Mae llawer iawn o waith i’w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau cywir.
Wrth siarad cyn i gyfarfod gael ei gynnal rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU, mae Mark Drakeford wedi bod yn sôn am y materion pwysig y mae Llywodraeth Cymru am iddynt gael sylw wrth i ail gam y trafodaethau ddechrau.
Dywedodd Mark Drakeford:
“Er ein bod yn croesawu’r cynnydd a gafwyd yr wythnos diwethaf, mae llawer iawn o waith caled i’w wneud o hyd os ydym am lwyddo i sicrhau Brexit o’r math cywir. Bydd modd mynd ati nawr i gynnal rhagor o drafodaethau – a’r trafod hwnnw fydd yn mynd at wraidd ein perthynas â’r UE ar ôl Brexit.
“Wrth i’r trafodaethau droi at faterion manwl yn ymwneud â’r broses bontio a’r berthynas yn y tymor hir, mae’n hanfodol bod y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cynnwys yn llawn yn y negodiadau – yn wahanol i’r hyn sydd wedi bod yn digwydd hyd yma.
“Bydd y negodiadau hyn yn ymdrin â chwestiynau megis cymorth amaethyddol yn ystod y cyfnod pontio ac wedi hynny, y math o reoleiddio amgylcheddol fydd gennym yn y dyfodol, ac a fydd y DU yn parhau i fod yn rhan o raglenni addysg ac ymchwil Ewropeaidd pwysig fel Erasmus Plus a Horizon 2020. Mae’r rhain i gyd yn faterion sy’n amlwg o fewn cylch gwaith y sefydliadau datganoledig.
“Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth y DU yn cytuno ar ddull cyffredin o ymdrin â’r materion hyn, a sawl un arall, gyda’r gweinyddiaethau datganoledig cyn y negodiadau – a hynny ar sail ystyriaeth briodol o’r dystiolaeth. Mae’r mynediad a fydd gennym at y Farchnad Sengl yn y dyfodol yn un mater amlwg.”
Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn mynychu’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) gyda’r Prif Ysgrifennydd Gwladol, y Gwir Anrhydeddus Damian Green AS, a fydd yn cadeirio’r cyfarfod, ynghyd â Gweinidogion Cabinet eraill.
“Mae angen hefyd inni gael cynigion cadarn gan Lywodraeth y DU ynglŷn â gwelliannau i’r Bil i Ymadael â’r UE. Byddai hynny’n osgoi brwydr gyfansoddiadol fawr a fyddai’n gwastraffu amser ac egni pawb. Dylai’r Llywodraeth osod gwelliannau cyn i’r Bil adael Tŷ’r Cyffredin - rhywbeth y mae wedi awgrymu sy’n debygol. Os na wnaiff y Llywodraeth hynny, byddwn ni’n hollol barod i gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain. Er ein bod o’r farn mai mynd ati ar lefel y DU gyfan sydd orau – a hynny gan barchu datganoli – mae gwaith ar y gweill ar ein deddfwriaeth ni ers rhai misoedd a bydd popeth yn barod i’w gyflwyno os bydd angen.”