Heddiw, croesawodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, y ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n dangos cynnydd o 6 y cant yn y cartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru y llynedd.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol erbyn 2021, gan gynnwys helpu i adeiladu mwy na 6,000 o gartrefi drwy gynllun Cymorth i Brynu - Cymru.
Yn 2016-17, adroddodd awdurdodau lleol fod 2,547 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu ledled Cymru, cynnydd o 6 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys cartrefi a ddarparwyd drwy Cymorth i Brynu - Cymru. Yn ystod 2016-17 darparwyd 1,864 o gartrefi drwy gynllun Cymorth i Brynu. O ystyried y rheini ynghyd â'r ystadegau ar gartrefi fforddiadwy a ryddhawyd heddiw, rydym yn gweld y cynnydd sylweddol a wnaed wrth geisio cyrraedd ein targed o 20,000 yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Dywedodd Rebecca Evans:
"Sicrhau bod gan bobl gartref diogel a chynnes yw un o'n prif flaenoriaethau. Dwi wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad tai yng Nghymru ac mae gyda ni darged uchelgeisiol i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor llywodraeth hwn. Dwi'n croesawu'r cynnydd sylweddol hwn, felly."
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Cymru oedd yn dal i wneud y cyfraniad mwyaf at dai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru, gan ddarparu 93 y cant o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2,378 o unedau).
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Dwi'n ddiolchgar i landlordiaid cymdeithasol am y rôl bwysig maen nhw'n ei chwarae. Dwi'n teimlo'n falch iawn o'r berthynas gadarnhaol ac adeiladol sydd gyda ni â'r sector Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru ac o'n hymrwymiad i gydweithio er lles tenantiaid."
Cynyddodd nifer yr unedau tai fforddiadwy a ddarparwyd â chyllid grant cyfalaf 3 y cant yn ystod 2016-17 i 1,810 o unedau, ac aeth y nifer a ddarparwyd heb gyllid grant cyfalaf i fyny 16 y cant i 737 o unedau.