Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi croesawu’r cynnydd o 16 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi ymarferwyr cyffredinol sydd wedi’i llenwi hyn yn hyn, o’i gymharu â’r llynedd.
Mae 84 y cant o leoedd hyfforddi meddygon teulu wedi’u llenwi ar ddiwedd y cylch cyntaf recriwtio ar hyn o bryd – o’i gymharu â 68 y cant ar yr adeg hon y llynedd.
Mae’r cynllun cymhelliant ariannol newydd mewn ardaloedd penodol o Gymru wedi gwneud cychwyn cadarnhaol. O'r ardaloedd hynny o Gymru a oedd yn rhan o'r cynllun cymhelliant ariannol newydd, mae recriwtio o dan y cylch cyntaf eisoes wedi arwain at gyfraddau llenwi o 100% yn y cynlluniau ar gyfer hyfforddi meddygon teulu yn Sir Benfro, Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Cymru. Yn dilyn ail hysbyseb mae Llywodraeth Cymru yn hyderus y bydd cyfraddau llenwi ar gyfer Ceredigion a Chanol Gogledd Cymru hefyd yn gwella.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Gwnaethom ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i barhau i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol ac i gymryd camau i ddenu a hyfforddi mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i Gymru.
"I gefnogi hyn, ym mis Hydref lansiwyd ymgyrch newydd mawr i hyrwyddo Cymru fel lle ardderchog i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu, a'u teuluoedd, hyfforddi, gweithio a byw.
"Mae'r canlyniadau gan Ddeoniaeth Cymru yn siarad drostynt eu hunain, mae'r ymgyrch wedi bod yn llwyddiant ac mae hyn yn rhywbeth i'w ddathlu.
"Ond nid dyma ddiwedd y broses ar gyfer eleni. Mae lleoedd ar gyfer 2017 yn cael eu hail-hysbysebu a phan ddaw’r broses honno i ben ym mis Mai rwyf yn hyderus y byddwn yn sicrhau cyfradd lenwi uwch byth."
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd:
"Bydd cam dau o’r ymgyrch yn targedu nyrsys mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd a’r sector cartrefi gofal ac fe gaiff ei lansio ym mis Mai. Bydd camau’r ymgyrch yn y dyfodol yn targedu fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
"Mae’r effaith sylweddol yr ydym wedi’i chael yn ystod y pum mis cyntaf yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol. Rydym yn parhau i gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i sicrhau bod pobl Cymru yn cael ei GIG y maent yn ei haeddu."