Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi £16.4m o arian ychwanegol er mwyn sicrhau cynnydd o 14.5% yn nifer y lleoedd hyfforddi ar gyrsiau nyrsio a bydwreigiaeth a chynnydd o 17.7% ar gyrsiau mewn proffesiynau iechyd eraill.
Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer nyrsys a bydwragedd wedi cynyddu 55.9%, a hon yw'r chweched flwyddyn yn olynol i Lywodraeth Cymru gynyddu’r cyllid ar gyfer addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol. Mae gweithlu cyffredinol y GIG yng Nghymru wedi tyfu 10.4% dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Dywedodd Mr Gething:
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu'r gweithlu sydd ei angen ar y GIG i ateb y galw cynyddol ar ei wasanaeth. Rydym yn cyflawni hyn drwy gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi, annog pobl ifanc i ddewis proffesiwn yn y maes iechyd a recriwtio y tu allan i Gymru, gyda chefnogaeth gan ein hymgyrch lwyddiannus, Hyfforddi, Gweithio, Byw.
Rwy'n falch iawn o allu cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi unwaith eto ar gyfer nyrsys, bydwragedd a llawer o weithwyr proffesiynol eraill sy'n cynnal ein gwasanaeth iechyd. Bydd y lefel uwch nag erioed o gyllid yn cael ei ddefnyddio i gynnal y nifer fwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru.
Bydd y cynnydd hwn yn ein helpu i fynd i'r afael â phrinderau mewn meysydd blaenoriaeth ac i fodloni anghenion o ran y gweithlu yn y dyfodol, fel y nodir yn Cymru Iachach.
O fis Ebrill 2020, bydd Cymru'n hyfforddi mwy o nyrsys, bydwragedd, radiograffwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith a dietegwyr nag erioed o'r blaen.
Mae'r £16.4m o gyllid ychwanegol hefyd yn cynnwys £1.4m ar gyfer 47 o leoedd hyfforddi ychwanegol ar gyrsiau Meddygaeth Ôl-raddedig.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd hefyd y rhagorwyd unwaith eto ar y targed ar gyfer lleoedd hyfforddi Meddygon Teulu yng Nghymru. Cynyddodd y cwota ar gyfer lleoedd hyfforddi Meddygon Teulu o 136 i 160 eleni ac mae 186 o leoedd wedi cael eu llenwi.
Dywedodd Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio ac Arweinydd Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd yn AaGIC:
Rydym yn croesawu'r buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ein cynigion a fydd yn galluogi twf y gweithlu i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth a chefnogi datblygiad y gweithlu presennol.
Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i ddangos dull cynllunio sydd wedi'i integreiddio'n wirioneddol a'r flaenoriaeth gyffredinol yw gwella iechyd y boblogaeth.