cychwyn ac mae profion yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Mae contractau eDendroCymru ac eFasnachuCymru hefyd wedi’u hail-gaffael tan ddiwedd mis Mawrth 2022.

Mae Llofnodion Digidol yn cael eu defnyddio bellach gan eDendroCymru ac maent wedi’u treialu’n llwyddiannus yn nhîm caffael TGCh Digidol Llywodraeth Cymru. Byddwn yn ymestyn y defnydd o’r llofnodion hyn i’r sector cyhoeddus ehangach yn fuan mewn cyfres o gynlluniau peilot.

Mae swyddogaeth gaffael Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu ei llifau o weithgarwch caffael mewn ffordd sy’n nodi’n glir y cyfraniad y mae’r rhaglen waith hon yn ei wneud i flaenoriaethau polisi a gweledigaeth fasnachol Llywodraeth Cymru. Mae Teclyn Blaenoriaethu Polisïau wedi’i ddatblygu i’w ddefnyddio yn erbyn gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru, er mwyn sicrhau y mabwysiedir dull penodol a deallus i ganolbwyntio ymdrechion lle y gellir cyflawni’r gwerth mwyaf posibl drwy roi polisïau ar waith. Bydd ffocws ar gyflawni’r priod agendâu o dan bob un o’r pum maes Blaenoriaethau Polisi a nodwyd (y bydd pob un ohonynt yn gorgyffwrdd a/neu gyson â’r meysydd eraill).

Y pum maes polisi yw:

  • Datgarboneiddio
  • Gwerth Cymdeithasol
  • Budd i’r Gymuned
  • Economi Sylfaenol
  • Economi Gylchol

Rydym wedi datblygu Dangosfwrdd Datgarboneiddio sydd ar gael i gyrff cyhoeddus yng Nghymru er mwyn iddynt allu gweld eu sgoriau dwysedd carbon eu hunain ar gyfer y nwyddau, y gwasanaethau a’r gwaith y maent yn eu prynu. Yna gallant nodi cyfleoedd i leihau carbon/ymyrryd a datblygu eu Cynlluniau Gweithredu Datgarboneiddio gyda chymorth, arweiniad a hyfforddiant gan Gwerth Cymru. Rydym yn cydweithio’n agos â’r Tîm Datgarboneiddio i nodi’r cymorth/hyfforddiant y gall ei ddarparu ac i sicrhau bod ein gwaith yn gyson.

Adeiladu cyfoeth cymunedol, Gwell swyddi yn agosach i gartref a “sefydliadau angori”

Adeiladu cyfoeth cymunedol, gwell swyddi yn agosach i gartref a “sefydliadau angori” yw rhai o’r dulliau gweithredu a ddefnyddiwyd i sicrhau buddiannau cymunedol, gwerth cymdeithasol a datblygu ein gwaith ar yr Economi Sylfaenol.

Rydym wedi penodi’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i weithio ochr yn ochr â swyddogion i roi cyngor ymarferol ac adnoddau er mwyn helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) i roi dulliau caffael newydd ar waith. Bydd y dulliau gweithredu newydd hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r lefelau gwariant presennol ar gaffael a bylchau cyflenwi a nodwyd, a byddant yn ystyried pob cyfle i wneud y gorau o gyfranogiad busnesau cynhenid yn y broses gaffael gyhoeddus.

Disgwyliwn y bydd y prosiectau cyntaf yn dechrau ym mis Mawrth 2020, gan sicrhau y caiff y gwersi a ddysgwyd o brosiectau peilot Gwell Swyddi yn Agosach i Gartref eu hymgorffori yn y prosiectau.

Mae cronfa her yr Economi Sylfaenol hefyd yn cefnogi 11 o brosiectau arloesol sy’n cael eu rhedeg gan bartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Nod y prosiectau hyn yw treialu dulliau gweithredu newydd er mwyn sicrhau’r gwerth mwyaf o weithgarwch caffael ar gyfer rhannau o’r economi leol.

Mae’r Rhaglen Gwell Swyddi wedi ystyried nifer o ddatblygiadau arloesol er mwyn dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r arian y mae’r sector cyhoeddus yn ei wario ar waith, nwyddau a gwasanaethau i ddarparu swyddi cynaliadwy o ansawdd da.

Ymhlith rhai o’r dulliau arloesol mae’r canlynol:

  • cadw contractau ar gyfer mentrau cymdeithasol
  • prynu ffyniant drwy ddulliau tendro newydd a thrwy Gymorth Gwladwriaethol
  • sefydlu darpariaeth leol er mwyn goresgyn bylchau cyflenwi
  • sefydlu cerbydau â diben arbennig a dod â’r ochr gyflenwi a’r ochr alw ynghyd.

Mae’r datblygiadau arloesol hyn wedi dangos yr hyn y gellir ei wneud ac maent bellach yn cael eu normaleiddio a’u defnyddio’n fwy eang drwy’r gwaith ar yr Economi Sylfaenol.

Yn sgîl Cynlluniau Peilot Gwell Swyddi 2019, sefydlwyd cyfleuster gweithgynhyrchu yng Nglynebwy sy’n cyflogi pobl o’r ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r cyfleuster gweithgynhyrchu, a weithredir gan fenter gymdeithasol, wedi sicrhau archebion gan CADW a’r GIG yng Nghymru, ac mae wrthi’n cynnal trafodaethau â Trafnidiaeth Cymru. Drwy ddod â’r ochr gyflenwi a’r ochr alw ynghyd, rydym ar y trywydd cywir i ddarparu rhwng 30 a 50 o swydd newydd o ansawdd erbyn mis Ebrill 2020. Gweithiodd y Tîm Gwell Swyddi â menter gymdeithasol bresennol sy’n casglu ac yn rhwygo papur i gynyddu’r galw o 20 o dunelli o bapur y mis i ymhell dros 80 o dunelli y mis. Mae’r cynnydd hwn mewn galw wedi arwain at 46 o swyddi newydd i bobl, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn byw gydag anabledd. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, mae gwaith yn mynd rhagddo i brif ffrydio rhai o’r un dulliau arloesol â’r sector cyhoeddus ehangach ac mae opsiynau ar gyfer prosiectau posibl yn cael eu hystyried.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu llywio a dylanwadu ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr Economi Sylfaenol, a datblygu elfennau masnachol o’r gwaith hwn. Gan ganolbwyntio ar sectorau sylfaen fel Gofal Cymdeithasol, Adeiladu a Bwyd, anelwn at weithio’n ddwfn o fewn cadwyni cyflenwi er mwyn nodi cyfleoedd i gyflenwyr lleol a meithrin cydberthnasau cryfach ar hyd a lled y gadwyn gyflenwi.

Bydd penodiad CLES fel Partner Adeiladu Cyfoeth Cymunedol yn galluogi’r BGCau a’u sefydliadau angori i gynnwys cyfleoedd i gyflenwyr lleol yn eu tendrau. Drwy ddadansoddi data ar wariant a data cwmnïau, byddwn yn gallu nodi’r mannau hynny lle mae cyflenwadau lleol yn bodoli ond nad ydynt yn cael eu defnyddio, a’r mannau lle nad oes unrhyw gyflenwad lleol. Bydd hyn yn rhoi ymyriadau posibl i BGCau i’w helpu i gyflawni’r nod o greu cyfoeth cymunedol, sicrhau gwaith teg a chyflawni nodau llesiant yn well.

Lle mae cyflenwadau lleol yn bodloni ond nad ydynt yn ennill contractau sector cyhoeddus, byddwn yn ymchwilio i’r rhesymau pam nad ydynt yn gwneud hynny. Bydd y Tîm Arloesedd Masnachol yn gweithio gyda phrynwyr yn y sector cyhoeddus i ddangos sut y gall eu tendrau gael eu hysgrifennu mewn ffordd sy’n annog cyflenwyr lleol i gynnig amdanynt. Bydd y Tîm yn cydweithio â chydweithwyr sy’n gweithio gyda chyflenwyr lleol i nodi’r hyn sydd ei angen i ennill contractau sector cyhoeddus. Lle nad oes unrhyw gyflenwad lleol yn bodoli, byddwn yn ystyried ymarferoldeb creu cyflenwad.

Rydym yn cydweithio’n agos â chydweithwyr ym maes Tai a Woodknowledge Wales fel rhan o ddull integredig o gynyddu twf pren o Gymru a nodi’r hyn y gall melinau ei wneud gyda’r pren hwnnw er mwyn sicrhau ei fod yn brif ddeunydd adeiladu. Bydd hyn yn tarfu ar y gadwyn gyflenwi o’r dechrau i’r diwedd ac yn arwain at fewnforio llai o bren; llai o losgi a mwy o dwf o ran pren o Gymru; a, mwy o’r pren hwnnw yn cael ei felino ar gyfer y diwydiant adeiladu er mwyn bwydo’r cynnydd mewn pren a weithgynhyrchir oddi ar y safle yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi hwb gwirioneddol o ran lleihau carbon a thai di-garbon yng Nghymru.

Lle ceir diffyg twf cymharol o ran mentrau bach sy’n tyfu’n fentrau canolig, rydym wedi defnyddio data i nodi a chefnogi cyflenwyr lleol bach sy’n barod i wneud y cam nesaf. Bydd y cyfryw weithgarwch yn cyfrannu at dyfu’r agenda ‘canol coll’, yn rhoi gwytnwch i gwmnïau sefydledig yng Nghymru ac yn sicrhau eu bod yn cynllunio ar gyfer olyniaeth.

Sgiliau a gallu

Er mwyn cryfhau arweinyddiaeth ym maes caffael, mae tîm Caffael TGCh Llywodraeth Cymru wedi bod yn destun asesiad gan gymheiriaid yn erbyn Safonau Masnachol y Llywodraeth. Mae Tîm Caffael Corfforaethol Llywodraeth Cymru yn dechrau’r broses a, lle y bo angen, bydd yn datblygu cynlluniau gweithredu i atgyfnerthu lefelau o ymwybyddiaeth a gallu masnachol.

Mae sgiliau a gallu yn faes blaenoriaeth ac mae cynllun datblygu sgiliau masnachol wedi’i ffurfio sy’n nodi blaenoriaethau byrdymor, tymor canolig a hirdymor ar gyfer y canlynol:

  • Diogelu at y Dyfodol
  • Rhaglen Datblygu Sgiliau Caffael a Masnachol (Presennol)
  • Codi Proffil Caffael
  • Cefnogi Datblygiad Sgiliau ar gyfer Meysydd Polisi Caffael Presennol a Rhai sy’n Dod i’r Amlwg (Newydd)
  • Mesur Effaith y Rhaglen

Atodir y Cynllun Sgiliau a Gallu yn Atodiad D. Rydym wrthi’n ymgymryd â rhaglen ymgysylltu â grwpiau o randdeiliaid allweddol gan gynnwys CLlLC, Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG, Prifysgol De Cymru, yr Athro Kevin Morgan a Phrifysgol Caerdydd, i rannu’r cynllun sgiliau drwy gylch o adolygiadau. Cynhaliwyd ymarfer mapio rhanddeiliaid llawn ym mis Chwefror i sicrhau ymgysylltu effeithiol i lywio cyfeiriad strategol y rhaglen.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud i baratoi ar gyfer gadael yr UE, yn enwedig mewn perthynas â pharatoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU ac adrannau ar draws Llywodraeth Cymru i fonitro a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â chyflenwi er mwyn helpu i sicrhau, er enghraifft, fod cynhyrchion hanfodol fel meddyginiaethau a chynhyrchion meddygol yn parhau i gael eu cyflenwi i bob rhan o’r DU.

Roedd hefyd yn cynnwys cynnal adolygiad o’r holl gontractau o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn asesu’r risg o Brexit heb gytundeb, a thrwy hynny lywio unrhyw fesurau lliniaru angenrheidiol. Yn ogystal, gwnaethom ysgrifennu at y prif gyflenwyr strategol yn ôl gwariant a’r prif gyflenwyr bwyd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i ofyn pa mor barod oeddent ar gyfer Brexit.

Gwnaethpwyd cryn dipyn o waith cyfathrebu a gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod ein cydweithwyr caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hysbysu am y risgiau posibl hyn ac fe’u hanogwyd i gymryd mesurau lliniaru tebyg. Rhoddwyd pecynnau cymorth i’r sector cyhoeddus yng Nghymru i’w helpu gyda’r gwaith hwn, pe baent yn dymuno eu defnyddio.

Nawr bod y DU wedi gadael yr UE ac wedi cychwyn ar gyfnod pontio, ni fydd y ffordd y mae’r sector cyhoeddus yn mynd ati i gaffael nwyddau yn newid yn ystod y cyfnod hwn. Bydd deddfwriaeth gaffael yn parhau’n weithredol ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben, hyd yn oed os na chytunir ar gytundeb masnach rydd gyda’r UE.

Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio cytundeb gan Bwyllgor Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau (GPA) Sefydliad Masnach y Byd (WTO) i’r DU barhau’n rhan o’r cytundeb hwnnw ar ôl gadael yr UE. Drwy barhau i fod yn rhan o’r GPA, bydd busnesau yn y DU yn parhau i gael mynediad i farchnad gaffael llywodraethau rhyngwladol yr amcangyfrifir ei bod yn werth £1.3 triliwn (yn ôl WTO) bob blwyddyn ar draws 47 o aelodau WTO.

Bydd Llywodraeth y DU yn gallu ymrwymo i Gytundebau Masnach Rydd eraill sy’n cynnwys penodau caffael e.e. yr UE, UDA, Seland Newydd, Japan ac Awstralia. Bydd y Cytundebau hyn yn darparu’r fframwaith rheoliadol ar gyfer ymgymryd â gweithgarwch caffael a chaiff cyfleoedd y llywodraeth eu hagor i gystadleuaeth oddi mewn i’r fframwaith hwnnw. Rydym yn cydweithio â Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig eraill i ddatblygu’r penodau caffael hyn er mwyn diogelu buddiannau Cymru. Wrth wneud hynny, rydym am weld ein polisïau caffael yn parhau i alluogi twf economaidd, cynyddu cyfleoedd gwaith a chyflawni blaenoriaethau amgylcheddol yng Nghymru.

Mae fframwaith cyffredin ar gyfer caffael cyhoeddus wrthi’n cael ei ddatblygu drwy drafodaethau adeiladol rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Bydd hyn yn helpu i reoli’r gydberthynas gaffael rhwng ein pedair gwlad.

Ar hyn o bryd, megis dechrau mae’r gwaith o benderfynu sut y gallai rheolau caffael weithio yn y dyfodol er mwyn diogelu buddiannau Cymru.

Ymgysylltu

Mae’r gwaith o ymgysylltu â sectorau yn mynd rhagddo drwy nifer o fforymau caffael gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Tîm Uwch-reolwyr y GIG, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, Fforwm Caffael Gogledd Cymru, Penaethiaid Caffael De-orllewin Cymru, Fforwm Caffael AU a Fforwm Caffael yr Heddlu.

Mae astudiaethau achos ac enghreifftiau o arfer gorau ym maes caffael yn cael eu casglu, eu dosbarthu’n gyson a’u marchnata i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a dulliau marchnata modern.

Atodiad A: ymrwymiadau’r datganiad ysgrifenedig a’r maniffesto

Mae’r datganiad ysgrifenedig yn pennu nifer o ymrwymiadau ac yn nodi’n glir bod angen dull caffael newydd yng Nghymru. Nodir manylion yr ymrwymiadau hyn isod:

  1. Canolbwyntio mwy ar sicrhau cytundebau caffael ar y cyd yn unol â blaenoriaethau rhanbarthol a lleol.
  2. Sicrhau nifer llai o gontractau cenedlaethol lle gall systemau ar draws Cymru gyfan ddarparu’r gwerth gorau am arian i gyfran fawr o sector cyhoeddus Cymru.
  3. Gweithrediad llai yn cael ei sefydlu gan GCC i reoli portffolio llai o gontractau cenedlaethol lle bo’n amlwg bod trefniadau o’r fath yn cynnig gwerth am arian ar draws mwyafrif sylweddol o sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.
  4. Uned cymorth cyflawni a datblygu polisi cenedlaethol newydd.
  5. Gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid er mwyn datblygu strategaeth gaffael newydd, sy’n egluro model gweithredu’r dyfodol ac yn galluogi gwerth llawn y caffael i gael ei wireddu’n genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.
  6. Rhaglen sgiliau a gallu newydd er mwyn i swyddogion caffael ddysgu am dechnegau masnachol modern ac er mwyn cynhyrchu llif o dalent ar gyfer y dyfodol i geisio mynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau sy’n cael eu creu gan wahanol strwythurau cyflog a thâl.
  7. Mwy o bwyslais ar adeiladu cyfoeth cymunedol ar draws Cymru.

Ochr yn ochr â’r Datganiad Ysgrifenedig, nododd y Prif Weinidog gyfres o ymrwymiadau caffael yn ei Faniffesto Arwain sy’n ymwneud â meysydd polisi mawr. Mae gweithgarwch caffael yn gysylltiedig ar ryw lefel â chyflawniadau mewn amrywiaeth o feysydd er mwyn cefnogi Gwell Cymru i bob dinesydd. Ceir manylion yr ymrwymiadau hyn isod:

  1. Defnyddio unrhyw hyblygrwydd newydd sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn helpu busnesau yng Nghymru i gystadlu’n llwyddiannus am gontractau.
  2. Defnyddio unrhyw ryddid newydd a grëir drwy Brexit i wneud mwy o ddefnydd o brosesau caffael i adeiladu gallu sylfaenol lleol. A hyfforddi staff mewn sgiliau caffael er mwyn sicrhau y gallant gyflawni eu llawn botensial.
  3. Cyflymu’r rhaglen Gwell Swyddi yn Agosach i Gartref, mewn partneriaeth barhaus â TUC Cymru.
  4. Gofyn i bob awdurdod lleol nodi “sefydliadau angori” lleol a gweithio gyda hwy i archwilio eu contractau er mwyn cynyddu gwerth a swm y caffael a geir o BBaChau rhanbarthol.
  5. Buddsoddi mewn rhaglen hyfforddi newydd ar gaffael moesegol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan sicrhau bod lefelau sgiliau staff presennol yn diwallu anghenion heddiw a chreu gweithwyr proffesiynol y dyfodol.
  6. Codi statws y proffesiwn caffael drwy fynd i’r afael â diffyg sgiliau ac ymgymryd â mwy o waith ar lefel ranbarthol.
  7. Defnyddio pwˆer caffael a buddsoddiad cyhoeddus i sicrhau gwasanaethau o ansawdd yn y sector gofal, er enghraifft, drwy gysylltu’r buddsoddiad hwnnw â chyflog teg a datblygiad gyrfa.

Atodiad B: 9 Llinyn

Trawsnewid caffael: Ffurf

Llinyn 1 – Arweinyddiaeth

Rydym am i Lywodraeth Cymru arwain trwy esiampl trwy ddod yn enghraifft o arfer gorau o ran caffael.

Byddwn yn defnyddio Safonau Masnachol y Llywodraeth i gadw Llywodraeth Cymru ar y lefelau ymwybyddiaeth a gallu angenrheidiol.

Llinyn 2 – Mentrau polisi sy’n cael eu gyrru gan ddata

Byddwn yn defnyddio dull wedi’i dargedu sy’n cael ei yrru gan ddata tuag at gymhwyso polisi i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ymdrechion lle gellir sicrhau’r gwerth mwyaf.

Byddwn yn defnyddio teclyn blaenoriaethu i’n helpu i nodi meysydd polisi allweddol, gan roi cyfle i weithredu mentrau fel y gellir gwireddu gwerth llawn caffael yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.

Llinyn 3 – Gallu a phroffil y proffesiwn caffael

Byddwn yn meithrin gallu a gwytnwch ar draws y proffesiwn caffael yng Nghymru i fynd i’r afael â’r diffyg sgiliau, grymuso staff ac annog arloesedd.

Byddwn yn cyflwyno cynllun sgiliau a gallu newydd i arfogi swyddogion caffael presennol â thechnegau masnachol modern, i godi ymwybyddiaeth fasnachol pawb arall i greu llif o dalent yn y dyfodol ac i godi statws y proffesiwn ledled Cymru.

Llinyn 4 – Gwasanaeth datblygu a darparu polisi newydd (gyda phecynnau cymorth)

Byddwn yn cryfhau’r gwaith o ddatblygu a chyflawni polisi ar draws sector cyhoeddus Cymru sy’n helpu i sefydlu diwylliant sy’n sicrhau’r canlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol mwyaf posibl.

Byddwn yn darparu cefnogaeth, hyfforddiant ac offer i helpu sefydliadau sy’n prynu i sicrhau’r canlyniadau mwyaf posibl trwy gaffael.

Llinyn 5 – Ymyrraeth a dadansoddiad o’r gadwyn gyflenwi

Byddwn yn gweithredu blaenoriaethau’r Cabinet (megis creu swyddi lleol) trwy ddadansoddi data a chymhwyso ymyriadau i gadwyni cyflenwi ledled Cymru.

Rydym yn ailstrwythuro cadwyni cyflenwi i gynnwys cyflenwyr lleol a fydd o fudd i’r economi leol.

Llinyn 6 – Rhaglen farchnata ac ymgysylltu

Byddwn yn cyd-gysylltu cymuned gaffael sector cyhoeddus Cymru ledled Cymru.

Byddwn yn arddangos llwyddiant ac yn rhannu arfer da gan ddefnyddio technoleg ddigidol fodern.

Llinyn 7 – Cynllun gweithredu digidol

Byddwn yn datblygu seilwaith modern ar gyfer caffael digidol trwy gydweithio â’n cydweithwyr trwy bob rhan o wasanaethau cyhoeddus integredig Cymru.

Rydym yn datblygu strategaeth gaffael ddigidol flaengar ar gyfer y dyfodol, a fydd yn cynnwys cynlluniau i gynyddu ein buddsoddiad i’r eithaf mewn e-Gyllido, Caffael i Dalu, dadansoddi gwariant, rheoli cylch bywyd contract ac offer rheoli cyflenwyr strategol.

Llinyn 8 – Proses lywodraethu newydd

Byddwn yn gweithredu proses lywodraethu wedi’i hadnewyddu a chyffredinol ar gyfer caffael o fewn sector cyhoeddus Cymru sy’n cefnogi cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru (megis Ffyniant i Bawb), yn ogystal â blaenoriaethau eraill yn y sector cyhoeddus.

Llinyn 9 – Esblygiad y GCC

Byddwn yn esblygu i fod yn swyddogaeth sy’n canolbwyntio ar reoli categorïau gan sicrhau bod polisïau ymarferol yn cael eu hintegreiddio.

Byddwn yn cefnogi datblygu llif o gontractau i Gymru, a’n huchelgais fydd prynu atebion arloesol ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.

Atodiad C: Cytundebau GCC

Caffael arfaethedig Gwerth blynyddol amcangyfrifedig
Adeiladu, rheoli cyfleusterau a chyfleustodau
Deunyddiau adeiladu £12,000,000
Darparu atebion dodrefnu £4,400,000
Deunyddiau glanhau a phorthorol £1,200,000
Halen craig £2,500,000
Trydan £50,000,000
Gwasanaethau gweithredu mesuryddion £150,000
Nwy £30,000,000
LPG £1,000,000
Fflyd a thrafnidiaeth
Teiars £3,000,000
Tanwydd hylif £19,080,000
Darnau sbâr cerbydau £2,000,000
Llogi cerbydau II £15,000,000
Gwiriadau trwyddedau gyrru – Cam 2 £200,000
Systemau tracio a thelemateg – Cam 2 £1,000,000
Cerbydau ar brydles (ceir, LCVS ac arbenigol) £8,000,000
Prynu cerbydau (ceir, LCVS ac arbenigol) £18,000,000
TGCh
Atebion eGaffael £2,500,000
Cynhyrchion a gwasanaethau TG 2 £50,000,000
Adnoddau ystwyth, digidol a TGCh £2,000,000
Dyfeisiau amlswyddogaethol £4,500,000
Digideiddio, storio a gwaredu £100,000
Gwasanaethau pobl a chorfforaethol
Gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi £70,000,000
Buddiannau i gyflogeion £6,500,000
Deunydd ysgrifennu a phapur £4,000,000
Cyflenwi cyfarpar diogelu personol (CDP) llachar, lifreion, gwisg gwaith a gwisg hamdden £3,000,000
Prynu cyfryngau, gwasanaethau ymgyrchoedd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus integredig £5,250,000
Gwasanaethau proffesiynol
Gwasanaethau cyfreithwyr £4,000,000
Darparwyr yswiriant £2,000,000
Gwasanaethau bargyfreithwyr £1,500,000

Atodiad D: Cynnig Datblygu Sgiliau Caffael a Masnachol Cymru Gyfan 2020

1. Cyflwyniad

Diben y ddogfen hon yw diffinio’r meysydd blaenoriaeth byrdymor a thymor canolig ar gyfer datblygu sgiliau caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol. Thema gyntaf y ddogfen hon fydd canolbwyntio ar fentrau peilot i ddechrau diogelu’r proffesiwn yn y dyfodol a chreu cyfleoedd swyddi drwy fentrau ehangach. Nod yr ail thema yw helpu i wneud y gorau o’r sgiliau masnachol craidd hynny sy’n hanfodol er mwyn caffael a rheoli contractau yn effeithiol, a chynnwys polisïau caffael Llywodraeth Cymru mewn meysydd presennol a meysydd sy’n dod i’r amlwg drwy gyfres o fodiwlau eDdysgu newydd ar yr un pryd.

2. Nodau ac amcanion

Nodau ac amcanion y cynllun gwaith hwn yw:

  • Cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau drwy gymorth eDdysgu er mwyn diwallu anghenion heddiw mewn meysydd polisi caffael presennol a meysydd polisi caffael sy’n dod i’r amlwg
  • Creu gweithwyr proffesiynol y dyfodol drwy ymgysylltu â’r byd academaidd a’r sectorau addysg ehangach
  • Mynd i’r afael â’r diffyg sgiliau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru drwy ystyried cyfleoedd i gyflwyno newydd-ddyfodiaid i’r proffesiwn drwy brentisiaethau caffael.

3. Mapio rhanddeiliaid

Mae’r ffordd yr ymgysylltir â rhanddeiliaid i gyflwyno’r cynllun gwaith yn hollbwysig i’w lwyddiant. Defnyddir y model isod i ymgymryd â’r gwaith hwn. Caiff grwˆp craidd o randdeiliaid allweddol ei sefydlu er mwyn dylanwadu ar y cyfeiriad strategol, a rhagwelir y bydd is-grwˆp rhithwir o randdeiliaid yn derbyn cylch o ymgyngoriadau ar hynt y cynllun gwaith dros amser ac yn cael y cyfle i lywio’i gyfeiriad yn y dyfodol.

Cynhaliwyd y broses o fapio rhanddeiliaid ym mis Chwefror.

Mapio rhanddeiliaid

4. Ardaloedd â blaenoriaeth ac amserlenni allweddol

Amcangyfrif o 8 mis – Dechrau gwaith cwmpasu cynnar (Haf 2020-2021)
Adran 1
Diogelu at y dyfodol

Ystyried rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gradd yn eu trydedd flwyddyn mewn sefydliadau academaidd ledled Cymru ymgymryd â lleoliadau rhyngosod ym maes caffael.

Ystyried cyfleoedd i dreialu cynllun prentisiaethau caffael ar gyfer ardaloedd difreintiedig yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â diffyg sgiliau gallu a chreu cyfleoedd swyddi.

Adran 2
Rhaglen Datblygu Sgiliau Caffael a Masnachol – (Presennol)

Sefydlu Cymuned Ymarfer â chynrychiolaeth rhanddeiliaid er mwyn llywio cyfeiriad strategol y rhaglen a rhannu arfer gorau.

Cyffredinoli darpariaethau eDdysgu masnachol a chaffael presennol Llywodraeth Cymru i’w cyflwyno’n fwy eang ledled Cymru:

  • Ymwybyddiaeth o gaffael
  • Cyrchu’r cyflenwr
  • Rheoli contractau
  • Ymwybyddiaeth fasnachol
Adran 3
Codi proffil caffael
Cymryd camau i godi proffil caffael drwy ymgysylltu ag uwch arweinwyr ar y cam sefydlu, gan nodi’r effeithiau cadarnhaol y gall gweithgarwch caffael da eu cael, a sicrhau bod y fframwaith caffael rheoliadol y disgwylir i’r sector cyhoeddus weithredu oddi tano yn weladwy.
Adran 4
Cefnogi datblygiad sgiliau ar gyfer meysydd polisi caffael presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg – (newydd)

Datblygu darpariaethau masnachol eDdysgu newydd mewn perthynas â meysydd polisi masnachol presennol a meysydd polisi masnachol sy’n dod i’r amlwg:

  • Cyfrifon banc prosiectau
  • Cyfleoedd datgarboneiddio drwy gaffael
  • WRAP – Ysgogi’r galw am gynhyrchion cynaliadwy
  • Adeiladu Cyfoeth Cymunedol drwy gaffael
Adran 5
Mesur effaith y rhaglen
Defnyddio gwybodaeth reoli i gadarnhau galw ac ymgysylltiad er mwyn nodi patrymau ac ysgogi galw yn y dyfodol.

Adran 1: Diogelu at y dyfodol

Cynllun lleoliadau rhyngosod i fyfyrwyr

Mae’r fenter hon yn gynnig peilot a fyddai’n gweld Gwerth Cymru a Phrifysgolion Cymru yn cydweithio i gynnig lle i fyfyrwyr ym mlwyddyn olaf astudiaethau gradd sy’n gysylltiedig â chaffael yn y gymuned gaffael yng Nghymru. Bydd y myfyrwyr yn cael budd o arbenigedd gwerthfawr ym maes caffael, a bydd y lleoliadau yn helpu i fynd i’r afael â’r diffygion a’r bylchau o ran sgiliau a wynebir gan y gymuned gaffael ledled Cymru. Y bwriad yw lleoli myfyrwyr ar brosiectau allweddol er mwyn dylanwadu ar ganlyniadau caffael cadarnhaol, a helpu i fynd i’r afael â’r diffyg gallu ym maes caffael a wynebir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru ar yr un pryd.

Mae’r fenter rhwng Prifysgol De Cymru a Chyngor Caerdydd wedi bod ar waith ers 2013, ac mae Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG wedi bod yn rhan ohoni ers tair blynedd. Mae’n profi’n llwyddiannus flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda llawer o fyfyrwyr yn cael eu cyflogi’n llawn amser ar ôl iddynt ymgymryd â’u lleoliad.

Caiff myfyrwyr eu recriwtio yn ystod mis Hydref gyda’r bwriad o ddechrau’r lleoliad yn ystod mis Mai. Byddai angen i fyfyrwyr gael eu cyflogi dros dro gan Lywodraeth Cymru a’u lleoli gyda sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus. Tybir mai’r pwynt mynediad o ran cyflog fydd band Tîm Cymorth Llywodraeth Cymru.

Cynllun peilot prentisiaethau caffael ar gyfer ardaloedd difreintiedig yng Nghymru

Mae’r fenter hon yn mynd i’r afael â’r dirwedd prentisiaethau caffael o fis Ionawr 2020 ac yn ystyried cyflwyno rhaglen prentisiaethau caffael peilot ar gyfer Cymru. Y nod yw rhoi menter prentisiaethau caffael Cymru gyfan ar waith ar y cyd â Phrifysgolion Cymru a chyrff sector cyhoeddus. Byddai menter o’r fath yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael lleoliad mewn gweithle caffael a dysgu ac ennill cyflog ar yr un pryd.

Rydym yn bwriadu rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 16 a 19 oed mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru feithrin arbenigedd ym maes caffael, maes lle ceir diffyg gallu difrifol yng Nghymru, creu cyfleoedd swyddi o bosibl a datblygu sgiliau ar gyfer grwˆp demograffig gwerthfawr. Drwy fynd i’r afael â’r diffyg gallu yn y gymuned gaffael yng Nghymru, bydd yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Ffyniant i Bawb drwy roi cyfleoedd i bobl ifanc yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (fel y nodwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD 2019) feithrin sgiliau.

Byddai’r rhaglen prentisiaeth yn sicrhau bod y sgiliau y mae pobl yn eu hennill yn gyson â’r sgiliau sydd eu hangen ar yr economi. Byddai’r fenter hon yn canolbwyntio ar Brentisiaethau Gradd ac yn arwain at achrediad llawn Diploma Graddedig CIPS naill ai drwy astudiaethau CIPS neu raglen Gradd Meistr.

Y 10 ardal fwyaf difrientiedig yn gyffredinol
Cyngor Ward Sgôr WIMD
Sir Ddinbych Gorllewin y Rhyl 2 1
Sir Ddinbych Gorllewin y Rhyl 1 2
Caerffilli St James 3 3
Rhondda Cynon Taf Tylerstown 1 4
Pen-y-bont ar Ogwr Caerau (Pen-y-bont ar Ogwr) 1 5
Rhondda Cynon Taf Penrhiwceiber 1 6
Merthyr Tudful Penydarren 1 7
Caerffilli Twyn Carno 1 8
Wrecsam Queensway 1 9
Casnewydd Pillgwenlly 4 10

Ffynhonnell: Stats Cymru

Adran 2: Rhaglen Datblygu Sgiliau Caffael a Masnachol

Mae’r pedwar modiwl eDdysgu canlynol yn gyfres o adnoddau dysgu a gynhyrchwyd gan Gyfarwyddiaeth Masnachol a Chaffael Llywodraeth Cymru. Drwy’r cynnig hwn, caiff y cynnwys ei gyffredinoli, ei ddiwygio, ei ddiweddaru a’i roi am ddim i’r gymuned gaffael yng Nghymru drwy Learning@Wales, y llwyfan eDdysgu cenedlaethol a reolir gan Dîm Dysgu Digidol Cymru.

  • Trosolwg o Gaffael
  • Cyrchu’r Cyflenwr
  • Pecyn Cymorth Rheoli Contractau a Chyflenwyr
  • Awgrymiadau Cyfreithiol (a grëwyd ar y cyd â Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru – caiff ei ailenwi yn Ymwybyddiaeth Fasnachol).

Adran 3: Codi proffil caffael

Caiff gwaith caffael effeithiol ei ategu gan uwch-reolwyr sy’n gallu hyrwyddo pwysigrwydd strategol hanfodol y swyddogaeth gaffael. Bydd y cynnig hwn yn ystyried pa fecanweithiau y gellir eu rhoi ar waith ar gyfer uwch-reolwyr ac aelodau etholedig ar y cam sefydlu er mwyn sicrhau bod ganddynt wybodaeth am y fframwaith rheoliadol y mae’n rhaid i waith caffael sector cyhoeddus weithredu oddi mewn iddo, a dealltwriaeth o’r gwerth ychwanegol y gall gwaith caffael effeithiol ei roi i’w galluogi i hyrwyddo’r proffesiwn.

Adran 4: Cefnogi datblygiad sgiliau ar gyfer meysydd polisi caffael presennol a rhai sy’n dod I’r amlwg

Drwy’r cynnig hwn cyflwynir cyfres o fodiwlau a thiwtorialau eDdysgu masnachol a chaffael a fydd yn helpu ymarferwyr i gynnwys damcaniaethau polisi cyfredol a damcaniaethau polisi sy’n dod i’r amlwg mewn gwaith caffael. Fe’u cyflwynir yn raddol er mwyn sicrhau darpariaeth o’r ansawdd uchaf a phrofion defnyddwyr cadarn cyn iddynt gael eu lansio a’u cyflwyno’n ehangach.

Cam 1

  • Deall Cyfrifon Banc Prosiectau a’u Rhoi ar Waith –dechrau Chwefror 2020
  • Cyfleoedd datgarboneiddio drwy gaffael – dechrau Chwefror 2020

Cam 2

  • WRAP a Chaffael – dechrau Mawrth/Ebrill 2020
  • Adeiladu Cyfoeth Cymunedol drwy gaffael – dechrau Mawrth/Ebrill 2020

Cam 3

  • Dadansoddiad o anghenion yn y dyfodol h.y. Partneriaethau Cymdeithasol ac ati.

Adran 5: Mesur ac effaith

Caiff ymgysylltiad â’r rhaglen ei fonitro drwy adroddiadau gwybodaeth reoli rheolaidd ar draws pob darpariaeth eDdysgu fodiwlaidd. Byddwn yn nodi lle mae ymgysylltiad yn isel ac yn cymryd camau i hyrwyddo’r rhaglen a gwella cyfraddau ymgysylltu. Byddwn yn ymateb i adborth ac yn gwneud gwelliannau pan fo angen neu’n rhoi cymorth pellach yn ôl yr angen.