Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Cymru'n para i fod yn ddewis poblogaidd ar gyfer tripiau undydd ym misoedd yr haf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2017, cafwyd 102 miliwn o ymweliadau undydd â Chymru, gan arwain at wariant o £4,874 miliwn. Mae nifer yr ymweliadau wedi cynyddu 11% o’u cymharu â'r 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2016 ac mae'r gwariant wedi codi 51%. 

Mae'r ffigurau'n dangos bod perfformiad Cymru’n dda iawn yng nghyd-destun Prydain Fawr. Mae nifer yr ymweliadau yno wedi gostwng 1% o'u cymharu â'r 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2016 er i'r gwariant godi 5%.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: 


"Mae'r rhagolygon yn bositif iawn ar gyfer 2017. Mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref iawn er gwaethaf marchnad hynod gystadleuol ac mae'r ffigurau hyn yn dal i adlewyrchu'r llwyddiant rydym wedi'i gael dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 


"Mae'n newyddion gwych ein bod yn denu mwy o ymwelwyr i Gymru - a'u bod yn gwario mwy ar eu tripiau gan roi hwb i'r economi. Yn ogystal, dywedodd 87% o'r rhai a ymatebodd ein harolwg baromedr twristiaeth ym mis Mehefin eu bod yn teimlo'n hyderus ynghylch sut y bydd eu busnes yn perfformio dros yr haf. 

"Byddwn yn parhau â'n hymgyrch i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddenu ymwelwyr sydd am wyliau adref oherwydd y bunt wan ac i roi rhesymau cryf  i bobl ymweld â Chymru yn yr hydref.”