Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi llongyfarch busnesau yng Nghymru ar ôl clywed y newyddion bod cynnydd o £500 miliwn yng ngwerth allforion o Gymru o gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf am allforion, a gyhoeddwyd heddiw, roedd gwerth allforion o Gymru yn £16.9 biliwn yn ystod y flwyddyn tan fis Medi 2018, o gymharu â £16.4biliwn y flwyddyn gynt.  

Aeth 60.9% o allforion Cymru i wledydd sydd yn yr UE. Mae'r gyfran hon 11 pwynt canrannol yn uwch na chyfran y DU, sy'n 49.9%.

Mae'r ffigurau'n dangos hefyd fod cynnydd o £452 miliwn yn yr allforion o Gymru i wledydd yr UE, sef cynnydd o 4.6% o gymharu'r â'r 12 mis blaenorol. Yn y cyfamser, gwelwyd cynnydd o £45 miliwn (0.7%) yn yr allforion i wledydd nad ydynt yn yr UE.

Yr Almaen oedd yn dal ar y brig o ran maint y nwyddau a'r gwasanaethau o Gymru a gafodd eu hallforio yno, gydag 18.8% o gyfanswm ein hallforion yn mynd yno. Roedd 50.6% o allforion Cymru yn y categori Peiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth.  

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

“Mae'r ystadegau diweddaraf hyn yn dangos cynnydd sylweddol arall yn lefel yr allforion o Gymru, a hoffwn i longyfarch y busnesau ym mhob cwr o Gymru sydd wedi helpu i sicrhau'r llwyddiant aruthrol hwn. Mae'r ffigurau’n ganlyniad i lawer o waith caled a phenderfyniad gan ein busnesau ar adeg sydd, heb unrhyw amheuaeth, yn un heriol ac ansicr yn economaidd.

Mae'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi, a lansiwyd gennyf flwyddyn yn ôl, yn rhoi blaenoriaeth i allforion ac i fasnach, ac yn hoelio sylw ar helpu busnesau i gadw'r partneriaid masnachu sydd ganddyn nhw'n barod, ond gan roi help llaw iddyn nhw ar yr un pryd i fentro i farchnadoedd byd-eang eraill. Byddwn ni'n parhau i gydweithio'n agos ac mewn modd blaengar â'r gymuned fusnes i'w helpu yn hyn o beth.  

Unwaith eto, mae'r ystadegau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd economaidd y cysylltiadau masnachu rhagorol rhyngom ni a gwledydd yr UE sydd, ar hyn o bryd, yn 60.9% o gyfanswm ein hallforion. Rydyn ni wedi dweud yn glir bod yr hyn sydd gan Lywodraeth y DU mewn golwg ar gyfer y berthynas rhyngom a'r UE yn y dyfodol yn bell iawn o gyrraedd y nod o ran sicrhau'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd sydd eu hangen yn y tymor hir.  

Byddwn ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau Brexit a fydd yn mabwysiadu'r math o berthynas â'r UE yn y dyfodol sy’n cael ei hamlinellu yn Diogelu Dyfodol Cymru − perthynas a fydd yn sicrhau bod Cymru yn cael mynediad llawn a dirwystr i'r Farchnad Sengl ac yn cael parhau'n rhan o undeb dollau. Bydd hynny'n golygu y byddwn ni'n gallu cynnal ac adeiladu ar lwyddiannau sylweddol ein busnesau allforio a bydd hynny, yn ei dro, yn helpu i sbarduno twf yn ein heconomi.”