Mae swm ychwanegol o £250,000 wedi'i gyhoeddi i helpu gofalwyr di-dâl Cymru i ymdopi â phwysau ariannol pandemig y coronafeirws.
Cafodd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ei lansio fis Hydref diwethaf a dyrannwyd £1 filiwn iddi’n wreiddiol. Heddiw mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi chwarter miliwn o bunnoedd o arian ychwanegol ar gyfer y cynllun.
Mae’r Gronfa’n agored i ofalwyr ledled Cymru, a bydd grantiau o hyd at £300 ar gael ar gyfer amrywiaeth o hanfodion, gan gynnwys bwyd, eitemau i’r cartref fel dodrefn neu nwyddau gwynion, neu ddyfeisiau electronig fel gliniadur er mwyn cael mynediad at gymorth a gwasanaethau.
Mae tua 55,300 o bobl yng Nghymru yn cael lwfans gofalwr ac mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu bod bron i 40% o ofalwyr yn poeni am eu sefyllfa ariannol.
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mae'r pandemig wedi ychwanegu at yr heriau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl ledled y wlad ac rwy’ am ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw'n ei wneud. Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd swm ychwanegol o chwarter miliwn o bunnoedd ar gael i’r gronfa i helpu mwy o ofalwyr di-dâl a'u teuluoedd.
Bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn parhau i gael ei darparu drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sy'n chwarae rhan mor ganolog yn y gwaith o ddarparu cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl.
Bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ar gael hyd at 31 Mawrth 2021 ac mae rhagor o wybodaeth ar gael.