Bydd gwasanaethau cynghorau ledled Cymru yn cael hwb gyda chynnydd ariannol y flwyddyn nesaf.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol yn 2022 i 2023.
Bydd cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu 9.4%, ar sail debyg, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Ni fydd unrhyw awdurdod lleol yn cael llai na 8.4% o gynnydd.
Bydd gofal cymdeithasol, addysg, ailgylchu a nifer o wasanaethau allweddol eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol yn cael £5.1 biliwn o gymorth Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Cymru ac ardrethi annomestig.
Mae'r setliad yn darparu cyllid i gyflawni ymrwymiadau gan gynnwys y Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal, y cytundeb cyflog athrawon, cymorth ar ardrethi busnes, a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Mae hwn yn setliad da i lywodraeth leol sy’n rhoi llwyfan sefydlog i gynghorau gynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod a thu hwnt.
“Rydym yn cydnabod yn llawn y pwysau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda llywodraeth leol fel y gallwn ymateb i'r heriau a rennir sy'n ein hwynebu a darparu gwasanaethau er budd pobl Cymru.”
Mae’r ymgynghoriad saith wythnos ar y setliad dros dro wedi dechrau heddiw, a bydd yn dod i ben ar 8 Chwefror 2022.