Mae gwerth miloedd o bunnoedd o werthiannau wedi'u cynhyrchu gan gwmnïau yn ne-ddwyrain Cymru diolch i raglen ariannu gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i chynllunio i helpu busnesau ddiogelu eu hunain at y dyfodol.
Lansiwyd Prosiect Gwella Cynhyrchiant Busnes (BPEP) Llywodraeth Cymru yn 2020 drwy'r rhaglen Cymoedd Technoleg, mewn cydweithrediad â rhaglen Arloesi SMART Lywodraeth Cymru a ariennir gan Ewrop.
Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddarparu cymorth i wella cynhyrchiant, gweithgynhyrchu digidol, dylunio cynnyrch, eiddo deallusol ac Ymchwil a Datblygu, gan wneud hynny i ddechrau drwy adroddiad diagnostig cynhyrchiant a dylunio am ddim a chynllun Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS). Gall cwmni ddefnyddio'r grant i weithredu argymhellion a nodir yn eu hadroddiad diagnostig.
Nod y prosiect yw annog a galluogi busnesau i ddiogelu at y dyfodol wrth wella effeithlonrwydd drwy gyflwyno technoleg newydd, arallgyfeirio eu sylfaen cwsmeriaid, a datblygu cynhyrchion newydd. Yn ogystal, ei nod yw cynyddu diogelwch gweithwyr ac ansawdd eu cyflogaeth, drwy godi lefelau sgiliau a chyflogau. Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd fodloni gofynion Contract Economaidd Llywodraeth Cymru, sydd a'r nod o yrru gwaith teg, twf cynhwysol ac ymddygiad busnes cyfrifol.
Ers ei lansio, mae BPEP y Cymoedd Technoleg wedi cefnogi 12 o gwmnïau ledled Blaenau Gwent, JC Mouldings, Advanced Moulds Ltd, Express Contract Drying, Swan EMS, IP Site Solutions, Radical Materials, PHH Ltd, Equi-Jewell, Cacennau Clam, Copner Biotech, Pulse Plastics a Base Handling Products.
O ganlyniad, mae'r prosiect wedi ehangu ar draws, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Torfaen a Rhondda Cynon Taf. Hyd yma mae 53 o gwmnïau wedi derbyn adroddiad diagnostig cynhyrchiant a dylunio ac wedi penderfynu gweithredu argymhellion gyda chymorth grant BPEP.
Mae gwerthusiad o'r garfan gyntaf o dderbynwyr yn dangos bod cyllid o dros £170,000 wedi helpu cwmnïau i weld cynnydd o £1.6miliwn yn eu gwerthiannau ar y cyd gydag 83% yn nodi cynnydd mewn cynhyrchiant.
Defnyddiodd Advanced Moulds Limited yn Rassau, Glyn Ebwy, y cyllid i adeiladu a pharatoi stiwdio ddylunio newydd, sydd wedi caniatáu i'r cwmni ddod â'r swyddogaeth ddylunio yn fewnol, gan greu tair swydd newydd i ddylunwyr.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Geraint Griffiths:
Fel cwmni carbon niwtral, sy'n cyflogi 92 o bobl, fe wnaeth Grant BEPB ein helpu i sefydlu a pharatoi Stiwdio Ddylunio newydd sbon y mae tri dylunydd newydd wedi'u recriwtio ar ei chyfer. Mae hyn wedi ein galluogi i ddod â'r gwaith dylunio yn fewnol am y tro cyntaf.
"Rydym hefyd wedi defnyddio'r grant i brynu peiriant Rheoli Rhifiadol Cyfrifiadurol o'r safon uchaf a fydd yn hwyluso cynhyrchu mathau newydd o gynhyrchion, a'r defnydd o ddeunyddiau newydd. Mae hyn wedi arwain at dwf parhaus gwerthiannau cynhyrchion newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli. Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn wedi ein galluogi i barhau i dyfu'r cwmni ym mhob agwedd gan gynnwys cynhyrchu, cyflogaeth a phroffidioldeb.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
Rydym yn ymrwymedig i gefnogi ein busnesau i ffynnu, gan greu swyddi o ansawdd da yn ein cymunedau.
"Mae'r BPEP yn amlwg wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwmnïau, gan eu helpu i arallgyfeirio, gwella a thyfu. Rydym bellach yn gweithio gyda hyd yn oed mwy o gwmnïau yn y rhanbarth i ehangu'r cymorth hwn ymhellach, gan helpu i greu swyddi'r dyfodol ac adeiladu economi gryfach, tecach a gwyrddach."