Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rheoli safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael eu cynnwys yn y Taliad Sylfaenol Cyffredinol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y cyhoeddiad ar ôl cyfarfod bwrdd crwn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn Sioe Frenhinol Cymru.

Dywedodd: 

Er na fydd penderfyniadau terfynol ar ddyluniad y Cynllun yn cael eu gwneud hyd nes y bydd y gwaith presennol gyda rhanddeiliaid wedi dod i ben, roedd yr adborth a ddaeth i law, gan gynnwys drwy'r ymgynghoriad, yn ymwneud yn bennaf â chynnwys SoDdGA yn y Taliad Sylfaenol Cyffredinol.

Ar ôl penderfynu ymhellach bod camau cynnal a chadw cynefinoedd yn ychwanegol at y llinell sylfaen reoleiddio, gallaf gadarnhau felly mai dyma fydd ein bwriad.

SoDdGA yw ein safleoedd bywyd gwyllt a daearegol gorau ac maent wedi'u gwarchod yn gyfreithiol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, mae angen gwella cyflwr a chysylltedd ein safleoedd morol, dŵr croyw a daearol gwarchodedig, gan greu rhwydweithiau ecolegol cydnerth a fydd yn caniatáu i'n cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf bregus ffynnu. 

Byddai cynnwys SoDdGA yn y Taliad Sylfaenol Cyffredinol yn cydnabod ymdrechion ffermwyr i reoli'r ardaloedd hyn, er ein lles ni i gyd. Byddai'n helpu i sicrhau bod y safleoedd hyn yn rhan o reolaeth ehangach ffermydd, gan daro cydbwysedd rhwng cynhyrchu bwyd a chamau gweithredu sy'n gwella rhagolygon cynefinoedd natur a dŵr croyw. Byddai hefyd yn cyfrannu at gyflawni'r amcanion Rheoli Tir Cynaliadwy sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru).

Yn dilyn trafodaeth yn nhrydydd cyfarfod y Ford Gron Gweinidogol a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon [dydd Mawrth 23 Gorffennaf], roeddwn yn falch y daethpwyd i gonsensws ar y mater hwn.

Er bod cwestiynau pwysig i'w hateb o hyd ynglŷn â dyluniad y Cynllun a'r dull talu, gan gynnwys, er enghraifft, tir comin mae hwn yn gam cadarnhaol wrth symud ymlaen ar y cyd ar agwedd allweddol ar ddyluniad y Cynllun.

Dim ond drwy amser, ymrwymiad a thrafodaethau cadarnhaol yr holl sefydliadau sydd ar y Ford Gron Gweinidogol a Grŵp Swyddogion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy y gallwn wneud y cynnydd hwn.

Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth barhaus. Mae llawer o waith i'w wneud mewn cyfnod byr o amser. Felly, mae'n rhaid inni barhau i weithio ar fyrder.